BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001708w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1708 (Cy.115)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2000 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28F(1) a (2) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: - 

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferwyr Meddygol) 1998[
2].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau
     2. Ar ddiwedd rheoliad 1 o'r prif reoliadau, mewnosodir y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1998 ("y prif Reoliadau") sy'n ymwneud â hawl personau i ddewis y meddyg y maent yn dymuno cael gwasanaethau meddygol sylfaenol ganddo.

Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1999 ("Rheoliadau 1999") ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 1999 yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (dyrannu personau i feddygon) drwy ddiwygio'r darpariaethau ar gyfer Awdurdod Iechyd sy'n dyrannu claf i feddyg er mwyn i Awdurdod Iechyd gael rhoi ystyriaeth i gleifion sydd wedi bod yn dreisgar tuag at eu meddyg yn y gorffennol, er mwyn dewis meddyg gyda'r cyfleusterau mwyaf priodol.

Mae Rheoliadau 1999 yn gwneud diwygiadau tebyg hefyd i Reoliad 5 o'r prif Reoliadau, sy'n ymwneud â dyrannu claf i feddyg gan "pilot scheme provider" (darparydd cynllun peilot).


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26 (2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 28F gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 23(1). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a (mewn perthynas â Lloegr) Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 28F, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo).back

[2] O.S. 1998/668.back

[3] O.S. 1999/3179.back

[4] 1998 p.38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001708w.html