BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000911w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 911 (Cy. 40)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 23 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 24 Mawrth 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46 a 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 24 Mawrth 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[
3].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau
     2.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (4) mewnosodir y paragraff canlynol:

    (3) Yn rheoliad 22, yn lle "80 canran" gosodir "75 canran".

    (4) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 40 gosodir y paragraff canlynol -

         " 40A -

        (1) In relation to the financial years beginning on 1st April 2000, 1st April 2001 and 1st April 2002, expenditure which the authority estimate they will incur in respect of those financial years in meeting increases in the level of teacher salary costs, as compared with the level of such costs for the financial year beginning on 1st April 1999, being increases arising in consequence of -

      (a) any changes in the pay structure for teachers contained in, or given effect to by, any order made under section 2 of the School Teachers' Pay and Conditions Act 1991[5] coming into force after the date of these Regulations; or

      (b) he employment of advanced skills teachers.

        (2) In sub-paragraph (1) -

      (a) "teacher" does not include a head teacher or deputy head teacher; and

      (b) "advanced skills teacher" means a teacher who has been certified by an assessor appointed by the Secretary of State for Education and Employment as eligible for the appointment to that post and who has been so appointed.".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[6]


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad

23 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 gydag effaith o 24 Mawrth 2000 ymlaen.

Maent yn caniatáu awdurdodau lleol ddosbarthu cyllid ychwanegol sy'n codi yn sgil ailstrwythuro tâl athrawon i'r ysgolion mewn ymateb i'r angen yn yr ysgolion unigol, a hynny am gyfnod trosiannol o hyd at dair blynedd; neu ymgorffori ffactor sy'n gysylltiedig â'r cyllid ychwanegol yn fformwlâu dosbarthu yr Awdurdodau Addysg Lleol o 2000-01 ymlaen.

Ceir tri diwygiad, fel a ganlyn:

    
1. Diwygir Rheoliad 9 fel y bydd unrhyw ymgynghori ag ysgolion ynghylch newidiadau i'r fformwla ddosbarthu mewn perthynas ag arian ar gyfer ailstrwythuro tâl athrawon neu â chyflogi athrawon uwch-fedrau ar 30 Tachwedd 1999 neu wedyn yn bodloni'r gofynion ynghylch ymgynghori a nodwyd yn y rheoliad hwnnw (rheoliad 2(2)).

    
2. Diwygir rheoliad 22 er mwyn lleihau'r canran o gyfrannau cyllideb ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n rhaid eu pennu ar sail ffactorau sy'n cyfeirio at ddisgyblion o 80% i 75% (rheoliad 2(3)); a

    
3. Mewnosodir paragraff newydd yn Atodlen 2 er mwyn caniatáu, am y blynyddoedd ariannol 2000-01, 2001-02 a 2002-03, i awdurdodau addysg lleol ddidynnu'r ddarpariaeth ar gyfer cost y canlynol o'r gyllideb ysgolion lleol a'i chadw yn ganolog -

    (a) ailstrwythuro tâl athrawon sy'n dod yn effeithiol ar ôl dyddiad y rheoliadau; a

    (b) cyflogi athrawon uwch-fedrau.


Notes:

[1] 1998 p.31. Am ystyr "prescribed" and "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/101.back

[4] O.S. 2000/911 (W.40)back

[5] 1991 p.49. Diwygiwyd adran 2 gan baragraff 161 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 p.35 (sef diwygiadau sy'n parhau mewn grym yn rhinwedd paragraff 161 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996, p.56) a pharagraff 26 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[6] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000911w.html