BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993470w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3470 (Cy.56)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 22 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 23 Rhagfyr 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], a freiniwyd ynddo bellach[3]:

Enwi, chychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygiadau
    
2.  - (1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996[4]) fel a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

    (2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998[5] fel a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999



ATODLEN 1
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL "OWNER-OCCUPIER'S AND TENANT'S APPLICATIONS FOR HOUSING RENEWAL GRANTS"


     1. Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan yngln â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle "Disability working allowance" rhodder "Disabled person's tax credit (previously known as disability working allowance)" ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder "Note 54A".

     2. Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer "(if less than 16 hours per week)".

     3. Yng nghwestiwn 3.29  - 

     4. Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder  - 

     5. Yng nghwestiwn 3.38  - 

     6. Ar ôl nodyn 54, mewnosoder  - 

     7. Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder  - 

     8. Ar ôl nodyn 93, mewnosoder  - 

     9. Yn nodyn 95(1)(a), yn lle "disability working allowance" rhodder "disabled person's tax credit (previously known as disability working allowance)".



ATODLEN 2
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL "CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI"


     1. Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan yngln â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle "Lwfans gweithio i'r anabl" rhodder "Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)" ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder "Nodyn 54A".

     2. Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer "(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos).".

     3. Yng nghwestiwn 3.29  - 

     4. Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder  - 

     5. Yng nghwestiwn 3.38  - 

     6. Ar ôl nodyn 54, mewnosoder  - 

     7. Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder  - 

     8. Ar ôl nodyn 93, mewnosoder  - 

     9. Yn nodyn 95(1)(a), yn lle "lwfans gweithio i'r anabl" rhodder "credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio :

Mae'r diwygiadau gan fwyaf yn dilyn y rheiny a wneir gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3468) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S.1996/2890). Mae mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.


Notes:

[1] 1996 p.53. Am ddiffiniad o "prescribed" gweler adran 101 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.back

[2] 1993 p.38.back

[3] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[4] O.S. 1996/2891; diwygiwyd gan O.S. 1997/978, 1998/809 a 1999/1607.back

[5] O.S. 1998/1113; diwygiwyd gan O.S. 1999/2316back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090026 X


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993470w.html