BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 2681 (Cy.222)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
17 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991[1] ac sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach mewn perthynas â Chymru[2], trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Cynnydd yn y ffi archwilio
2.
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992[3] amnewidir am y ffigur "£14.50" yno y ffigur "£15.50".
Diddymiad
3.
Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998[4] cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £14.50 i £15.50 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S. 1992/1688). Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/978) (a oedd yn darparu cynnydd cynharach yn y ffi) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.
Notes:
[1]
1991 p.22.back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn belled ag y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1992/1688; diwygiwyd rheoliad 3(1) gan O.S. 1998/978.back
[4]
O.S. 1998/978.back
[5]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090308 0
|
Prepared
7 August 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012681w.html