BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 496 (Cy. 23)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), gan ei fod wedi'i ddynod[1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:
RHAN I -
CYFFREDINOL
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas a Chymru.
Diffiniadau
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
mae "amaethyddiaeth" ("agriculture") yn cynnwys garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth a bridio a chadw da byw, defnyddio'r tir fel tir pori, doldir, tir helyg, gerddi marchnad a phlanhigfeydd, a defnyddio'r tir ar gyfer coetiroedd pan yw'r defnydd hwnnw'n atodol i ddefnyddio'r tir at ddibenion amaethyddol eraill, a dehonglir "amaethyddol" ("agricultural") yn unol â hynny;
ystyr "blwyddyn gynllun" ("scheme year") yw blwyddyn galendr;
ystyr "buwch fridio" ("breeding cow") yw buwch sugno neu fuwch llaeth;
mae i "buwch sugno" yr un ystyr ag i "suckler cow" yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) 1254/1999[3]);
mae i "cais am gymorth arwynebedd" yr un ystyr ag a roddir i "area aid application" yn erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 3508/92[4]);
ystyr "ceisydd" ("claimant") yw person sy'n gwneud cais am lwfans iawndal a enwir yn daliad Tir Mynydd a dehonglir "cais" ("claim") yn unol â hynny;
ystyr "daliad" ("holding") yw'r holl unedau cynhyrchu a reolir gan y ceisydd ac sydd wedi'u lleoli o fewn y Deyrnas Unedig;
ystyr "dwysedd stocio" ("stocking density") yw'r nifer o unedau da byw wedi ei rannu gan y nifer o hectarau;
ystyr "gorbori" ("overgrazing") yw pori tir â chymaint o dda byw ag i effeithio'n andwyol ar dwf, ansawdd neu gynnwys rhywogaethol y llystyfiant (heblaw llystyfiant a borir fel rheol nes ei ddifa) ar y tir hwnnw i raddau arwyddocaol, a dehonglir "wedi'i orbori" ("overgrazed") yn unol â hynny;
mae i "heffer" yr un ystyr ag i "heifer" yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) 1254/1999;
ystyr "IACS" yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/92;
ystyr "mamog" ("ewe") yw dafad fenyw sy'n un mlwydd oed o leiaf neu sydd wedi dod ac oen cyn 15 Mai yn y flwyddyn y gwneir cais am daliad Tir Mynydd;
ystyr "mapiau dynodedig" ("designated maps") yw'r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi'u rhifo 1 a 2, a'r ddwy gyfrol wedi'u marcio "Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales" ac â rhif y gyfrol, dyddiedig 20 Mai 1991, wedi'u llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac wedi'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr "pensiwn ymddeol" ("retirement pension") yw pensiwn categori A neu gategori B o fewn ystyr pensiwn "category A" a "category B" yn adran 20(1)(f) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[5], neu bensiwn categori C neu gategori D o fewn ystyr pensiwn "category C" a "category D" yn adran 63(f) o'r Ddeddf honno neu fudd-dâl ymddeol graddedig fel y cyfeirir ato yn adran 62 o'r Ddeddf honno;
ystyr "person awdurdodedig" ("authorised person") yw person sy'n cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, pu'n a yw'n swyddog y Cynulliad Cenedlaethol neu beidio;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn 1750/1999" ("Commission Regulation 1750/1999") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 [6] a bennodd reolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);
ystyr "Rheoliad y Cyngor 1257/1999" ("Council Regulation 1257/1999") [7] yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac a ddiwygiodd Reoliadau penodol a'u diddymu;
ystyr "Rheoliad y Cyngor 3508/92" ("Council Regulation 3508/92") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) 3508/92 yn sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth y Gymuned;
ystyr "coetir" ("woodland") yw tir a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer tyfu coed;
ystyr "tir cymwys" ("eligible land") yw tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol sy'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn;
ystyr "tir tan anfantais" ("disadvantaged land") (heblaw yn yr ymadrodd "tir tan anfantais ddifrifol") yw'r tir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig;
ystyr "tir tan anfantais ddifrifol" ("severely disadvantaged land") yw tir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;
ystyr "tir porthiant" ("forage land") yw tir a ddefnyddiwyd i bori neu fwydo da byw ac a gynhwyswyd fel tir o'r fath mewn cais dilys am gymorth arwynebedd a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn berthnasol;
ystyr "tir llai ffafriol" ("less favoured area") yw tir sydd tan anfantais neu dan anfantais ddifrifol;
ystyr "uned gynhyrchu" ("production unit") yw tir a ffermir gan geisydd fel uned unigol, gan ystyried cyflenwadau o beiriannau, da byw, porthiant a gweithwyr;
ystyr "uned da byw" ("livestock unit") yw uned mesur rhifau da byw, ac mae'r canlynol yn ffurfio un uned da byw: -
(a) un fuwch sugno;
(b) 1.67 o heffrod;
(c) 6.67 o ddefaid benyw sy'n gymwys o dan y Cynllun Premiwm Blynyddol Defaid yn unol â'r Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992[8]) fel y diwygiwyd.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu atodlen â rhif (heb unrhyw cyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r atodlen a rifir felly yn y Rheoliadau hyn.
