BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012709w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2709 (Cy.228)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 21(5) a (6), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghyunlliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn:

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad â rhif, neu yn ôl fel y digwydd, at Atodlen yn y Rheoliadau hyn ac mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sydd â'r rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno.

    (3) Os oes tir yn cael ei drosglwyddo i unrhyw gorff a'i freinio ynddo yn unol â'r Rheoliadau hyn, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau - 

hefyd yn cael eu trosglwyddo i'r corff hwnnw ac yn breinio ynddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

    (4) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl canlynol yr ystyr a briodolir iddynt gan y darpariaethau a nodir gyferbyn â hwynt yn yr ail golofn.


Tabl
blwyddyn ariannol financial year adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996[4]
corff sefydledig foundation body adran 21(4) o Ddeddf 1998
gwaddoliad foundation adran 21(3) o Ddeddf 1998
llywodraethwr sefydledig foundation governor paragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1998

    (5) Mae cyfeiriad at gategori mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriad at un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf 1998.

Cyrff sefydledig a grwpiau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond os yw ysgol yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol neu os yw'n ysgol gymunedol y mae'r corff llywodraethu yn cynnig iddi ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol - 

    (2) Ni all ysgol sydd â gwaddoliad, heblaw corff sefydledig, ffurfio rhan o grp ac ni chaiff ei chorff llywodraethu gynnig sefydlu corff sefydledig.

Sefydlu cyrff sefydledig
    
4.  - (1) Ni all corff sefydledig gael ei sefydlu ond o dan adran 21 o Ddeddf 1998 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Bydd cyrff llywodraethu tair ysgol neu ragor sy'n dymuno sefydlu corff sefydledig penodol ac sy'n cynnig ffurfio grp y bydd y corff sefydledig yn gweithredu drosto yn gwneud cais gyda'i gilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu'r corff sefydledig hwnnw.

    (3) Bydd y cais yn cynnwys - 

    (4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo'r cais - 

     5. Ar ôl sefydlu'r corff sefydledig a chyn y dyddiad ffurfio, rhaid i'r llywodraethwyr-aelodau cychwynnol wneud y canlynol - 

a dim ond at y dibenion hynny neu mewn cysylltiad â hwy y caiff y corff sefydledig arfer ei bwerau cyn y dyddiad hwnnw .

    
6.  - (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod aelodaeth y corff sefydledig wedi'i chyfansoddi'n briodol, bod yr offeryn llywodraethu wedi'i fabwysiadu a bod yr ysgolion yn ysgolion o'r categori a bennwyd yn y cais, neu y byddant yn ysgolion felly wrth ddod i'r grp, bydd drwy hysbysiad ysgrifenedig yn darparu - 

    (2) Os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni felly o fewn yr hyn sydd, yn ei farn ef, yn amser rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gall drwy orchymyn ddiddymu'r corff sefydledig ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo yn y gorchymyn.

    (3) Pan fydd unrhyw un o'r ysgolion yn dod i'r grp o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n dod i'r grp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.

    (5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn dod i'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

    
7. Rhaid i gorff llywodraethu unrhyw ysgol sydd yn y grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol, hysbysu'r awdurdod addysg lleol y dylai offeryn llywodraethu'r ysgol enwi'r corff sefydledig fel y corff penodi at ddibenion penodi llywodraethwyr sefydledig.

Aelodaeth cyrff sefydledig
    
8.  - (1) Rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig benodi aelod o'r corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig hwnnw.

    (2) Rhaid i gyrff llywodraethu yr ysgolion sy'n cynnig sefydlu'r corff sefydledig enwebu personau i fod yn aelodau cymunedol.

    (3) Os bydd llywodraethwr-aelod yn peidio â dal swydd yna - 

    (4) Os bydd aelod cymunedol yn peidio â dal swydd neu os oes angen penodi aelod cymunedol newydd oherwydd bod ysgol wedi ymuno â'r grp - 

     9.  - (1) Y cworwm ar gyfer penderfyniad gan gorff llywodraethu ysgol o dan reoliad 8 fydd dwy ran o dair (wedi'i dalgrynnu i fyny i rif cyfan) o'r llywodraethwyr mewn swydd sydd â hawl i bleidleisio.

