BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020810w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 810 (Cy.90)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1), 32 a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[
2].

Ffurf y trefniadau amgen
     2.  - (1) Diwygir Rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Dilëir y gair "awdurdod" yn y llinell gyntaf ac yn ei le rhoddir "awdurdodau".

    (3) Ym mharagraff (a) mewnosodir ar ôl "Bwrdd" y geiriau

     3.  - (1) Diwygir Rheoliad 4(2) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Ar ddiwedd paragraff (c) dileïr y gair "ac" ac ar ôl paragraf (ch) mewnosodir:

Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau
    
4.  - (1) Diwygir Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle'r geiriau "Caiff y Bwrdd" mewnosodir y geiriau:

Swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd
    
5.  - (1) Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod) i Reoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Ychwanegir at ddiwedd paragraff 14 o Ran I (Swyddogaethau Amrywiol) yn ngholofn (1)

    (3) Ychwanegir ar ddiwedd Rhan I (Swyddogaethau Amrywiol):



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu "trefniadau amgen" (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac ar ba ffurf y dylai'r trefniadau hynny ei chymryd (adran 32(1)). O dan y darpariaethau hynny y gwnaeth y Cynulliad Cenedlaethol Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001").

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n defnyddio'r un darpariaethau statudol, yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn gwneud mân newidiadau i'r ffurf angenrheidiol i'r trefniadau amgen ac er mwyn dyfarnu sut y gall cyngor gyflawni ei swyddogaeth mewn perthynas â rhai pwerau ychwanegol penodedig.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel bod rhaid i Fwrdd awdurdod lleol weithredu fel ei bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol oni ddynodir is-bwyllgor i'r Bwrdd at y diben hwnnw. Yn Rheoliad 3 mae diwygiad i reoliad 4(2) o Reoliadau 2001 hefyd yn caniatáu creu is-bwyllgor i'r Bwrdd i ymgymryd â rôl y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol os yw'r awdurdod lleol yn dewis hynny, creu pwyllgor apelau cyflogaeth a chreu hyd at bedwar pwyllgor (na chaniateir iddynt arfer ond y swyddogaethau nad yw Bwrdd awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt).

Mae'r Rheoliad hefyd yn mynnu bod awdurdod lleol sy'n penderfynu sefydlu pwyllgor neu is-bwyllgor yn unol â Rheoliad 4(2)(e) yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 i wahardd cadeirydd neu is-gadeirydd awdurdod lleol rhag bod yn aelod o'r Bwrdd.

Diwygir Atodlen 1 o Reoliadau 2001 gan Reoliad 5. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) ynglwcircer i wneud Gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol o dan adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 yn un y mae'n rhaid i Fwrdd awdurdod lleol beidio â'i arfer. Mae'n rhaid i'r cyngor llawn, ac nid Bwrdd awdurdod lleol, gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back

[3] 1970 p.42.back

[4] 2001 p.16.back

[5] 2000 p.21.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090482 6


  Prepared 7 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020810w.html