BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012189w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2189 (Cy.151)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 12 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 23A(3), 23B(5), (6), (8)(c), (10), 23D(2), 23E, 24B(6), 24D(2) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraffau 19B(2), (3), (7) ac (8) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

Plant cymwys
     3.  - (1) At ddibenion paragraff 19B(2)(b) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, 13 wythnos yw'r cyfnod a ragnodir a 14 yw'r oedran a ragnodir.

    (2) Nid yw'r categorïau canlynol o blant i fod yn blant cymwys er eu bod yn dod o fewn paragraff 19B(2) o Atodlen 2 - 

Plant perthnasol
     4.  - (1) At ddibenion adran 23A(3), mae'r categori o blant a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gategori ychwanegol o blant perthnasol.

    (2) Unrhyw blentyn 16 neu 17 oed (nad yw'n destun gorchymyn gofal) [
9] - 

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "ei ddal" yw ei ddal mewn canolfan remand, sefydliad tramgwyddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi gadarn[10], neu unrhyw sefydliad arall yn unol â gorchymyn llys.

    (4) Nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).

    (5) Mae paragraff (4) yn gymwys p'un a yw'r cyfnod o chwe mis yn dechrau cyn i blentyn beidio â derbyn gofal gan awdurdod lleol neu ar ôl hynny.

Asesiadau a chynlluniau cam nesaf  -  cyffredinol
     5.  - (1) Rhaid i bob awdurdod lleol cyfrifol baratoi datganiad ysgrifenedig sy'n disgrifio ym mha fodd y caiff anghenion pob plentyn cymwys a phob plentyn perthnasol eu hasesu.

    (2) Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig gynnwys, mewn perthynas â phob plentyn y mae ei anghenion i gael eu hasesu, wybodaeth am y canlynol yn benodol - 

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod copi o'r datganiad ar gael i'r plentyn a'r personau a bennir yn rheoliad 7(5).

    (4) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal unrhyw asesiad neu adolygiad o dan y Rheoliadau hyn rhag cael ei gynnal yr un pryd ag unrhyw asesiad, adolygiad neu ystyriaeth o dan unrhyw ddarpariaeth arall.

Cynnwys y plentyn neu'r person ifanc
    
6.  - (1) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wrth gynnal asesiad ac wrth baratoi neu adolygu cynllun cam nesaf, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol - 

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol roi copïau o'r canlynol yn ddioed i'r plentyn neu'r person ifanc - 

ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, sicrhau bod cynnwys pob dogfen yn cael ei esbonio iddo.

Asesu anghenion
    
7.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol asesu anghenion pob plentyn cymwys, a phob plentyn perthnasol nad oes ganddo gynllun cam nesaf eisoes, yn unol â'r Rheoliadau hyn.

    (2) Mae'r asesiad i gael ei gwblhau - 

    (3) Rhaid i bob awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o'r canlynol - 

    (4) Wrth gynnal asesiad mae'r awdurdod lleol cyfrifol i roi sylw i'r ystyriaethau canlynol - 

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, geisio barn y canlynol a'i chymryd i ystyriaeth - 

Cynlluniau cam nesaf
     8.  - (1) Cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol baratoi cynllun cam nesaf ar gyfer pob plentyn cymwys, a phob plentyn perthnasol nad oes un ganddo eisoes, yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r cynllun cam nesaf gynnwys, yn benodol, y materion y cyfeirir atynt yn yr Atodlen.

    (3) Rhaid i'r cynllun cam nesaf, mewn perthynas â phob un o'r materion y cyfeirir atynt yn yr Atodlen, nodi - 

    (4) Rhaid i'r cynllun cam nesaf gael ei gofnodi'n ysgrifenedig.

Adolygu cynlluniau cam nesaf
    
9.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol adolygu cynllun cam nesaf pob plentyn cymwys, pob plentyn perthnasol a phob cyn blentyn perthnasol yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol drefnu adolygiad - 

    (3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, i'r graddau y mae'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny, geisio barn y personau a grybwyllir yn rheoliad 7(5) a'i chymryd i ystyriaeth.

    (4) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sy'n cynnal adolygiad ystyried - 

    (5) Rhaid i ganlyniadau'r adolygiad gael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion
    
10.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol gadw cofnodion ynghylch asesiadau, cynlluniau cam nesaf a'u hadolygiadau tan ben-blwydd dyddiad geni'r plentyn neu'r person ifanc y maent yn berthnasol iddo yn 75 oed, neu os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd 18 oed, am gyfnod o 15 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad ei farwolaeth.

    (2) Gellir cydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) drwy gadw'r cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt, neu drwy gadw'r cyfan neu ran o'r wybodaeth a gynhwysir ynddynt ar ryw ffurf hygyrch arall megis cofnod cyfrifiadur.

    (3) Rhaid i'r cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (1) gael eu cadw'n ddiogel, ac ni ellir eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol - 

Cymorth a llety
    
11.  - (1) At ddibenion adran 23B(8)(c) o'r Ddeddf (cymorth i blant perthnasol), rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol roi cymorth, gan gynnwys cymorth ariannol a all, mewn amgylchiadau eithriadol, fod ar ffurf arian parod, er mwyn diwallu anghenion y plentyn o ran addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth fel y darperir ar eu cyfer yn ei gynllun cam nesaf.