    (2) Pedair blynedd fydd cyfnod swydd aelod o'r corff sefydledig ond gellir ail-benodi aelod.

    (3) Ni all person bleidleisio dros ei benodi ei hun na'i ailbenodi ei hun yn aelod o gorff sefydledig.

    (4) Rhaid llenwi swyddi gwag erbyn cyfarfod nesaf y corff sefydledig neu gan y cyfarfod ar ôl hynny os daw'r swydd yn wag lai na thri mis cyn y cyfarfod nesaf.

    (5) Os na lenwir swydd wag aelod yn unol â pharagraff (4) gall y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r corff sefydledig drwy orchymyn ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo, a bydd darpariaethau rheoliad 24(1)(ch) a (d) a (2) i (5) yn gymwys i'r diddymu hwnnw ac eithrio y bydd y cyfnod o chwe mis y cyfeirir ato yn rheoliad 24(2) yn cychwyn ar unrhyw ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig.

Cymhwyso ag anghymhwyso
    
10.  - (1) Ni all llywodraethwr sefydledig a benodwyd i ysgol yn y grp gan gorff sefydledig fod yn llywodraethwr- aelod o'r corff sefydledig hwnnw ac ni chaiff bleidleisio ar benodiadau i'r corff sefydledig.

    (2) Rhaid i aelod cymunedol - 

    (3) Bydd llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig yn peidio â dal swydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod o gorff llywodraethu'r ysgol a'i benododd.

    (4) Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig fod yn weithiwr cyflogedig i'r corff hwnnw.

Anghymhwyso rhag dal swydd
    
11. Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag dal swydd, neu barhau mewn swydd, fel aelod o gorff sefydledig.

    
12. Caiff aelod o gorff sefydledig ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysu'r clerc yn ysgrifenedig.

Cyfyngiadau
    
13. Ni fydd aelod o gorff sefydledig yn cael unrhyw dâl, heblaw mân dreuliau rhesymol ag angenrheidiol, ac ni chaiff gymryd unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol o unrhyw gontractau a wnaed gan y corff sefydledig na chael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir a ddelir gan y corff sefydledig.

Clerc
    
14.  - (1) Rhaid i'r corff sefydledig benodi person i fod yn glerc iddo.

    (2) Ni chaiff aelod o'r corff sefydledig weithredu fel clerc, ond pan fydd y clerc yn methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod, caiff y corff sefydledig benodi aelod i fod yn glerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw (heb effeithio ar ei safle fel aelod).

Cynnal cyfarfodydd
    
15.  - (1) Rhaid i'r corff sefydledig wneud y canlynol - 

    (2) Yn y cyfarfod cyntaf rhaid i'r corff sefydledig benodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion yn y grp yn unol ag offerynnau llywodraethu'r ysgolion o dan sylw.

Adroddiad blynyddol
    
16.  - (1) Rhaid i'r corff sefydledig gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i weithgareddau er gwybodaeth i gyrff llywodraethu'r ysgolion yn y grp gan nodi'r canlynol - 

    (2) Rhaid cyhoeddi'r adroddiad cyntaf o fewn dwy flynedd ar ôl y dyddiad ffurfio a gall ymdrin â chyfnod sy'n hwy na blwyddyn.

    (3) Yn dilyn yr adroddiad cyntaf, rhaid cyhoeddi adroddiadau blynyddol heb fod yn ddiweddarach na'r cyfarfod nesaf ar ôl diwedd y flwyddyn yr adroddir arni.

Cyfrifon
    
17.  - (1) Rhaid i'r corff sefydledig gadw cyfrifon, sicrhau bod archwilwyr allanol annibynnol yn eu harchwilio a chyhoeddi ymhob blwyddyn ariannol gopi o'r cyfrifon am y flwyddyn ariannol flaenorol fel y'u harchwiliwyd ynghyd â datganiad eu bod wedi cael eu harchwilio.

    (2) Rhaid i'r corff sefydledig gydymffurfio o fewn mis â chais ysgrifenedig gan unrhyw berson i roi copi o gyfrifon diweddaraf y corff iddo.

Gwybodaeth a chofnodion
    
18.  - (1) Rhaid i'r corff sefydledig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth y gofynnir amdani o dro i dro.

