BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000350w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000. Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998[3] lle bônt yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod. (2) Yn rheoliad 2 (dehongli) -
3.
Yn rheoliad 3(2) (mewnforion tatws sy'n deillio o'r Aifft) a rheoliad 5A(1) (taliadau a godir am samplu mewnforion tatws), rhodder "Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al."[8] yn lle'r geiriau "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 99/842/EC ar waith, gan ddiwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi dros dro yr Aelod-wladwriaethau i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft (OJ Rhif L326, 18.12.99, t.68) drwy ddiwygio'r diffiniad o "the Decision" yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 1998 ("Rheoliadau 1998") (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad 99/842/EC yn gwneud mân newidiadau i'r gofynion sy'n gymwys i datws sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaethau o'r Aifft. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd:
(b) yn rhoi'r term "Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al." yn lle'r cyfeiriadau at "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith" yn Rheoliadau 1998 (rheoliad 2(3)).
Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167.back [4] O.J. Rhif L115, 9.5.96, t.47.back [5] O.J. Rhif L25, 31.1.98, t.101.back [6] O.J. Rhif L225, 12.8.98, t.34.back [7] O.J. Rhif L326, 18.12.99, t.68.back [8] Adwaenwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al gynt fel Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith.back
|