BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 885 (Cy.100)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
26 Mawrth 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(9) a 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990
2.
- (1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990 [3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), ar ôl y diffiniad o "gilt-edged securities", mewnosodwch y diffiniadau canlynol -
"
"highest possible credit rating" means, in relation to a money market fund, that it has the highest possible rating -
(a) in respect of creditworthiness assigned by Standard and Poor's, a division of The McGraw-Hill Companies Ltd[4]; or
(b) in respect of both creditworthiness and volatility assigned by either Moody's Investors Service Ltd[5] or Fitch Ratings Ltd[6];
"money market fund" means a collective investment scheme which -
(a) in accordance with the Council Directive of 20th December 1985 on the co-ordination of laws, regulations and administrative provisions relating to undertakings for collective investments in transferable securities as amended [7], is an undertaking for collective investment in transferable securities subject to that Directive;
(b) has been given the highest possible credit rating; and
(c) is either a unit trust scheme authorised under section 243 of the Financial Services and Markets Act 2000[8] or a collective investment scheme recognised under section 264 of that Act;".
(3) Yn rheoliad 2(1) (buddsoddiadau a gymeradwywyd) -
(a) yn is-baragraff (b), ar ôl "deposit-taker", ychwanegwch ", the Treasury"; a
(b) ar ôl is-baragraff (b), mewnosodwch yr is-baragraff canlynol -
"
(bb) any investment in a money market fund;";
(4) Yn rheoliad 3 (amodau ar gyfer cymeradwyo buddsoddiadau), ym mharagraffau (1)(c) a (4)(a), ar ôl "regulation 2" mewnosodwch "(1)".
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997
3.
- (1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 [9] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 62(b) (gwaredu buddsoddiadau), -
(a) yn lle "2(b) or (c)", rhowch "2(1)(b), (bb) or (c)";
(b) yn is-baragraff (i), yn lle "institution" ym mha le bynnag yr ymddengys, rhowch "deposit-taker";
(c) yn is-baragraff (ii), -
(i) ar ôl "2", mewnosodwch "(1)"; a
(ii) ar y diwedd, ychwanegwch "; or"; ac
(ch) ar ôl is-baragraff (ii), ychwanegwch -
"
"(iii) where the investment was made with a money market fund, that fund has ceased to be a money market fund within the meaning given to that expression in regulation 1(2) of the 1990 Regulations.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990 yn cynnwys rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1990 drwy ychwanegu buddsoddiadau mewn cronfeydd marchnadoedd arian ac adneuon yn y Trysorlys at y rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997.
Notes:
[1]
1989 p.42.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1990/426; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/501 ac O.S. 2001/3731 (Cy.308).back
[4]
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01916239.back
[5]
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01950192.back
[6]
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01316230.back
[7]
85/611/EEC (OJNL375, 31.12.1985) a ddiwygiwyd gan 88/220/EEC (OJNL100, 19.4.1988) a 95/26/EC (OJNL168, 18.7.1995).back
[8]
2000 p.8.back
[9]
O.S. 1997/319 a ddiwygiwyd ond nid yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090467 2
|
Prepared
18 April 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020885w.html