BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020675w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 675 (Cy.72)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Y DIWYDIANT PYSGOD MÔR

FFERMIO PYSGOD, CYMRU

Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 13 Mawrth 2002 


MYNEGAI

Rheoliad
1. Teitl, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Cymorth Ariannol
4. Ceisiadau
5. Cymeradwyo ceisiadau
6. Y cymhwyster a cheisiadau i gael taliadau cymorth ariannol
7. Dull talu'r cymorth ariannol
8. Ymrwymiadau
9. Gwybodaeth
10. Cofnodion
11. Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr
12. Cymorth i swyddogion awdurdodedig
13. Pwerau swyddogion awdurdodedig
14. Amddiffyn swyddogion
15. Lleihau'r cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill
16. Adennill Llog
17. Tramgwyddo a chosbi
18. Erlyn

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Mawrth 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.

    (2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yr un ystyron ag yn y ddeddfwriaeth Gymunedol.

    (3) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

    (4) O dan amgylchiadau lle bo hynny'n briodol, rhaid trin unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y gellir ei wneud neu y tystir iddo yn ysgrifenedig neu fel arall drwy ddefnyddio dogfen, hysbysiad neu offeryn o dan unrhyw reoliad, fel pe bai'n cynnwys drwy gyfrwng electronig os oes trefniadau wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi defnyddio cyfrwng electronig neu i ddarparu ar gyfer defnyddio cyfrwng electronig.

Cymorth Ariannol
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth Gymunedol a'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth Cymunedol ac, os yw'n penderfynu felly, grant i unrhyw berson - 

    (2) Wrth benderfynu o dan baragraff (1) - 

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth fel y'u nodir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor 2792/1999.

Ceisiadau
    
4.  - (1) Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar unrhyw ffurf, mewn unrhyw fodd ac ar unrhyw adeg, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a chan gael eu cyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro.

    (2) Heb ragfarnu paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, bennu categorïau penodol o weithrediad perthnasol y gall ceisiadau gael eu gwneud mewn perthynas â hwy dros unrhyw gyfnod o amser a bennir ganddo.

    (3) Rhaid i'r ceiswyr roi'r holl wybodaeth a'r holl ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.

Cymeradwyo ceisiadau
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth Gymunedol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol - 

    (2) Gyda chydsyniad y ceisydd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

    (4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu ceisydd ei fod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr ei fod wedi rhoi cymeradwyaeth o dan amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddo roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath - 

    (5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael unrhyw sylwadau yn unol â pharagraff (4), rhaid iddo eu hystyried a chaiff gadarnhau ei benderfyniad neu roi penderfyniad gwahanol yn ei le.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig am unrhyw benderfyniad a gadarnheir neu y rhoddir un arall yn ei le yn unol â pharagraff (5).

Y cymhwyster a cheisiadau i gael taliadau cymorth ariannol
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod ac i reoliad 15, bydd buddiolwr yn gymwys i gael taliad cymorth ariannol.

    (2) Ni thelir unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â chais a gymeradwywyd oni bai bod y canlynol wedi'u rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

Dull talu'r cymorth ariannol
    
7. Gall taliadau cymorth ariannol gael eu gwneud - 

y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arnynt a rhaid i unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw daliad gael eu hysbysu i'r buddiolwr yn ysgrifenedig.

Ymrwymiadau
    
8. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi unrhyw ymrwymiadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol i'r achos.

Gwybodaeth
    
9.  - (1) Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani o dro i dro.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arno.

    (3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn gwybodaeth o'r fath, caiff ei rannu ag Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn Rheoliad 11 isod.

Cofnodion
    
10.  - (1) Rhaid i fuddiolwr - 

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr y "cyfnod rheoli" mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd yw:

ond wrth benderfynu yn y naill achos neu'r llall ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 15 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol neu setliad yr achos hwnnw.

Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr
    
11.  - (1) Heb ragfarnu adran 2(5) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[14] na'i allu i arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ei hun, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymorth ariannol mewn cysylltiad â chategorïau penodol o weithrediad perthnasol a chaiff roi cyfarwyddiadau o dro i dro ynghylch dull arfer swyddogaethau o'r fath.