RHAN II -
Y CYNLLUN
Ceiswyr cymwys
3.
- (1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliadau o dan y cynllun Tir Mynydd:
(a) os ydynt wedi cyflwyno cais dilys am gymorth arwynebedd a ddangosodd bod tir cymwys yn bodoli;
(b) os ydynt wedi ymrwymo i barhau i ffermio o leiaf chwe hectar o dir cymwys am bum mlynedd o ddyddiad taliad Tir Mynydd cyntaf; ac
(c) os ydynt wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cylwynir y cais Tir Mynydd; a
(d) os ydynt yn cymhwyso arferion ffermio da, sy'n gydnaws â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, drwy ffermio cynaliadwy yn benodol.
(2) Yr arwynebedd cymwys yw'r tir porthiant o fewn yr ardal lai ffafriol a ddatganwyd ar y ffurflen gais IACS am gymorth arwynebedd ar gyfer y flwyddyn gynllun, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol mewn perthynas â thir a borir gan fuchod llaeth.
(3) Os oes gan y ceisydd, ar ddyddiad y cais Tir Mynydd, swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael , bydd arwynebedd y tir cymwys yn cael ei leihau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(4) Cyfrifir y lleihad trwy gyfeirio at y nifer o anifeiliaid yn y fuches laeth dybiannol.
(5) Cyfrifir y nifer o unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol trwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd â 5730, sef y nifer o litrau o laeth y bernir ei fod yn cyfateb i gynnyrch blynyddol un fuwch laeth.
(6) Mae'r unedau da byw hynny yn cael eu cymhwyso'n gyntaf i'r rhan honno o'r daliad nad yw'n dir cymwys ar y raddfa o un hectar ar gyfer pob dwy uned da byw sy'n cael eu cyfrifo felly.
(7) Mae'r unedau da byw sydd ar ôl yn cael eu defnyddio i gyfrifo'r lleihad mewn tir cymwys yn ôl yr un gyfradd, gan leihau'r tir tan anfantais cyn y tir tan anfantais ddifrifol.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr "buches laeth dybiannol" yw cyfanswm yr anifeiliaid y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i "swmp cyfeiriol unigol o laeth" yr un ystyr ag i "individual reference quantity of milk" yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn 2342/1999[9])
Y dwysedd stocio isaf
4.
- (1) I fod yn gymwys i gael taliadau Tir Mynydd rhaid bod gan y daliad ddwysedd stocio o 0.1 uned da byw o leiaf am bob hectar.
(2) Pan fydd dwysedd stocio is yn ofynnol gan gynlluniau amgylcheddol neu gadwraeth natur y mae'r ceisydd yn cymryd rhan ynddynt, fe ganiateir dwysedd stocio is.
Y dwysedd stocio uchaf
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) isod, ni fydd unrhyw ddwysedd stocio uchaf yn cael ei ragnodi.