    (2) Rhaid i'r corff sefydledig gadw ei holl gofnodion am o leiaf chwe mlynedd.

Swyddogaethau cyrff sefydledig
    
19. Bydd gan gyrff sefydledig y swyddogaethau canlynol - 

Pwerau ychwanegol
    
20.  - (1) Caiff corff sefydledig mewn cysylltiad â'i swyddogaethau - 

    (2) Dim ond drwy gydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol y gellir arfer y per i fenthyg symiau a rhoi gwarant neu waredu unrhyw dir a nodir uchod.

Ymuno â grp ar ôl sefydlu'r corff sefydledig i ddechrau
    
21.  - (1) Dim ond gyda chytundeb cyrff llywodraethu'r holl ysgolion sydd eisoes yn y grp.

    (2) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei wneud ar y cyd yn ysgrifenedig gan gorff llywodraethu'r ysgol sy'n ceisio ymuno â'r grp a'r corff sefydledig a bydd y cais yn cynnwys - 

    (3) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu bod hynny'n briodol, yn datgan yn ysgrifenedig fod yr ysgol yn ffurfio rhan o'r grp o'r dyddiad hwnnw a bennir ganddo a phan fodlonir yr amodau hynny a bennir ganddo.

    (4) Pan fydd yr ysgol sy'n ymuno â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

    (5) Rhaid i'r corff sefydledig geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i addasu ei offeryn llywodraethu.

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3) uchod bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sy'n ymuno â'r grp y mae'r corff hwnnw yn gweithredu drosto.

    (7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion a gyhoeddwyd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori gael eu cymeradwyo, yn ymuno â'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

    (8) Ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (3), bydd corff llywodraethu'r ysgol sy'n ymuno â'r grp yn penodi aelod o'u corff llywodraethu i fod yn llywodraethwr-aelod o'r corff sefydledig.

    (9) Os nad yw'r ysgol sy'n ymuno â'r grp.

Ymadael â grp
    
22.  - (1) Os yw corff llywodraethu ysgol yn dymuno i'r ysgol honno ymadael â'r grp ar unrhyw ddyddiad a bennir ganddo.

    (2) Os yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grp yn gwneud hynny o dan gategori gwahanol i'w chategori presennol, y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1) fydd y dyddiad y bwriedir i'r newid categori ddigwydd yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar y dyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), bydd unrhyw dir sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grp yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol honno, ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.

    (4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn ymadael â'r grp mewn categori gwahanol i'w chategori presennol.

    (5) Os nad yw'r ysgol sy'n ymadael â'r grp.

    
23. Os yw ysgol yn ymadael â grp dri neu ragor o aelodau o hyd bydd y corff sefydledig yn addasu ei offeryn llywodraethu gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Dirwyn cyrff sefydledig grp i ben
    
24.  - (1) Pe bai aelodaeth grp yn disgyn o dan dri oherwydd bod un neu ragor o ysgolion yn ymadael neu'n cael eu cau yna - 

    (2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol gyhoeddi cynigion newid categori yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori i ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol gymunedol, os nad ydynt (yn ôl fel y digwydd) o fewn chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad ymadael a roddir gan yr ysgol neu o fewn chwe mis o gymeradwyo'r cynigion i gau'r ysgol - 

    (3) Ar unrhyw adeg ar ôl i'r cyfnod perthnasol o chwe mis y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddod i ben, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol cyhoeddi cynigion i'r ysgol newid i gategori penodedig arall.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn achos ysgol nad ydyw'n cael ei chau, ar y dyddiad diddymu bydd unrhyw dir neu eiddo arall sydd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol ac yn rhinwedd y rheoliad hwn yn breinio ynddo.

    (5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag ysgol os yw'r ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau Newid Categori, yn dod, ar neu cyn y dyddiad diddymu, yn ysgol o gategori gwahanol.

Datrys Anghydfodau
    
25. Os ceir anghydfod rhwng cyrff llywodraethu ysgolion yn y grp a'r corff sefydledig yna caiff un o'r partïon i'r anghydfod hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y mater.

Defnyddio tir
    
26. Ni fydd trosglwyddo tir i gorff sefydledig o dan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar hawliau'r corff llywodraethu mewn perthynas â'r tir hwnnw o dan Atodlen 13 i Ddeddf 1998.