    (2) Rhaid i unrhyw swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn y gofynnwyd i'r Awdurdod eu harfer yn unol â pharagraff 1 gael eu cyflawni gan aelodau o'r Awdurdod a benodir o dan adran 1(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac nid gan unrhyw aelodau eraill.

    (3) Rhaid i'r Awdurdod gadw unrhyw gyfrifon mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wneir ganddo neu iddo yn unol ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu cyfarwyddo a rhaid i'r Awdurdod baratoi datganiad o'r cyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ar unrhyw ffurf, gan roi unrhyw wybodaeth, a gyfarwyddir.

    (4) Rhaid i'r cyfrifon am bob blwyddyn ariannol, yn unol â chynllun archwilio a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu harchwilio gan y personau a benodir mewn perthynas â'r flwyddyn honno i archwilio cyfrifon eraill yr Awdurdod a rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r datganiadau o'r cyfrifon i'r archwilwyr.

    (5) Rhaid i'r archwilwyr gwblhau archwilio'r cyfrifon ac anfon copïau o'r datganiad o'r cyfrifon ac o'u hadroddiad ar y cyfrifon ac ar y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn cyfeirio ati a hynny heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn honno beth bynnag.

    (6) Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r Rheolwr ac Archwiliwr Cyffredinol hawl i archwilio'r holl lyfrau, papurau a chofnodion eraill sydd gan yr Awdurdod ynghylch y cyfrifon y mae'n ofynnol eu cadw yn unol â'r rheoliad hwn, neu â materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt.

Cymorth i swyddogion awdurdodedig
     12. Rhaid i unrhyw fuddiolwr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i unrhyw fuddiolwr roi unrhyw gymorth i swyddog awdurdodedig y mae'r swyddog hwnnw yn gofyn yn rhesymol amdano er mwyn arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan reoliad 13.

Pwerau swyddogion awdurdodedig
    
13.  - (1) Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn er mwyn - 

    (2) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw safle, heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n safle perthnasol neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn safle perthnasol.

    (3) Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw safle yn unol â pharagraff (2) uchod archwilio'r safle hwnnw, unrhyw offer sy'n offer perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn offer perthnasol ac unrhyw ddogfennau ar y safle hwnnw sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu eu bod yn ddogfennau perthnasol.

    (4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw berson arall y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol a bydd rheoliadau 12 a 14 a pharagraffau (2), (3) a (5) o'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â'r personau eraill hynny wrth iddynt weithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog awdurdodedig fel pe baent yn swyddogion awdurdodedig.

    (5) Caiff swyddog awdurdodedig - 

    (6) Yn y rheoliad hwn - 

Amddiffyn swyddogion
    
14. Ni fydd unrhyw swyddog awdurdodedig yn agored mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddir iddo neu iddi yn rhinwedd rheoliad 13 os yw'r llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod yna seiliau rhesymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Lleihau'r cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill
    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg ar ôl iddo gymeradwyo cais, - 

caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r taliad sydd wedi'i wneud.

    (2) Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (i) o baragraff (1) uchod - 

    (3) Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (g) o baragraff (1) uchod - 

    (4) Os yw is-baragraff (ff) neu (g) o baragraff (1) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill yn y paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill oddi ar fuddiolwr yn unol â pharagraff (1) yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol.

    (5) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

Adennill llog
    
16.  - (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu adennill unrhyw swm o dan reoliad 15, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw, drwy wneud cais amdano, yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR wedi'i gyfrifo fesul dydd am y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod y talwyd y cymorth ariannol o dan sylw nes i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill y swm.

    (2) Yn achos unrhyw swm sydd yn adennilladwy o dan reoliad 15(4) uchod, fe gyfrifir llog o dan baragraff 16(1) uchod nid o'r dyddiad y talwyd y cymorth ariannol arno, ond o'r dyddiad y digwyddodd yr achlysur a achosodd yr adennill.

    (3) Mewn unrhyw achos ynglyn ag adennill llog o'r fath, bydd tystysgrif a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddangos y cyfraddau llog sy'n gymwys, swm y llog o'r fath sy'n enilladwy a'r cyfnod y cyfrifir y llog ar ei gyfer yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddo a chosbi
    
17.  - (1) Os oes unrhyw berson, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall - 

bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Os oes unrhyw berson - 

bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    (3) Caiff achos ynglyn â thramgwydd o dan baragraff (1) neu (2) uchod gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.

