BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001867w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1867 (Cy.126 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 138(7) a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddi, sef pwerau sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, Cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.

    (2) Yn y rheoliadau hyn  - 

    ystyr "y dyddiad gweithredol" ("the operative date") yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; ac

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1999
     2. Diwygir Rheoliadau 1999 mewn perthynas â Chymru yn unig drwy ddisodli Rheoliad 54 o'r Rheoliadau hynny â'r rheoliadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Trosglwyddiadau o'r awdurdodau addysg lleol
    
3.  - (1) Os oes unrhyw eiddo heblaw tir neu unrhyw hawl neu rwymedigaeth nad yw'n gysylltiedig â thir wedi'u trosglwyddo, cyn y dyddiad gweithredol, i awdurdod addysg lleol ac wedi'i freinio ynddo yn rhinwedd rheoliad 54 o Reoliadau 1999, bydd yr eiddo, yr hawl neu'r rhwymedigaeth a enwyd, ar y dyddiad gweithredol, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu yr ysgol berthnasol a gyfansoddwyd o dan yr erthygl llywodraethu ac yn breinio ynddo.

    (2) Yn y rheoliad hwn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynlliad Cenedlaethol Cymru

14 Gorffennaf 2000



ATODLEN
Rheoliad 2


Rheoliadau sy'n disodli rheoliad 54 o Reoliadau 1999




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999.

Yn ei ffurf wreiddiol, mae Rheoliad 54 o'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer breinio  - 

    (a) holl eiddo (gan gynnwys tir) corff llywodraethu wedi'i grwpio a ddelir neu a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol;

    (b) holl hawliau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu wedi'i grwpio a gafwyd neu a dynnwyd at y dibenion hynny,

yng nghorff llywodraethu unigol newydd yr ysgol o dan sylw (yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) neu yn yr awdurdod addysg lleol (mewn achosion eraill).

Serch hynny, nid dyna oedd y bwriad. Y bwriad oedd y dylai eiddo heblaw tir , a'r hawliau a'r rhwymedigaethau cysylltiedig, ym mhob achos , freinio yng nghorff llywodraethu unigol newydd yr ysgol o dan sylw. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau cynharach i adlewyrchu'r bwriad hwnnw. Darperir hefyd ar gyfer breinio unrhyw eiddo heblaw tir, ynghyd ag unrhyw hawliau a rhwymedigaethau cysylltiedig sydd eisoes wedi mynd i'r awdurdod addysg lleol o dan yr hen reoliad 54, yng nghorff llywodraethu unigol yr ysgol briodol.

Mae'r diwygiadau yn gymwys yn Lloegr eisoes, yn rhinwedd Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 1999 (O.S. 1999/3297).


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] O ran adran 138(7) ac Atodlen 10 gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac o ran adran 144 Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253.)back

[3] O.S. 1999/362.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1998 p.40; diwygiwyd gan Atodlen 29 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001867w.html