(2) Bydd daliad y mae ei ddwysedd stocio yn 1.8 uned da byw am bob hectar neu'n uwch yn cael ei archwilio gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod 2001 (neu yn y flwyddyn gyntaf y bydd y dwysedd yn uwch na'r ffigur hwnnw) ac o leiaf bob tair blynedd wedi hynny.
(3) Os bydd archwiliad o dan baragraff (2) uchod yn dangos tystiolaeth sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod gorbori yn digwydd, fe fydd yn ofynnol i'r ceisydd wneud cytundeb rheoli gyda'r Cynulliad Cenedlaethol gyda golwg ar gael gwared ar y gorbori hwnnw. Rhaid i'r cytundeb nodi amserlen i'r ceisydd addasu ei gyfradd stocio i ddileu'r perygl o orbori.
(4) Bydd unrhyw geisydd y mae ei ddaliad wedi'i archwilio (a bod yr archwiliad hwnnw wedi arwain at dystiolaeth o orbori) ond nad yw wedi gwneud cytundeb rheoli â'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydymffurfio â thelerau'r cytundeb rheoli o'r fath, yn peidio â bod yn gymwys ar gyfer taliadau Tir Mynydd nes i'r cynllun rheoli gael ei gwblhau neu nes y cydymffurfir ag ef, yn ôl fel y digwydd.
Cyfrifo taliadau arwynebedd - elfen 1
6.
- (1) Bydd ceisydd sy'n bodloni'r amodau a nodir yn rheoliadau 3,4 a 5 uchod yn gymwys i gael taliadau o dan elfen 1 o'r cynllun yn unol â'r cyfrifiad a gynhwysir yn Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Bydd y cyfrifiad sylfaenol a wneir yn unol a Rhan A o'r Atodlen yn ddarostyngedig i'r mecanwaith meinhau a nodir yn Rhan B o'r Atodlen , pan fydd y tir porthiant cymwys yn fwy na 140 hectar.
(3) Bydd dull cyfrifo elfen 1 o'r taliad arwynebedd hefyd yn ddarostyngedig i fecanwaith diogelwch a gyfrifir y mecanwaith diogelwch yn unol â Rhan C o'r Atodlen .
Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun
7.
- (1) Bydd gan geiswyr hawl i gael ymchwydd o'r taliad sy'n daladwy iddynt mewn perthynas ag elfen 1 o'r cynllun Tir Mynydd os ydynt yn gymwys o dan un neu fwy o'r categorïau a bennir yn rheoliad 8 isod.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) isod, bydd gan unrhyw geisydd sy'n bodloni un o'r categorïau hawl i gael taliad chwyddo o 10 y cant o'r taliad a gyfrifwyd o dan elfen 1.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) isod, bydd gan unrhyw geisydd sy'n bodloni dau neu fwy o'r categorïau hawl i gael taliad chwyddo o 20 y cant o'r taliad a gyfrifwyd o dan elfen 1.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol addasu'r taliadau chwyddo sy'n daladwy i geiswyr yn unol â'r rheoliad hwn os bydd cyfanswm y taliadau chwyddo y cyfrifir eu bod yn daladwy o dan y rheoliad hwn yn dod i fwy na phump y cant o'r gyllideb gyfan ar gyfer y cynllun Tir Mynydd yn ystod 2001 a 2002 a deg y cant ar gyfer y blynyddoedd dilynol. Os felly, bydd y taliad chwyddo canrannol yn cael ei leihau i'r ganran a fydd yn cyfyngu cyfanswm y taliadau chwyddo i bump y cant o gyllideb Tir Mynydd ar gyfer 2001 a 2002 a deg y cant ar gyfer y blynyddoedd dilynol.
Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol
8.
