BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012360w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Mehefin 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Gorffennaf 2001 |
Rheoliad |
1. | Teitl, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Gofynion sy'n ymwneud ag anifeiliaid buchol dros 30 mis oed |
4. | Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc. |
5. | Rhwystro |
6. | Tramgwyddo a chosbi |
7. | Tramgwyddo gan gyrff corfforaethol |
8. | Gorfodi |
9. | Diwygio Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996 |
10. | Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998 |
11. | Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hn) (Cymru) 2000 |
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw -
(2) Mae i'r ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sydd i'w gweld yn y naill neu'r llall o Benderfyniadau'r Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniad y maent i'w gweld ynddo.
(3) Bernir bod unrhyw berson a benodwyd gan y Gweinidog neu gan awdurdod lleol at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981[8] wedi'i benodi gan y Gweinidog neu gan yr awdurdod hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
Gofynion sy'n ymwneud ag anifeiliaid buchol dros 30 mis oed
3.
- (1) Rhaid i berson y mae ganddo anifail buchol hysbysadwy neu garcas anifail o'r fath yn ei feddiant neu o dan ei ofal, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn dod i'w feddiant, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg neu berson arall sydd, yng nghwrs ei ddyletswyddau -
cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn cael ei archwilio neu ei arolygu, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi, drwy unrhyw gyfrwng a wêl yn dda, gan gynnwys hysbysiad yn y London Gazette, enw'r asiant, ei gyfeiriad a'r manylion perthnasol eraill ar gyfer cysylltu ag ef ac ar ba ddyddiad ac o ba ddyddiad y mae'n rhaid i hysbysiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r asiant yn lle eu gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i berson y mae ganddo anifail buchol hysbysadwy, neu garcas anifail o'r fath, yn ei feddiant neu o dan ei ofal ar unrhyw safle, ei gadw ar y safle nes iddo gael ei gasglu gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.
4.
- (1) Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw safle (gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael ei meddiannu fel annedd breifat) -
(2) Os oes ynad heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i unrhyw safle (heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat) at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai -
fe gaiff yr ynad heddwch, drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo, awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(3) Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle sydd heb ei feddiannu rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael ei adael wedi'i gau yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod â phan ddaeth o hyd iddo.
(4) Caiff arolygydd -
Rhwystro
5.
- (1) Ni chaiff neb -
(2) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.
Tramgwyddo a chosbi
6.
- (1) Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, y mae'n rhaid iddo yntau eu profi -
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored -
Tramgwyddau cyrff corfforaethol
7.
- (1) Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad -
neu y gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd yntau, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Gorfodi
8.
Caiff darpariaethau'r Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol.
Diwygio Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996
9.
- (1) Caiff erthygl 11 of Orchymyn BSE (Rhif 2), i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) ar ôl y gair "carcase" caiff y geiriau canlynol eu mewnosod -
(3) Ym mharagraff (2) -
(b) ar ôl y gair "carcase" lle y'i gwelir wedyn caiff y geiriau canlynol eu mewnosod -
(4) Ym mharagraff (3), ar ôl y gair "carcases" caiff y geiriau canlynol eu mewnosod -
Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998
10.
- (1) Caiff Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998[9] eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) ar ôl y diffiniad o "local authority" caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod -
(3) Yn rheoliad 26(1) ar ddechrau paragraff (1) caiff y geiriau canlynol eu mewnosod -
(4) Yn rheoliad 26, ar ôl paragraff (1) caiff y paragraff canlynol ei fewnosod -
Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hn) (Cymru) 2000
11.
- (1) Caiff Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hn) (Cymru) 2000[10] eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), cyn y diffiniad o "Arolygydd" caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod -
(3) Yn rheoliad 9 ar y dechrau caiff y geiriau canlynol eu mewnosod -
(4) Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (1) caiff y paragraff canlynol ei fewnosod -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mehefin 2001
Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod categorïau penodol o anifeiliaid buchol dros 30 mis oed yn cael eu harchwilio yn unol â gofynion rhagnodedig ar gyfer monitro BSE.
Er mwyn i'r rhwymedigaethau hyn gael eu rhoi ar waith, mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal anifail buchol hysbysadwy, a ddiffinnir yn rheoliad 2 fel anifail buchol dros 30 mis oed sy'n marw ar unrhyw fferm neu wrth gael ei gludo neu sydd wedi'i ladd heblaw i'w fwyta gan bobl, roi gwybod am y farwolaeth i'r asiant a benodir at y diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio, tramgwyddo a chosbi a gorfodi.
Mae diwygiadau cysylltiedig, i ymdrin â'r rhwymedigaethau Cymunedol hyn, yn cael eu gwneud i erthygl 11 o Orchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru (O.S. 1996/3183, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2387, O.S. 1998/3071 ac O.S. 1999/921) a rheoliadau 2 a 26 o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339) a rheoliadau 2 a 9 o Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hn) (Cymru) (O.S. 2000/3339 (Cy.217)).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
[3] O.S. 1996/3183, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2387, O.S. 1998/3071 ac O.S. 1999/921.back
[4] OJ Rhif L 305, 6.12.2000, t.35.back
[5] OJ Rhif L122, 24.4.1998, t.59.back
[6] OJ Rhif L 84, 23.3.2001 t. 59.back
[7] OJ Rhif L 158, 30.6.2000, t. 76, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/2/EC (OJ Rhif L 1, 4.1.2001).back
[9] O.S. 1998/871 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339.back
[10] O.S.. 2000/3339 (Cy.217).back