    (2) At ddibenion adran 23B(10) o'r Ddeddf, ystyr "llety addas" yw llety - 

    (3) At ddibenion adran 24B(5) o'r Ddeddf (darparu llety yn ystod y gwyliau),

Swyddogaethau cynghorwyr personol
     12.  - (1) Bydd gan gynghorydd personol y swyddogaethau canlynol[16] - 

    (2) Dyma'r swyddogaethau  - 

Cynrychioliadau
     13.  - (1) Diwygir Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991[17]) fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001



YR ATODLEN
Rheoliadau 8(2) a (3) a 9(4)


MATERION I YMDRIN Â HWY YN Y CYNLLUN CAM NESAF A'R ADOLYGIAD


     1. Natur a lefel y cymorth personol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc.

     2. Manylion y llety y mae'r plentyn neu'r person ifanc i'w feddiannu.

     3. Cynllun manwl ar gyfer ei addysg neu ei hyfforddiant.

     4. Os yw'n berthnasol, sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo'r plentyn neu'r person ifanc mewn cyflogaeth neu wrth geisio cyflogaeth.

     5. Y cymorth sydd i'w roi i alluogi'r plentyn neu'r person ifanc i feithrin perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol a'u cadw.

     6. Rhaglen i feithrin y medrau ymarferol a'r medrau eraill sy'n angenrheidiol iddo fyw'n annibynnol.

     7. Y cymorth ariannol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc, yn enwedig pan fwriedir ei roi i ddiwallu ei anghenion o ran llety a chynhaliaeth.

     8. Anghenion iechyd y plentyn neu'r person ifanc, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl, a sut y bwriedir eu diwallu.

     9. Cynlluniau wrth gefn ar gyfer camau a fyddai i'w cymryd gan yr awdurdod lleol cyfrifol petai'r cynllun cam nesaf yn peidio â bod yn effeithiol am unrhyw reswm.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi categorïau pellach o blant y bydd neu, yn ôl fel y digwydd, na fydd ar awdurdodau lleol ddyletswyddau ychwanegol tuag atynt fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan III o Ddeddf Plant 1989, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.

Mae rheoliadau 5 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu anghenion, a pharatoi ac adolygu cynlluniau cam nesaf, ac mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth o ran addysg a hyfforddiant, a llety.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi swyddogaethau cynghorydd personol. Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991 fel y maent yn effeithio ar blant a phobl ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu sy'n ymadael â gofal.


Notes:

[1] 1989 p.41 ("Deddf 1989"). Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) ("Deddf 2000"), adran 2(4); mewnosodwyd adrannau 23D a 23E gan adran 3 o Ddeddf 2000; mewnosodwyd adrannau 24B a 24D gan adran 4 o Ddeddf 2000. Mewnosodwyd paragraff 19B o Atodlen 2 gan adran 1 o Ddeddf 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] Gweler adran 19B o Ddeddf 1989 i gael ystyr "eligible child".back

[3] Gweler adran 23A o Ddeddf 1989 i gael ystyr "relevant child".back

[4] Gweler adran 23C o Ddeddf 1989 i gael ystyr "former relevant child".back

[5] 1977 p.49.back

[6] 1997 p.46.back

[7] 1984 p.23.back

[8] Mae person yn dod o fewn adran 23(4) os yw'n rhiant i'r plentyn, yn berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu pan yw'r plentyn yn derbyn gofal a bod gorchymyn preswylio mewn grym mewn perthynas â'r plentyn yn union cyn i'r gorchymyn gofal gael ei wneud, person y gwnaed y gorchymyn preswylio o'u plaid.back

[9] Diffinnir "care order" yn adran 105(1) o'r Ddeddf drwy gyfeirio at adran 31(11) o'r Ddeddf honno.back

[10] Ar gyfer canolfannau remand, sefydliadau tramgwyddwyr ifanc a chanolfannau hyfforddi cadarn, gweler adran 43 o Ddeddf Carchardai 1952 (15&16 Geo 16 ac Eliz 2 p.52) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) adran 11, Deddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 33), paragraffau 11 a 12 o Atodlen 15, a Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p. 37), paragraff 6 o Atodlen 8.back

[11] Diffinnir "health" a "development" at ddibenion Rhan III o'r Ddeddf yn adran 17(11).back

[12] Person a benodir yn ymwelydd ar gyfer plentyn yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yw ymwelydd annibynnol.back

[13] Darperir ar gyfer cynghorwyr personol yn adrannau 23B(2), 23C(3)(a) a 23D o'r Ddeddf, a pharagraff 19C o Atodlen 2 iddi.back

[14] 1998 p.30. Ar hyn o bryd Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r rheoliadau perthnasol.back

[15] 1996 p.56. Ceir y diffiniad o addysg bellach yn adran 2(3).back

[16] Yn ychwanegol gall yr awdurdod lleol cyfrifol ei gweld yn dda trefnu i'r cynghorydd personol weithredu ar ei ran wrth ddarparu gwasanaethau eraill yn unol ag adran 17(5)(b) o'r Ddeddf.back

[17] O.S. 1991/879 fel y'i diwygiwyd gan O.S 1991/2033 a 1993/ 3069.back

[18] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090342 0


  Prepared 20 September 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012189w.html