Mae'r categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7 uchod fel a ganlyn:
(a) bod y daliad yn cynnwys cymhareb o o leiaf un fuwch fridio ar gyfer pob 30 mamog yn yr ardal lai ffafriol;
(b) bod y fferm wedi'i chofrestru yng Nghofrestr ar Safonau Bwyd Organig y Deyrnas Unedig (corff yr hysbyswyd Y Comisiwn Ewropeaidd ei fod wedi'i ddynodi fel awdurdod archwilio) mewn perthynas â thir nad yw eisoes yn destun cytundeb o dan naill ai'r cynllun cymorth organig neu'r cynllun ffermio organig;
(c) bod gan y fferm o leiaf ddau y cant o'r tir ardal llai ffafriol (gyda lleiafswm o un hectar) sydd o dan un neu fwy o gnydau âr, cnydau gwreiddlysiau neu gnydau garddwriaethol maes (ac eithrio indrawn a thir glas) nad yw'n dir y gwnaed cais am daliadau cymorth tir âr ar ei gyfer;
(ch) nad yw'r dwysedd stocio yn fwy na 1.2 uned da byw am bob hectar;
(d) os yw'r ceisydd yn arfer hawliau pori ar dir comin a gofrestrwyd o dan Dddedf Cofrestru Tir Comin 1965[10]) yn yr ardal lai ffafriol, bod y ceisydd, a phob porwr arall, yn mynd â'r holl stoc oddi ar y tir comin hwnnw ar yr un pryd am gyfnod o dri mis o fewn y cyfnod o fis Medi tan fis Chwefror yn gynwysedig o fewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis;
(dd) bod o leiaf ddau y cant o'r ardal lai ffafriol ar y daliad (gyda lleiafswm o un hectar) yn goetir collddail sydd wedi'i ffensio a'i reoli fel bod modd caniatau mynediad ar gyfer pori ac nad yw fel arall yn denu cymorth polisi amaethyddol cyffredin o dan Gynllun Premiwm Coetir Cymru;
(e) bod y fferm wedi'i chofrestru o dan gynllun gwarantu ffermydd cymeradwy ar gyfer cig eidion neu ddefaid neu'r ddau a hwnnw'n gynllun sydd wedi'i achredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig.
RHAN III -
GWEINYDDU
Taliadau
9.
- (1) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y taliadau i'r ceiswyr yn ystod y flwyddyn gynllun y mae'r cais yn ymwneud â hi.
(2) Ni wneir taliadau ond i geiswyr sydd wedi gwneud ymrwymiad ar y ffurf y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu i barhau i ddefnyddio o leiaf chwe hectar o dir porthiant llai ffafriol am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y taliad cyntaf o dan y cynllun Tir Mynydd.
(3) Bernir bod ffermwyr a gyflwynodd gais am lwfans iawndal da byw tir uchel (HLCA) yn y flwyddyn 2000 ac yn ystod blynyddoedd olynol blaenorol wedi cydymffurfio â'r ymrwymiad os yw'r blynyddoedd cynharach hynny, o'u cymryd gyda'r blynyddoedd y buont yn cymryd rhan yn y cynllun Tir Mynydd yn dod i'r cyfanswm angenrheidiol o bum mlynedd yn olynol neu fwy na hynny.
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu talu elfen un ac elfen dau o'r taliad Tir Mynydd ar wahân.
Ceisiadau
10.
- (1) Bydd ceisiadau am daliad o dan y cynllun Tir Mynydd ar y ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu o dro i dro.
(2) Fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgorffori'r cais am daliad Tir Mynydd yn y ffurflen gais cymorth arwynebedd IACS.
(3) Y dyddiad cau fydd 15 Mai. Ymdrinir â cheisiadau hwyr yn unol â darpariaethau rheoliad 11 isod.
Ceisiadau hwyr
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os yw'r ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol a rheoliad 10 uchod, fe fydd y swm a fyddai fel arall yn daladwy yn cael ei leihau un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau i'r dyddiad y cafwyd y cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (boed yn ddiwrnodau gwaith neu beidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Mynydd.
(3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure ac i'r graddau y mae'n cael ei gyflwyno felly.
(4) Yn y rheoliad hwn -
(a) ystyr "diwrnod gwaith" yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn yl y Banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[11]); a
(b) ystyr "force majeure" yw amgylchiadau anarferol ac anrhagweladwy y tu allan i reolaeth y ceisydd na fyddai modd eu hosgoi petai'r ceisydd wedi arfer pob gofal dyladwy.