Trosglwyddo tir
    
27. Wrth ei chymhwyso at unrhyw drosglwyddiad tir yn rhinwedd rheoliadau 6, 21, 22 neu 24, rhaid darllen cyfeiriadau at y dyddiad trosglwyddo yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988[5] fel cyfeiriadau at y dyddiad ffurfio, y dyddiad ymuno, y dyddiad ymadael neu'r dyddiad diddymu, yn ôl fel y digwydd.

Diddymu
     28. Drwy hyn diddymir Rheoliadau Cyrff Sefydledig 1999[6].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 4


Offeryn llywodraethu


Rhaid i'r offeryn llywodraethu sydd i'w fabwysiadu gan y corff sefydledig bennu - 



ATODLEN 2
Rheoliad 11


Anghymhwyso rhag dal swydd


Anhwylder meddwl
     1. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n debygol o gael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[
8].

Methdaliad
     2. Anghymhwysir person rhag dal swydd, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig - 

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau
     3. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw'n destun gorchymyn anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986[9] neu orchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986[10] (methu talu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau
     4. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig - 

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi
     5.  - (1) Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i gynnwys yn y rhestr o athrawon ac athrawesau a gweithwyr gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi.

    (2) Yn is-baragraff (1), ystyr "y rhestr" ("the list") yw'r rhestr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[12].

Personau a anghymhwysir rhag bod yn berchnogion ysgolion annibynnol
     6. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig ar unrhyw adeg pan yw wedi'i anghymhwyso yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996 rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n athrawes neu'n weithiwr cyflogedig arall mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol
     7.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod o gorff sefydledig os yw unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.

    (2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ef neu hi - 

wedi'i gollfarnu, p'un ai yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar (pa un ai yw'r ddedfryd wedi'i gohirio neu beidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o ddirwy.

    (3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw o fewn y cyfnod o 20 mlynedd yn diweddu gyda'r dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad y person hwnnw fel arall wedi bod yn effeithiol, wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod am unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

    (4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd ar unrhyw adeg wedi'i gollfarnu fel y nodwyd uchod o unrhyw dramgwydd a'i ddedfrydu i'r carchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

    (5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, anwybyddir unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd na fyddai, pe bai'r ffeithiau sy'n arwain at y tramgwydd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn dramgwydd o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

    (6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd - 

wedi'i gollfarnu o dan adran 547 o Ddeddf Addysg 1996 (niwsans ac aflonyddwch ar safle addysg) am dramgwydd a ddigwyddodd ar safle ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol a gynhelir â grant a'i ddedfrydu i ddirwy.

Methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd
     8.  - (1) Bydd aelod o gorff sefydledig sydd, heb gydsyniad y corff sefydledig o dan sylw, wedi methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod dilynol o'r corff hwnnw, o'r diwrnod ar ôl yr ail gyfarfod, yn cael ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw.

    (2) Pan fydd aelod o'r corff sefydledig wedi anfon ymddiheuriad i'r clerc cyn y cyfarfod nad yw'r aelod hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, bydd cofnodion y cyfarfod yn cofnodi cydsyniad y corff sefydledig neu fel arall i'w absenoldeb a bydd copi o'r cofnodion yn cael ei anfon i'r aelod o dan sylw yn ei breswylfa arferol.

    (3) Ni fydd aelod o gorff sefydledig sydd wedi'i anghymhwyso o dan is-baragraff (1) uchod yn gymwys i gael ei enwebu neu ei benodi fel aelod o'r corff sefydledig hwnnw yn ystod y deuddeg mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1).

Hysbysu'r clerc
     9. Os bydd aelod, yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 1 i 7, yn cael ei anghymhwyso rhag dal neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r clerc.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys yng Nghymru yn unig, yn gwneud darpariaeth ynglyn â sefydlu, aelodaeth a swyddogaethau cyrff sefydledig a'r camau i'w cymryd mewn cysylltiad ag ysgolion sy'n ymuno neu'n ymadael â grp o gyrff sefydledig i ben. Maent yn ailadrodd, gyda rhai newidiadau ac ychwanegiadau, ddarpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Cyrff Sefydledig 1999, sy'n cael eu diddymu.

