BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 2357 (Cy. 195)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2001
|
Wedi'u gwneud |
26 Mehefin 2001 | |
|
Yn dod i rym drannoeth eu gwneud |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym drannoeth eu gwneud.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau 2000
2.
- (1) Caiff Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000[2] eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn Nosbarth 1, yn lle paragraff (ch) rhowch -
"
(ch) ystyr "peiriannau a pheirianwaith a eithrir" yw peiriannau a pheirianwaith ar hereditament a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo p er naill ai -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mehefin 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 drwy roi esemptiad rhag ardrethu i ddosbarth ychwanegol o beiriannau a pheirianwaith, sef peiriannau a pheirianwaith penodedig a geir mewn gorsaf gwres a ph er trydan (yn rhannol o leiaf).
Notes:
[1]
1988 p.41; diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 i gael y diffiniad o "prescribed". Datganolwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Lleol 1988 yn Atodlen 1.back
[2]
O.S. 2000/1097 (Cy.75).back
[3]
2000 p.17.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090275 0
|
Prepared
19 July 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012357w.html