BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
1999 Rhif 2935 (Cy.27)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999
|
Wedi'u gwneud |
29 Hydref 1999 | |
|
Yn dod i rym |
31 Hydref 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 33(5) a (6), 34(4), 44(5) a (6), 45(4) a (5), 48(5) a (6), ac 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn a chwmpas
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 31 Hydref 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r Rheoliadau
2.
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995[3] fel a ganlyn.
(1) Yn Rheoliad 4(3)(a), ar ôl y gair "dwelling", mewnosoder "which is listed in a valuation band other than valuation band A".
(2) Yn Rheoliad 5(2), ar ôl y geiriau "exempt on that day", ychwaneger
"
and, in the case of valuation band A and for a financial year beginning on or after 1 April 2000, by deducting the number calculated by applying the formula-
where-
HH is the authority's estimate of the number of dwellings listed in band A (excluding dwellings which are to be treated as listed in that band by virtue of the provisions of Regulation 4(3) where the person who is liable to pay council tax in respect of the dwelling is liable to pay a reduced amount pursuant to the Council Tax (Reductions for Disabilities) Regulations 1992[4]).
"
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[5]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Hydref 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 ("y prif Reoliadau") yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo sylfaen treth gyngor awdurdod lleol. Defnyddir hyn at gyfrifo treth gyngor ac, yn ei hanfod, nifer yr anheddau o fewn ardal awdurdod lleol ac sy'n gyfwerth â band prisio D ydyw, gan gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill, symiau gostyngol sy'n daladwy gan aelwydydd sy'n cynnwys person anabl yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau o ganlyniad i Reoliadau Treth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) (Diwygio) 1999 sydd, o 1 Ebrill 2000 ymlaen, yn darparu y gall anheddau ym mand prisio A fod yn gymwys i ostyngiad anabledd am y tro cyntaf. Mae'r diwygiadau i'r prif Reoliadau yn sicrhau y bydd sylfaen y dreth gyngor i ardal yn cymryd i ystyriaeth effaith gostyngiadau anabledd mewn perthynas ag anheddau ym mand prisio A.
Notes:
[1]
1992 p.14.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1995/2561.back
[4]
O.S. 1992/554, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/195 ac O.S. 1999/1004.back
[5]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 090012 X
|
Prepared
30 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992935w.html