BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000908w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 908 (Cy. 39 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989[3] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1A), ar ôl "1st April 1995", mewnosoder "or 1st April 2000".

    (3) Ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), ar ôl "in the case of", mewnsoder "a defence hereditament,".

    (4) Ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o "the appropriate rate", mewnsoder ""defence hereditament" means a hereditament which is occupied (or if unoccupied, owned) by the Secretary of State for Defence";

    (5) Ym mharagraff (3), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o "educational hereditament"  - 

    (a) yn lle "section 41 of the Education Act 1944 as read with section 14 of the Further and Higher Education Act 1992 ("the 1992 Act")", rhodder "section 2 of the Education Act 1996 ("the 1996 Act")";

    (b) ar ôl "the Education Reform Act 1988", mewnosoder "("the 1988 Act")"; ac

    (c) yn is-baragraff (ii), yn lle "the 1992 Act", rhodder "the Further and Higher Education Act 1992 ("the 1992 Act")".

    (6) Ym mharagraff (3), yn y diffiniad o "school", yn lle "section 114(1) of the 1944 Act", rhodder "section 4 of the 1996 Act".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[4]


D Ekis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i werth ardrethol hereditament annomestig gael ei ganfod drwy gyfeirio at y rhent yr amcangyfrifir y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl wrth osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.

Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 yn darparu ar gyfer prisio drwy gyfeirio at gost dybiannol adeiladu hereditament ("sail y contractiwr"), lle nad oes dystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, ac yn pennu'r gyfradd ganrannol flynyddol sydd i'w chymhwyso at y gost adeiladu dybiannol.

Mae paragraff (1A) o Reoliad 2 yn cymhwyso'r gyfradd benodedig at hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig a luniwyd ar 1 Ebrill 1995 ac mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cymhwysiad hwnnw i hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig Cymru sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2000.

Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu "defence hereditament" (fel y'i ddiffinnir) i'r mathau o hereditament y pennir ym mharagraff (2A) (b) o Reoliad 2 ac yn diwygio'r diffiniadau o "educational hereditament" a "school" yn sgil Deddf Addysg 1996.


Notes:

[1] 1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) ar gyfer y diffiniad o "prescribed".back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1989/2303, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/544 ac O.S. 1994/3122.back

[4] 1998 p.38back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000908w.html