BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014048w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 4048 (Cy.339)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 20 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 7 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud yn Rheoliadau canlynol - 

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 7 Ionawr 2002.

Diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001[3] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn - 

    (3) Yn lle paragraff (2) o reoliad 2 rhoddir y paragraff canlynol - 

    (4) Yn rheoliad 3 - 

    (5) Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol "(gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael eu meddiannu fel annedd breifat)".

    (6) Ym mharagraff (2) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol "(heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat)".

    (7) Yn is-baragraff 4(f) o reoliad 4 yn lle'r geiriau "Phenderfyniadau'r Comisiwn" rhoddir y geiriau "Rheoliad y Comisiwn".

Diwygio'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998[7] drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad "notifiable bovine animal" - 

    (2) Diwygir Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000[8] drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad "anifail buchol hysbysadwy" - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).

Mae'r diwygiadau'n rhoi eu heffaith i'r rhwymedigaethau a geir yn erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001 (OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12) sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) ynghylch arolygu epidemiolegol a phrofi enseffalopathïau sbyngffurf buchol.

Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod categorïau penodol o anifeiliaid buchol dros 24 mis oed yn cael eu harchwilio yn unol â'r isafswm gofynion sydd wedi'i bennu ar gyfer monitro BSE. Mae diffiniad "anifail buchol hysbysadwy" wedi'i ddiwygio yn sgil hyn er mwyn adlewyrchu'r newid yn oedran yr anifeiliaid y mae'r rhwymedigaeth yn gymwys iddynt.

Mae diwygiad yn cael ei wneud hefyd i baragraffau (1) a (4) o reoliad 3 i ddileu'r ymadrodd diangen "neu garcas anifail o'r fath," ac mae paragraff (2) wedi'i amnewid yn sgil hynny. Mae rheoliad 4 a'r diffiniad o "safle" wedi'u diwygio er mwyn rhoi pwer i arolygwyr fynd i bob safle lle mae carcasau anifeiliaid neu rannau o garcasau o'r fath yn cael eu cadw.

O ganlyniad i'r diffiniad o "anifail buchol hysbysadwy" mae diwygiadau'n cael eu gwneud i Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac O.S. 2001/2360) (Cy. 197) a Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2001/2360 (Cy. 197).back

[4] OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12.back

[5] OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1.back

[6] OJ Rhif L99, 20.4.1996, t.14.back

[7] O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac O.S. 2001/2360 (Cy. 197).back

[8] O.S. 2000/3339 (Cy. 217), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2360 (Cy. 197).back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090408 7


  Prepared 23 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014048w.html