BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000992w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1997" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[3]. Diwygiad 2. Yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 rhoddir -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("y Ddeddf") ac maent yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 ("Rheoliadau 1997"). Mae Rheoliadau 1997 yn ymwneud â'r system cyllid cyfalaf ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n weithredol ers 1 Ebrill 1990. O dan Ran IV o'r Ddeddf mae'n ofynnol bod gan yr awdurdodau lleol swm o ddarpariaeth gredyd ar gael pan fyddant yn gwneud neu'n amrywio trefniant credyd oni bai bod y trefniant credyd yn cael ei hepgor o'r gofyniad gan reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Rheoliad 40 newydd yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 fel nad oes angen mwyach i awdurdod lleol ddarparu darpariaeth gredyd wrth wneud trefniant credyd sy'n drosglwyddiad cyllid preifat. Notes: [1] 1989 p.42.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|