Rhyddhau o ymrwymiadau
12.
Rhyddheir ceisydd yn rhinwedd y rheoliad hwn o'r ymrwymiad y cyfeirir ato yn rheoliad 9(2) uchod:
(a) pan fydd y ceisydd yn derbyn pensiwn ymddeol fel y'i diffinir yn rheoliad 2 (1) uchod am y tro cyntaf;
(b) os nad yw'r ceisydd yn gallu parhau i gyflawni ei ymrwymiad oherwydd amgylchiadau perthnasol y tu hwnt i reolaeth y ceisydd; neu
(c) os yw'r ceisydd yn peidio â ffermio, ond bod o leiaf chwe hectar o'r tir cymwys a ddefnyddiwyd ddiwethaf gan y ceisydd ar gyfer pori anifeiliaid yn parhau i gael eu defnyddio felly.
Cadw'n ôl neu adennill taliadau
13.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gadw'n ôl neu adennill ar alwad y cyfan neu ran o unrhyw daliad Tir Mynydd a wnaed neu sydd i'w wneud i geisydd o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol: -
(a) os nad yw'r ceisydd yn cydymffurfio â thelerau ymrwymiad a roddwyd o dan reoliad 9(2) pan nad yw'r ceisydd wedi'i ryddhau yn unol â rheoliad 12;
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gwybod i'r ceisydd nad yw'n fodlon ar gywirdeb unrhyw ddatganiadau a wnaed gan y ceisydd i ategu'r cais;
(c) os yw'r ceisydd, neu weithiwr cyflogedig gwas neu asiant y ceisydd, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig neu berson sydd gyda pherson awdurdodedig a sy'n gweithredu ar gyfarwyddyd y person awdurdodedig, rhag gweithredu unrhyw b er a roddwyd i'r person awdurdodedig gan reoliad 16, neu nad yw'n cydymffurfio heb esgus rhesymol a gofynion y person awdurdodedig o dan y rheoliad hwnnw neu a chais wnaed gan y person awdurdodedig yn unol â'r rheoliadau hyn.
Cyfradd llog
14.
Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn adennill y cyfan neu ran o unrhyw daliad a wnaed i geisydd, fe gaiff hefyd adennill llog arno yn ôl y cyfradd o un y cant uwchben y gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis gan gyfrifo'r llog hwnnw o ddydd i ddydd am y cyfnod o adeg talu i'r ceisydd i adeg adennill taliad oddi wrth y ceisydd, oni bai bod yr arian a adenillwyd wedi ei dalu i'r ceisydd yn sgil camgymeriad ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, ei weision neu ei asiantau.
Daliadau Trawsffiniol
15.
Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir mewn un neu fwy o'r canlynol, sef Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Chymru.
RHAN IV -
GORFODI
Pwerau personau awdurdodedig
16.
- (1) Os gofynnir i berson awdurdodedig ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol, ac sy'n dangos ei awdurdod, a'i fod yn gallu ei dangos, caiff arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn, ar bob adeg resymol, er mwyn -
(a) gweithredu unrhyw fesur rheoli penodedig;
(b) darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 18 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu
(c) sicrhau bod taliadau Tir Mynydd yn cael eu gwneud mewn achosion priodol yn unig.
(2) Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n cael ei feddiannu gan geisydd neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod yn ei feddiannu neu yn cael ei ddefnyddio ganddo ar gyfer pori gwartheg sugno neu famogiaid y mae cais am daliad Tir Mynydd wedi'i wneud ar eu cyfer.
(3) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn -
(a) archwilio a dilysu cyfanswm arwynebedd y tir hwnnw neu unrhyw ran ohono;
(b) archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill;
(c) gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac
(ch) archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori.
