BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru)(Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020811w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 811 (Cy.91)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru)(Diwygio) 2002

  Wedi'i wneud 21 Mawrth 2002 am 13.45 pm 
  Yn dod i rym 21 Mawrth 2002 am 2.00 pm 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru)(Diwygio) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru'n unig.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mawrth 2002 am 2.00 pm.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y prif Orchymyn" yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[3].

Diwygio erthygl 2
     3.  - (1) Diwygir erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Dilëir y geiriau "unless the context otherwise requires".

    (3) Cyn y diffiniad o "collecting centre" mewnosodir y canlynol - 

    (4) Yn y diffiniad o "collecting centre" ar ôl "for the trading of animals" rhoddir "and not including an assembly centre".

    (5) Ar ôl y diffiniad o "sole occupancy group" rhoddir y canlynol - 

Diwygio erthygl 4
     4.  - (1) Diwygir erthygl 4 o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 4(1) yn lle "other than a" rhoddir "other than an assembly centre,".

    (3) Yn erthygl 4(2)(f) dilëir y gair "and".

    (4) Ar ôl erthygl 4(2)(f) mewnosodir y canlynol - 

    (5) Ar ôl erthygl 4(5) mewnosodir y canlynol - 

Diwygio erthygl 5
    
5.  - (1) Diwygir erthygl 5 o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 5(1) yn lle "other than a" rhoddir "other than an assembly centre,".

    (3)

    (4) Ar ôl erthygl 5(2)(f) mewnosodir y canlynol - 

    (5) Ar ôl erthygl 5(5) mewnosodir y canlynol - 

Diwygio erthygl 6
    
6.  - (1) Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Yn lle erthygl 6(10) rhoddir y canlynol - 

    (3) Ym erthygl 6(11) dilëir y gair "either" ac ar ôl "sale for slaughter" ychwanegir "or returns to the holding from temporary grazing land".

Diwygio erthygl 9
    
7.  - (1) Diwygir erthygl 9 o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 9(2)(i) dilëir y gair "or".

    (3) Ar ôl erthygl 9(2)(j) mewnosodir y canlynol - 

    (4) Ar ôl erthygl 9(3) mewnosodir y canlynol - 

    (5) Yn lle erthygl 9(4)(a) rhoddir y canlynol - 

Diwygio erthygl 12
     8.  - (1) Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn yn unol â darpariaethau'r erthygl hwn.

    (2) Yn erthygl 12(1)(c) dilëir y gair "and".

    (3) Ar ôl erthygl 12(1)(d) rhoddir

    (4) Yn erthygl 12(2)(c)(iii) ac yn erthygl 12(3)(c) dilëir y gair "or".

    (5) Ar ôl erthygl 12(2)(c)(iv) mewnosodir y canlynol - 

    (6) Ar ôl erthygl 12(3)(d) mewnosodir y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002 am 13.45



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Mae'n diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/274 (Cy.30) (y prif Orchymyn) sydd, am gyfnod dros dro hyd 30 Tachwedd 2002 yn gosod gofynion mewn perthynas ag adnabod, cofrestru a symud defaid a geifr.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â'r diffiniadau o "assembly centre", "collecting centre" a "temporary grazing land".

Diwygir erthyglau 4 a 5 o'r prif Orchymyn, yn bennaf drwy ei gwneud yn ofynnol i draws-gyfeirio marc X â'r cofnodion a gedwir o ddefaid neu eifr.

Diwygir erthygl 6 o'r prif Orchymyn i ganiatáu i rif a roddwyd i ddafad neu afr cyn 11 Chwefror 2002 fod yn gymwys fel "an individual identification number" er na chafodd ei roddi ar yr un tag clust â'r marc.

Diwygir erthygl 9 o'r prif Orchymyn i ganiatâu i ddefaid ddychwelyd o dir pori dros dro pan fyddant wedi eu marcio â marc dros dro, ac i osod gofynion marcio ar gyfer defaid a geifr sydd yn cael eu symud i ganolfan ymgynnull neu i'w hallforio.

Diwygir erthygl 12 o'r prif Orchymyn i fynnu nodiadau canlyniadol ychwanegol ar y ddogfen symud ac i esemptio anifeiliaid sydd yn cael eu hallforio rhag yr angen i fod â dogfen symud gyda hwy.

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2002/274 (Cy.30).back

[4] O.S. 2000/1673; mae diwygiad perthnasol yn Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/430 (Cy.52)).back

[5] O.S. 2000/2335 (Cy.152).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090459 1


  Prepared 15 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020811w.html