BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013443w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3443 (Cy.278)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 16 Hydref 2001 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] ac adran 23(2) o Ddeddf Plant 1989[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991
    
2.  - (1) Diwygir Atodlen 2 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[4]) ac Atodlen 4 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991[5] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 2 o'r ddwy Atodlen ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch  - 

    (3) Ym mharagraff 9 o'r ddwy Atodlen hepgorwch "other than", a mewnosodwch -

    (4) Ym mharagraff 13 o'r ddwy Atodlen  - 

    (5) Hepgorir paragraff 14.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Hydref 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 mewn perthynas â Chymru.

Prif effaith y diwygiadau yw y caniateir i awdurdodau lleol ac eraill arfer eu disgresiwn, wrth ystyried pa mor addas yw person i fabwysiadu neu i faethu plentyn, os yw'r person wedi ei gollfarnu neu wedi'i rybuddio am dramgwydd o ymosodiad sy'n peri gwir niwed corfforol ('ymosod' yn yr Alban) a gyflawnwyd pan oedd o dan 18 oed. Cyn y diwygio, yr oedd collfarn neu rybudd o'r fath yn atal awdurdodau lleol ac eraill rhag ystyried y person ar gyfer mabwysiadu neu faethu.


Notes:

[1] 1976 p.36.back

[2] 1989 p.41.back

[3] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â'r pwerau uchod eu trosglwyddo, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1983/1964, a addaswyd gan O.S. 1996/971 ac a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.back

[5] O.S. 1991/910, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/2015, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.back

[6] 1861 p.100.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090356 0


  Prepared 7 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013443w.html