BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 2192 (Cy. 154)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
12 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17A(3) a (4) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Personau na ellir sicrhau gwasanaethau oddi wrthynt drwy gyfrwng taliad uniongyrchol
2.
- (1) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(a) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf -
(a) priod y talai;
(b) person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c) person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd -
(i) yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii) yn fab neu'n ferch;
(iii) yn fab-yng-nghyfraith neu'n ferch-yng-nghyfraith;
(iv) yn llysfab neu'n llysferch;
(v) yn frawd neu'n chwaer;
(vi) yn fodryb neu'n ewythr; neu
(vii) yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch) priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
(2) Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(b) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf -
(a) priod y talai;
(b) person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;
(c) person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd -
(i) yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;
(ii) yn frawd neu'n chwaer;
(iii) yn fodryb neu'n ewythr;
(iv) yn nain neu'n daid;
i'r talai;
(ch) priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.
Uchafswm y cyfnod o lety preswyl a all gael ei sicrhau drwy gyfrwng taliad uniongyrchol
3.
Ni fydd y p er i wneud taliad o dan adran 17A(1) o'r Ddeddf yn arferadwy mewn perthynas â darparu llety preswyl ar gyfer unrhyw blentyn anabl -
(a) am gyfnod o fwy nag 28 diwrnod; a
(b) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis am gyfnodau sy'n gyfanswm o fwy na 120 o ddyddiau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn mewnosod adran newydd (adran 17A) yn Neddf Plant 1989 sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed, yn lle gwasanaethau a fyddai fel arall wedi'u darparu ar eu cyfer gan yr awdurdod lleol o dan adran 17 o'r Ddeddf Plant.
Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r personau hynny na ellir sicrhau gwasanaethau oddi wrthynt drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 2).
Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn pennu uchafswm y cyfnodau mewn llety preswyl a all gael eu sicrhau drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 3).
Notes:
[1]
1989 p.41; mewnosodwyd adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) ("Deddf 2000"). O ran Cymru, cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989") eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan adran 7(2) o Ddeddf 2000, mae'r Gorchymyn hwnnw i gael ei drin fel pe bai'n cyfeirio at Ddeddf 1989 fel y'i diwygiwyd gan adran 7 o Ddeddf 2000. Yn adran 17A(3) o Ddeddf 1989 ystyr "prescribed", drwy gyfeirio at adran 105(1) o'r Ddeddf, yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wneir o dan y Ddeddf.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090265 3
|
Prepared
16 July 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012192w.html