BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020916w.html

[New search] [Help]



2002 No. 916 (Cy. 104)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 29A, 29B a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
3].

    (4) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2
     2. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorwch y diffiniad o "Medical Practices Committee".

Diwygio Rhan II o'r prif Reoliadau
    
3. Yn rheoliad 4 (rhestr feddygol), ym mharagraffau (3) a (5)(f), ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "by the Medical Practices Committee" rhowch yn eu lle'r geiriau "by the Health Authority".

    
4.  - (1) Diwygir Rheoliad 5A (hawl ffafriol i gael eich cynnwys ar restr feddygol) yn unol â'r paragraffau canlynol - 

    (2) ym mharagraff (2)(a) yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the Health Authority";

    (3) ym mharagraff (2)(b), yn lle "under section 33(4)(b) of the Act" rhowch "under regulation 13(1)(c)";

    (4) hepgorwch baragraff (4).

    
5. Yn rheoliad 6 (diwygio neu dynnu'n ôl o restr feddygol), ym mharagraff (5) yn lle'r geiriau o "Where a Health Authority" hyd at " and the Medical Practices Committee grants such variation," rhowch "Where the Health Authority grants an application for the variation of a condition imposed pursuant to regulation 13(1)(b), ".

Diwygio Rhan III o'r prif Reoliadau
    
6. Hepgorwch reoliadau 10 (y Pwyllgor Practisiau Meddygol - penodi aelodau a chyfnod dal swydd) ac 11 (cyfeiriadau ac adroddiadau gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol).

    
7. Yn lle rheoliad 12 (penderfyniadau'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch - 

"Consideration of vacancies by Health Authorities
    
12.  - (1) A Health Authority may consider at any time whether there is, or will be a vacancy for a doctor to provide general medical services in their area.

    (2) A Health Authority must consider whether there is, or will be a vacancy for a doctor in their area if - 

    (3) Where paragraph (2) applies and where a doctor's prospective patients are situated in the area of more than one Health Authority, any of those Health Authorities may - 

    (4) In a case falling within paragraph (3)(b), the Health Authority in whose area reside the largest number of the prospective patients shall decide whether to declare a vacancy, and, if it does so, it shall proceed in accordance with regulation 13 .

    (5) If a Health Authority is considering whether or not there is, or will be a vacancy, the Health Authority shall before reaching a decision - 

    (6) In reaching their decision a Health Authority shall, in particular, take account of - 

     8.  - (1) Diwygir rheoliad 13 (datgan swyddi gwag) yn unol â paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau "If the Medical Practices Committee" hyd at "in a locality" rhowch "If a Health Authority decides that the number of doctors undertaking to provide general medical services in an area".

    (3) Yn lle paragraff (1)(c) rhowch - 

    (4) Ym mharagraff (2)(e)(ii) yn lle'r geiriau o " as shall have been specified in" hyd at y diwedd, rhowch "as the Health Authority may specify.".

    (5) Hepgorwch baragraffau (3) a (4).

    (6) Ar ôl paragraff (4) ychwanegwch - 

     9. Hepgorwch reoliad 14 (adroddiad gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol).

    
10.  - (1) Yn lle rheoliad 15 (amrywio a diddymu penderfyniadau'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch - 

     11. Yn lle rheoliad 16 (effaith amrywio neu ddiddymu) rhowch - 

     12.  - (1) Diwygir rheoliad 17 (penderfyniad Awdurdod Iechyd ynglyn â'r math o swydd wag) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Yn lle paragraff (1) rhowch - 

    (3) Ym mharagraffau (2) a (3) ym mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "If the Health Authority made a reference pursuant to regulation 11(1)" rhowch yn eu lle'r geiriau "Where the Health Authority considered in accordance with regulation 12(2)(a) whether to declare a vacancy".

    (4) Yn lle paragraff (5) rhowch - 

     13. Yn rheoliad 18 (ymgynghori gyda'r Pwyllgor Meddygol Lleol) - 

     14. Yn rheoliad 18A(4) (swyddi gwag mewn partneriaethau penodol), ar ôl "agreed" ychwanegwch "(after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside).".

    
15.  - (1) Diwygir Rheoliad 18B (swyddi gwag mewn partneriaethau yn gyffredinol) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (2) y mha le bynnag yr ymddengys y geiriau "in the locality" rhowch yn eu lle'r geiriau "in the area";

    (3) Ar ôl paragraff (2) mewnosodwch - 

    (4) Ym mharagraff (7), ar ôl "agreed between the Health Authority" mewnosodwch "(after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside)".

    
16.  - (1) Diwygir rheoliad 18C(swyddi gwag unig ymarferwyr) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (6) hepgorwch "to the Secretary of State ".

    (3) Ym mharagraff (7) - 

    (4) Yn lle paragraff (8) rhowch - 

     17.  - (1) Diwygir rheoliad 18D (hysbysebu swyddi gwag unig ymarferwyr) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Yn lle paragraff (1)(a) rhowch - 

    (3) Ym mharagraff (2) yn lle "within such period as the Medical Practices Committee has specified pursuant to regulation 12 (4)(d)," rhowch "within the period specified in regulation 13(7),".

