BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 3322 (Cy.275)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
2.
Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu dim ac i gael taliad llawn), ar ddiwedd paragraff (m) ychwanegir y gair "or" a'r paragraff canlynol -
"
(n) a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act"[3].
Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
3.
Ym mharagraff 1(a)(ii) o reoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad), yn lle "or (m)" rhowch "(m) or (n)".
Diwygio Atodlen 1A o'r prif Reoliadau
4.
Yn Atodlen 1A o'r prif Reoliadau (cyfnodau dilysrwydd hysbysiadau hawl), ar ôl paragraff 9 ychwanegir y paragraff canlynol -
"
10.
A relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act.
|
12 months or until the child's 18th birthday whichever is longer". |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau penodol ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu treuliau teithio penodol a dynnir wrth fynd i'r ysbyty.
Mae Rheoliad 2 yn galluogi plant sy'n ymadael gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw fanteisio drwy beidio â thalu dim taliadau neu gael ad-daliadau llawn, a chael talu eu treuliau teithio.
Mae Rheoliadau 3 a 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Notes:
[1]
1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).
Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990, i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1364 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767 a 2840, 2001/1397 (Cy. 92).back
[3]
1989 p.41; Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35); gweler hefyd OS2001/2189 (Cy.151).back
[4]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11090353 6
|
Prepared
19 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013322w.html