(4) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau ac y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person awdurdodedig -
(a) ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw weithiwr cyflogedig, gwas neu asiant ceisydd ddangos unrhyw ddogfen neu gofnod arall sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais am daliad Tir Mynydd y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;
(b) archwilio unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r cofnod hwnnw, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad;
(c) gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), y gwêl yn dda; a
(ch) cipio a chadw unrhyw ddogfen neu record arall ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), y mae gan y person a awdurdodwyd le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos o dan y rheoliadau hyn neu mewn achos ar gyfer adennill unrhyw daliad ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei cynhyrchu ar ffurf sy'n ei gwneud yn bosibl mynd ag ef oddi yno.
Cymorth i bersonau awdurdodedig
17.
Rhaid i'r ceisydd, unrhyw weithiwr cyflogedig, gwas neu asiant ceisydd neu unrhyw berson sydd â gofal anifeiliaid ar y tir roi i'r person awdurdodedig unrhyw gymorth y mae'n gofyn yn rhesymol amdano er mwyn galluogi i'r person awdurdodedig i arfer unrhyw b er a roddir gan reoliad 16 ac yn benodol, mewn perthynas ag unrhyw anifail, rhaid iddynt drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei gasglu, ei osod mewn lloc a'i gadw'n ddiogel, os gofynnir iddynt wneud hynny.
Tramgwyddau
18.
Bydd yn drosedd i berson -
(a) rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer p er a roddir gan reoliad 16;
(b) methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r gofynion a wneir o dan reoliad 16 neu gais a wneir o dan y rheoliad hwnnw; neu
(c) gwneud datganiad, yn fwriadol neu'n ddi-hid, neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau bod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw daliad Tir Mynydd yn cael ei roi iddo'i hun neu i unrhyw berson arall.
Cosbi
19.
- (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 18(a) neu 18(b) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 18(c) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Terfyn amser ar gyfer erlyn
20.
- (1) Gall achos ynglyn â thramgwydd o dan reoliad 18 gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, o fewn cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i haeddu achos.
(2) Ni all achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno.
(4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y ffaith honno ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
Tramgwyddau cyrff corfforaethol
21.
- (1) Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 18, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y corff corfforaethol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr" mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei fusnes gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [12].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001
ATODLENRheoliad 6
RHAN
A
1.
Cyfrifir y tir cymwys yn unol â darpariaethau rheoliad 3.
2.
Mae dwy gyfradd o daliad arwynebedd: -
(a) £23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a
(b) £35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol.
3.
Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un o'r Cynllun Tir Mynydd drwy luosogi'r tir cymwys â'r gyfradd neu'r cyfraddau priodol ar gyfer arwynebeddau'r tir tan anfantais neu'r tir tan anfantais ddifrifol yn ôl fel y digwydd.
RHAN
B
1.
Cyfrifir y 140 hectar cyntaf o dir cymwys yn ôl y cyfraddau llawn yn unol â Rhan A o'r Atodlen hon.
2.
Cyfrifir y taliad ar gyfer tir cymwys sy'n fwy na 140 hectar ond hyd at a chan gynnwys 640 hectar mewn unrhyw ddaliad drwy leihau 35% ar y taliad ar gyfer y tir hwnnw.
3.
Pan fydd y tir cymwys mewn unrhyw ddaliad yn fwy na 640 hectar, cyfrifir y taliad ar gyfer tir cymwys sy'n fwy na 640 hectar drwy leihau 70% ar y taliad ar gyfer y tir hwnnw.
RHAN
C
1.
Fe fydd mecanwaith diogelwch ar gyfer y blynyddoedd cynllun 2001, 2002 a 2003..
2.
Yn y flwyddyn 2001, bydd gan y ceisydd hawl i gael swm ychwanegol a fyddai'n codi'r cyfanswm i 90% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA am 2000 wrth ei ychwanegu at y taliad Tir Mynydd.
3.
Yn y flwyddyn 2002, bydd gan y ceisydd hawl i gael swm ychwanegol a fyddai'n codi'r cyfanswm i 80% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA am 2000 wrth ei ychwanegu at y taliad Tir Mynydd.
4.
Yn y flwyddyn 2003 bydd y ceisydd yn cael y taliad Tir Mynydd ynghyd â 50% o'r gwahaniaeth rhwng y taliad hwnnw a'r swm a gafwyd ar gyfer HLCA yn 2000 os oedd hwnnw'n fwy.
