BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012281w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2281 (Cy. 171 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

Swyddogaethau swyddogion monitro
     3.  - (1) Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro mewn perthynas â'r mater hwnnw:

    (2) Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro ystyried unrhyw adroddiad sy'n cael ei anfon ato gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Ymchwiliadau
    
4.  - (1) Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:

    (2) Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.

    (3) Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.

    (4) Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:

a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (5) Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth
    
5.  - (1) Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth a sicrhawyd gan swyddog monitro wrth gynnal ymchwiliad oni bai:

    (2) Yn y Rheoliad hwn, a Rheoliad 4 uchod, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a ddelir trwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

Adroddiadau
     6. Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rhaid i'r swyddog monitro:

Swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau
    
7. Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth y swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y swyddog monitro, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau Safonau
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[6], mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) Caiff Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog ymchwilio ddod ger ei fron pan fydd yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad (neu os na chyflwynir unrhyw sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol), er mwyn cyflwyno ei adroddiad neu esbonio unrhyw un o'r materion sydd wedi'i gynnwys ynddo (ond nid fel arall).

    (3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr "swyddog ymchwilio" yw:

    (4) Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â Rheoliad 7(b) uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:

    (5) Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau b er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol, neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

    (6) Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:

p'un bynnag sy'n digwydd olaf.

Dyfarniadau'r Pwyllgor Safonau
     9.  - (1) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:

    (2) Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â Rheoliad 12(a)(ii) isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.

    (3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hysbysu unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol â hynny, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (4) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Yr hawl i apelio
    
10.  - (1) Pan fydd Pwyllgor Safonau yn dyfarnu o dan Reoliad 9(1) uchod fod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw, caiff y person hwnnw apelio yn erbyn y dyfarniad i dribiwnlys a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru

    (2) Rhaid cychwyn yr apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael hysbysiad am ddyfarniad y Pwyllgor Safonau i'r cyfeiriad hwn:

    (3) Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi:

Apelau
    
11.  - (1) Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:

    (2) Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb y dirprwy lywydd) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd neu'r dirprwy lywydd fod yn aelod o dribiwnlys.

    (3) Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.

    (4) Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:

    (5) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn penderfynu arnynt.

Casgliadau tribiwnlys apelau
    
12. Rhaid i dribiwnlys apelau:

a rhaid iddo roi gwybod i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, y Comisiynydd Lleol yng Nghymru a Phwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol yn unol â hyn, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

Cyhoeddi
    
13.  - (1) Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:

p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad ac anfon copi at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad a chymryd camau rhesymol i anfon copi at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

    (2) Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

Cynrychiolaeth
    
14. Caiff person sy'n cyflwyno sylwadau llafar i Bwyllgor Safonau neu sy'n apelio yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau i dribiwnlys apelau sy'n cael ei dynnu o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor neu'r tribiwnlys yn bersonol neu gael ei gynrychioli  - 

Costau
    
15.  - (1) Ni fydd gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol unrhyw b er i ddyfarnu unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi o unrhyw un o'i achosion.

    (2) Fel rheol rhaid i dribiwnlys apelau beidio â gwneud gorchymyn yn dyfarnu costau neu dreuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath:

    (3) Rhaid peidio â gwneud unrhyw orchymyn o dan baragraff (2)(a) uchod yn erbyn person heb roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud gorchymyn o'r fath.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu codau ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth eu haelodau a'u haelodau cyfetholedig.

O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Comisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i unrhyw doriad honedig gan aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn-aelodau neu gyn-aelodau cyfetholedig) o god ymddygiad awdurdod lleol yng Nghymru.

Pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) gall gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro'r awdurdod lleol perthnasol.

Fel arall, pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn dyfarnu ar ôl ymchwiliad (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, llunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at y swyddog monitro a Phwyllgor Safonau'r awdurdod.

Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y dylid ymdrin â materion o'r fath sy'n cael eu cyfeirio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

Bydd y Pwyllgor Safonau yn gwneud dyfarniad cychwynnol wedyn naill ai:

Ar ôl ystyried unrhyw ymateb a wneir gan unrhyw berson o'r fath rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddod i'r casgliad:

a chymryd unrhyw gamau o'r fath yn unol â hynny.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i hawl i apelio i dribiwnlys apelau a dynnir o blith Panel Dyfarnu Cymru.

Caiff tribiwnlys apelau gadarnhau dyfarniad y Pwyllgor Safonau, cyfeirio mater yn ôl iddo gan argymell y dylai osod cosb wahanol, neu wrth-droi'r dyfarniad.

Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd fod adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad yn cael ei lunio a'i gyhoeddi.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] Yn rhinwedd adran 56(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mae unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy yn rhinwedd darpariaethau'r Rheoliadau hyn gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol neu mewn perthynas ag ef, sef awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned i gael ei harfer gan neu mewn perthynas â'r canlynol; pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae'r cyngor cymuned wedi'i leoli yn ei ardal; neu pan fydd pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol hwnnw wedi penodi is-bwyllgor, yr is-bwyllgor hwnnw.back

[3] 1947 p.41.back

[4] 1995 p.25.back

[5] 1998 p.18.back

[6] OS 2001/2283 (Cy.172).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090283 1


  Prepared 27 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012281w.html