    (4) Ni chaiff achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn - 

    (6) Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn ymhonni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (7) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (6) uchod yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Erlyn
    
18. Rhaid peidio â chychwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 17 uchod ac eithrio gan y Cynulliad Cenedlaethol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
15].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol fel y'i diffinnir a'i rhestri yn rheoliad 2 ("y ddeddfwriaeth Gymunedol"). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth ("cymorth Cymunedol") o'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ("FIFG") mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, projectau a gweithredoedd ("gweithrediadau perthnasol") yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu ac yn marchnata ei gynhyrchion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau a chymorth Cymunedol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") tuag at wariant mewn perthynas â gweithrediadau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hyn a'r ddeddfwriaeth Gymunedol, ac ar gyfer rheoleiddio'r taliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 3, 4 a 5) yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant a chymeradwyo'r rheiny at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os penderfynir felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw (gan gyfeirio at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel "cymorth ariannol"). Wrth benderfynu a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol, ac, os yw'n penderfynu talu'r grant hwnnw, faint ohono, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol (rheoliad 3).

Ymhlith pethau eraill mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn mynnu bod yr Aelod-wladwriaethau yn cyrraedd lefel benodol o gyfranogiad ariannol er mwyn galluogi'r gweithrediadau perthnasol i fod yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, ac mae'r lefelau cyfranogi angenrheidiol wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd (OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10).

Mae taliadau cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth ddigonol o'r gwariant a dynnwyd a bod y gweithrediad perthnasol wedi'i gyflawni'n briodol (rheoliad 6).

Gwneir darpariaeth ynghylch dull talu'r cymorth ariannol (rheoliad 7) a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol bod person y mae ei gais wedi'i gymeradwyo yn rhoi ymrwymiadau (rheoliad 8).

Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) i bersonau y mae eu ceisiadau am gymorth ariannol wedi'u cymeradwyo ("buddiolwyr") roi unrhyw wybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ag y bydd yn gofyn yn rhesymol amdani o dro i dro ac (o dan reoliad 10) iddynt gadw cofnodion penodol am gyfnod o chwe blynedd (sydd yn gyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei estyn).

Gwneir darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol o dro i dro i Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (yr "Awdurdod") arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn ac mewn perthynas â chadw cyfrifon a chofnodion gan yr Awdurdod os yw wedi rhoi neu wedi cael taliadau wrth arfer unrhyw swyddogaethau o'r fath (rheoliad 11).

Pan ofynnir iddynt, mae'n ofynnol i geiswyr roi cymorth i swyddogion awdurdodedig y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n cael pwerau mynediad a phwerau archwilio at ddibenion penodedig (rheoliadau 12 i 14).

Darperir ar gyfer lleihau cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill o dan amgylchiadau penodol (rheoliadau 15 a 16).

Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 17 a 18) yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag erlyn tramgwyddau mewn perthynas â datganiadau ffug a wneir i sicrhau cymorth ariannol, mewn perthynas â methu â chadw cofnodion neu â rhoi gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â methu â chydymffurfio â cheisiadau a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau mynediad a'u pwerau archwilio ac mewn perthynas â rhwystro swyddogion o'r fath wrth iddynt arfer y pwerau hynny. Rhagnodir cosbau am y tramgwyddau hyn.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

Mae copïau o Benderfyniad Comisiwn Rhif C(2000) 2049 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Rhaglennu Sengl Amcan Un ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac o Benderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1 (y cyfeirir at bob un ohonynt yn rheoliad 2) ar gael i'w harchwilio, ynghyd â'r Dogfennau Rhaglennu Sengl yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L389, 31.12.1992, t.1.back

[4] OJ Rhif L161, 26.6.1999, t.1.back

[5] OJ Rhif L161, 26.6. 1999, t.54.back

[6] OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10.back

[7] OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.49.back

[8] OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.53.back

[9] OJ Rhif L193, 29.7.2000, t.39.back

[10] OJ Rhif L63, 3.3.2001, t.21.back

[11] OJ Rhif L63, 6.3.2001, t.13.back

[12] (a)back

[13] (b)back

[14] 1981 p.29.back

[15] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090463 X


  Prepared 19 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020675w.html