5.
Ni fydd mecanwaith diogelwch ar gyfer 2004 a'r blynyddoedd dilynol.
6.
Os y bu newid yn yr arwynebedd tir neu'i ddefnydd ers y cais HLCA 2000, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud addasiadau cymesurol i'r cyfrifiadau hyn.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r adolygiad o bolisi amaethyddiaeth cyffredin yr Undeb Ewropeaidd a elwir yn Agenda 2000 wedi arwain at newid yn y system gymorth amaethyddol ar gyfer ardaloedd llai ffafriol o un sydd wedi'i seilio ar y nifer o anifeiliaid i system sydd wedi'i seilio ar arwynebedd. Mae polisïau'r Undeb Ewropeaidd wedi'u nodi yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 a cheir y fframwaith manwl ar gyfer gweithredu'r Rheoliad Cyngor hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999.
Cafwyd cynigion Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu polisïau hynny' r Undeb Ewropeaidd yn y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru a gyflwynwyd ganddo i'r Comisiwn Ewropeaidd, ac a gymeradwywyd gan y Comisiwn ar 11 Hydref 2000. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â'r Cynllun sy'n cael ei ddisgrifio yn y Cynllun Datblygu Gwledig hwnnw fel y Cynllun Tir Mynydd, sy'n darparu cymorth ariannol i ffermwyr y mae eu daliad yn cynnwys tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol (yr ardal lai ffafriol).
Mabwysiadwyd gwahanol gynlluniau ar gyfer cymorth i'r ardal llai ffafriol gan Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd daliadau sy'n cynnwys tir mewn mwy nag un rhan o'r Deyrnas Unedig felly yn destun rheoliadau pellach.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol: -
Rhan I - Cyffredinol.
- Enw, cychwyn a chymhwyso (rheoliad 1)
- Diffiniadau (rheoliad 2)
Rhan II - Y Cynllun.
- Ceiswyr cymwys (rheoliad 3)
- Y dwysedd stocio isaf (rheoliad 4)
- Y dwysedd stocio uchaf (rheoliad 5)
- Cyfrifo taliadau arwynebedd - elfen 1 (rheoliad 6 ac Atodlen 1)
- Taliadau chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun (rheoliad 7)
- Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol (rheoliad 8)
Rhan III - Gweinyddu
- Taliadau (rheoliad 9)
- Ceisiadau (rheoliad 10)
- Ceisiadau hwyr (rheoliad 11)
- Rhyddhau o ymrwymiad (rheoliad 12)
- Cadw'n ôl neu adennill taliadau (rheoliad 13)
- Cyfraddau llog (rheoliad 14)
- Daliadau Trawsffiniol (rheoliad 15)
Rhan IV - Gorfodi
- Pwerau personau a awdurdodir (rheoliad 16)
- Cymorth i bersonau a awdurdodir (rheoliad 17)
- Tramgwyddau (rheoliad 18)
- Cosbau (rheoliad 19)
- Terfyn amser ar gyfer erlyn (rheoliad 20)
- Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol (rheoliad 21)
Y ddeddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod a fynnodd y newidiadau yn y system gymorth. Mae'r trefniadau manwl ar gyfer hynny wedi eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol. Paratowyd fersiwn derfynol y Cynllun yn dilyn ymgynghoriad â'r partion â diddordeb ac â Phwyllgor Amaethyddiaeth a Datldygu Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol.Nid oes unrhyw arfarniad rheoleiddiol penodol wedi'i wneud felly.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back
[2]
1972 p.68back
[3]
O.J. Rhif L160, 26.06.99, t.21.back
[4]
O.J. Rhif L355, 05.12.92, t.1.back
[5]
1992 p.4.back
[6]
O.J. Rhif L214, 13.08.99, t.31.back
[7]
O.J. Rhif L160, 26.06.99, t.80.back
[8]
O.S. 1992/2677.back
[9]
O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.back
[10]
1965 p.4.back
[11]
1971 p.80.back
[12]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090227-0
|
Prepared
11 June 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010496w.html