BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012279w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2279 (Cy. 169 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 81(5) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Yr amgylchiadau lle gellir caniatáu gollyngiadau
    
2. Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ganiatáu gollyngiadau o dan adran 81(4) o'r Ddeddf  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") mae'n ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ("awdurdodau perthnasol") fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac aelodau cyfetholedig sy'n gorfod ymgorffori unrhyw ddarpariaethau gorfodol o unrhyw god ymddygiad enghreifftiol a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf.

Mae adran 81(1) a (2) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i'r swyddog monitro ym mhob awdurdod perthnasol sefydlu a chadw cofrestr o fuddiannau aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod a bod darpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol sy'n gymwysadwy i bob awdurdod perthnasol yn gorfod ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholediog pob awdurdod gofrestru unrhyw fuddiannau ariannol ac eraill a bennir yn y darpariaethau gorfodol yng nghofrestr yr awdurdod hwnnw.

O dan adran 81(3) a (4) o'r Ddeddf rhaid i'r darpariaethau gorfodol hynny ei gwneud yn ofynnol hefyd i aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol sydd â buddiant o'r fath ei ddatgelu cyn cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod sy'n berthnasol i'r buddiant a gwneud darpariaeth i atal yr aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod y mae'r buddiant a ddatgelwyd yn berthnasol iddo neu i gyfyngu ar y rhan y mae'n ei chymryd ynddo.

Mae adran 81(4) o'r Ddeddf yn darparu nad yw unrhyw gyfranogiad gan aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol mewn unrhyw fusnes a waherddir gan y darpariaethau gorfodol yn fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod os yw'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi gweithredu yn unol â gollyngiad rhag y gwaharddiad a gafodd ei ganiatáu gan bwyllgor safonau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (5).

Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff pwyllgorau safonau'r awdurdodau perthasol ganiatáu gollyngiadau o'r fath odanynt.


Notes:

[1] 2000 p. 22.back

[2] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 090284 X


  Prepared 27 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012279w.html