BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio (Rhif 2) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001992w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1992 (Cy. 144 )

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio (Rhif 2) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 1 Awst 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: - 

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso.
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio (Rhif 2) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
2].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1992
     2. Yn Rheoliad 34(2) o Reoliadau 1992 (taliadau), yn lle is-baragraff (e) rhoddir  - 

      " (e) allowances for study leave;".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn peri diwygiadau pellach i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("Rheoliadau 1992"), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 34 o Reoliadau 1992 yn gwneud darpariaeth, ym mharagraff (1), i Awdurdod Iechyd wneud taliadau, yn unol â chyfraddau ac amodau a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, i feddygon sy'n darparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ei ardal.

O fis Awst 2000 ymlaen, ni fydd hyfforddiant galwedigaethol Ymarferwyr Cyffredinol yn cael ei ariannu mwyach o gyllideb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Awdurdod Iechyd. Ar ôl hynny, bydd Awdurdod Iechyd yn gwneud taliadau mewn perthynas â lwfansau ar gyfer hyfforddiant Ymarferwyr Cyffredinol yn unol â chyfarwyddiadau i Awdurdodau Iechyd ynghylch Cofrestryddion Ymarfer Cyffredinol.

Gan hynny, mae rheoliad 34(2) o Reoliadau 1992 yn cael ei ddiwygio er mwyn tynnu'r cyfeiriad at lwfansau ar gyfer hyfforddiant meddygon o blith y materion y mae'n rhaid darparu ar eu cyfer o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.


Notes:

[1] 1977 p. 49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41), Atodlen 6, paragraff 2; gan y Ddeddf Feddygol 1983 (p. 54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, paragraff 8. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); ac (yn Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back

[2] O.S. 1992/635, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/540 a 1997/2468.back

[3] 1998 p. 38. back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001992w.html