BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011784w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1784 (Cy. 126)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 1 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 114(1) a (4) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Grwpiau bwydydd
    
2.  - (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhennir bwydydd i'r pedwar gr p canlynol - 

    (2) Ni fydd marjarîn, menyn, brasterau eraill i'w taenu, olewau a brasterau coginio, dresin salad wedi'i seilio ar olew, mayonnaise, hufen salad, hufen, siocled, creision, bisgedi, teisennau, cacennau, pwdinau, hufen-iâ, sawsiau bras, grefi, jam, diodydd ysgafn siwgrllyd, melysion, siwgr a jeli yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau uchod o fwydydd .

Gofynion maeth plant sy'n mynychu ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd
    
3. Rhaid i fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd yn rhan o ginio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin neu unedau meithrin mewn ysgolion cynradd.

Gofynion maeth disgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion cynradd
    
4.  - (1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd heblaw ysgolion arbennig.

    (2) Rhaid trefnu bod bwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch ar gael bob dydd - 

    (3) At ddibenion cinio i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd, gall ffynonellau protein yng ngr p C gynnwys cynhyrchion llaeth sy'n ffynonellau protein.

Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion uwchradd
    
5.  - (1) Rhaid cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2) wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion uwchradd heblaw ysgolion arbennig.

    (2) Rhaid i ddau fath o fwyd o bob un o grwpiau A, B, C ac Ch fod ar gael bob dydd:

Gofynion maeth disgyblion mewn ysgolion arbennig cymunedol a sefydledig
    
6. Rhaid cydymffurfio â gofynion naill ai Rheoliad 4 neu Reoliad 5 wrth ddarparu cinio ysgol ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig cymunedol neu sefydledig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mai 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno safonau maeth ar gyfer cinio ysgol disgyblion cofrestredig mewn ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol, sefydledig a gwirfoddol ac ysgolion arbennig cynradd ac uwchradd cymunedol a sefydledig.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/627).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090270 X


  Prepared 18 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011784w.html