Mae corff sefydledig yn gorff corfforaethol wedi'i sefydlu o dan adran 21 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gyflawni'r swyddogaethau canlynol mewn perthynas â thair neu ragor o ysgolion ("y grp") y mae pob un ohonynt naill ai yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol, sef - 

Mae'r Rheoliadau a'r newidiadau o'r Rheoliadau blaenorol yn cael eu hesbonio'n fanylach isod.

Rheoliad 2: mae'n cynnwys diffiniadau.

Rheoliad 3: mae'n darparu mai dim ond ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol y mae'r corff llywodraethu'n bwriadu iddi fod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol sydd yn gallu ffurfio rhan o grp ac ni chaiff ei chorff llywodraethu gynnig sefydlu corff sefydledig.

Rheoliadau 4 i 7, Atodlen 1: maent yn ymdrin â sefydlu cyrff sefydledig, gwneud eu hofferyn llywodraethu a throsglwyddo tir.

Rheoliadau 8 a 9: maent yn ymdrin ag aelodaeth cyrff sefydledig, cworwm ar gyfer eu penderfyniadau, cyfnodau swyddi'r aelodau a materion eraill.

Rheoliadau 10, 11 a 12 ac Atodlen 2: maent yn nodi'r rheolau cymhwyster ar gyfer penodiad fel aelod o gorff sefydledig a'r amgylchiadau pan fydd yr aelodau yn anghymwys i ddal swydd (neu i barhau i ddal swydd).

Rheoliad 13: mae'n darparu bod aelod o gorff sefydledig yn cael mân dreuliau rhesymol yn unig a bod rhaid iddo beidio â chael unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol o gontractau a wneir gan y corff sefydledig na chael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir a ddelir gan y corff sefydledig.

Rheoliad 14: mae'n ymdrin â phenodi clerc i'r corff sefydledig.

Rheoliad 15: mae'n ymdrin â chynnal cyfarfodydd cyrff sefydledig.

Rheoliad 16: mae'n darparu i gyrff sefydledig gyhoeddi adroddiadau blynyddol.

Rheoliad 17: mae'n darparu ar gyfer cadw cyfrifon gan gyrff sefydledig.

Rheoliad 18: mae'n darparu yngln â gwybodaeth a chofnodion.

Rheoliad 19: mae'n nodi'r swyddogaethau a roddir i gyrff sefydledig.

Rheoliad 20: mae'n nodi'r pwerau y gall cyrff sefydledig eu harfer mewn cysylltiad â'u swyddogaethau.

Rheoliad 21: mae'n nodi'r weithdrefn ar gyfer ymuno â grp ar ôl sefydlu'r corff sefydledig i ddechrau gan gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo tir.

Rheoliadau 22 a 23: maent yn nodi gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd ysgol yn dymuno ymadael â grp gan gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo tir.

Rheoliad 24: mae'n darparu ar gyfer dirwyn cyrff sefydledig i ben.

Rheoliad 25: mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu ar anghydfodau rhwng cyrff llywodraethu ysgolion mewn grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

Rheoliad 26: mae'n cynnwys darparieth yngln â defnddio tir.

Rheoliad 27: mae'n addasu Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn ei chymhwysiad at drosglwyddiadau tir o dan y Rheoliadau.

Mae'r Rheoliadau yn ymgorffori mân newidiadau i adlewyrchu'r ffaith y gall ysgol sy'n sefydlu, ymuno neu ymadael â chorff sefydledig fod yn mynd trwy newid categori ysgol o dan Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 sy'n dod i rym ar yr un pryd â'r Rheoliadau hyn. Heblaw am hynny, dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol:

Nid yw'r Rheoliadau yn ymdrin â throsglwyddo tir yn achos ysgol sy'n newid ei chategori. Ymdrinnir â hyn yn Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "regulations" gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2001/ .back

[4] 1996. p.56.back

[5] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 198 ac Atodlen 10 gan adran 137 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 29 iddi.back

[6] O.S. 1999/1502.back

[7] 1998 p.38.back

[8] 1983 p.20.back

[9] 1986 p.46.back

[10] 1986 p.45.back

[11] 1990 p.40.back

[12] Diwygiwyd adran 218 o Ddeddf 1988 gan baragraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back



English version



ISBN 0 11090338 2


  Prepared 17 September 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012709w.html