    (4) Ym mharagraff (3) - 

    (5) Ym mharagraff (6) yn lle "the locality" rhowch "the area, and shall be set after consultation with any other Health Authority in whose area prospective patients reside."

    
18. Yn rheoliad 18E(meini prawf er mwyn derbyn cymeradwyaeth ac enwebiad), ym mharagraff (3) hepgorwch "to the Secretary of State ".

    
19.  - (1) Diwygir rheoliad 18F (mynediad i restr feddygol) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1), hepgorwch ",and shall inform the Medical Practices Committee that it has done so.";

    (3) Ar ôl paragraff (1) mewnosodwch - 

    (4) Ym mharagraff (3) hepgorwch "to the Secretary of State".

    
20. Yn rheoliad 18G (apêl i'r Ysgrifennydd Gwladol) - 

     21. Hepgorwch reoliadau 18H (achosion nad oes angen eu cyfeirio i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) a 18I (y weithdrefn i'w dilyn os yw rheoliad 18H yn gymwys).

    
22.  - (1) Yn lle rheoliad 18J (swyddi traws-ffiniol gwag) rhowch - 

     23.  - (1) Diwygir rheoliad 18K (swyddi gwag mewn practisiau lle mae'r cleifion yn ddarostyngedig i gynigion cynllun peilot) yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1) - 

    (3) Yn lle paragraff (2) rhowch - 

    (4) Hepgorwch baragraff (4).

    
24.  - (1) Yn lle rheoliad 18L (darpariaeth drosiannol) rhowch - 

Diwygio rheoliad 37
    
25. Yn rheoliad 37 (cyhoeddi manylion), ym mharagraff (3)(a) hepgorwch "the Medical Practices Committee, ".

Diwygio Rheoliad 40
    
26. Yn rheoliad 40 (tystysgrif nad yw deliad yn ymwneud â gwerthu'r ewyllys da), yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the Secretary of State".

Diwygio Atodlen 2
    
27.  - (1) Diwygir Atodlen 2 (telerau gwasanaethu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ym mharagraff 24 (3), yn lle "to the Medical Practices Committee" rhowch "to the National Assembly for Wales ".

    (3) Ym mharagraff 24(4) - 

    (4) Ym mharagraffau 29(8)(b) yn lle "pursuant to section 33(4)(b) or (5) of the Act" ac ym mharagraff 29A(3)(b) yn lle "pursuant to section 33(4)(b) of the Act" rhowch "under regulation 13(1)(c).".

    (5) Ym mharagraff 32 - 

    (6) Ym mharagraff 33(1), yn lle "the Medical Practices Committee" rhowch "the National Assembly for Wales".

    (7) Ym mharagraff 34 (ardal y practis), yn is-baragraff (2) rhowch - 

Diwygio Atodlen 3
    
28.  - (1) Diwygir Atodlen 3 yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Yn lle'r pennawd i Ran I (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd pan yw'n gwneud cyfeiriad i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol) rhowch - 

    (3) Hepgorwch baragraffau 9 a 10.

    (4) Yn lle'r pennawd i Ran IB (gwybodaeth ychwanegol sydd i'w chynnwys pan gwneir cyfeiriad i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol oherwydd marwolaeth meddyg neu dynnu meddyg yn ôl neu'i waredu o restr feddygol) rhowch - 

    (5) Ym mharagraff 13, yn lle "If the Medical Practices Committee so requests," rhowch "Where the Health Authority considers it necessary,".

    (6) Hepgorwch Ran II (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol ynglyn â digonolrwydd gwasanaethau).

Diwygio Atodlen 7
    
29. Yn Atodlen 7 (ffurf y dystysgrif sydd i'w chyhoeddi gan y Pwyllgor Practisiau Meddyol o dan baragraff 1(3) o Atodlen 10 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977) - 

Diwygio Atodlen 8
    
30. Yn Atodlen 8 (oriau gwaith meddygon) - 

Darpariaethau Trosiannol ar gyfer Tystysgrifau a gyhoeddir o dan Atodlen 10
    
31. Cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym - 

bydd y cais hwnnw yn cael ei drin fel cais i'r Ysgrifennydd Gwladol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Rhodri Morgan
Y Prif Ysgrifennydd

Dyddiad 28 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio dewis ymarferwyr cyffredinol i lanw swyddi gwag mewn practisiau.

Yn dilyn diddymu'r Pwyllgor Practisiau Meddygol gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu cyfundrefn newydd er mwyn i Awdurdodau Iechyd nodi swyddi gwag ac er mwyn gosod amodau ymarfer ar ymarferwyr cyffredinol sy'n llenwi'r swyddi gwag hynny. Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau.

O dan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol y swyddogaeth o gyhoeddi tystysgrifau i ymarferwyr cyffredinol nad yw deliad yn cynnwys gwerthu ewyllys da ac mae rheoliadau 24 a 27 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae Rheoliad 29 yn gwneud darpariaethau trosiannol ynglyn â thrin ceisiadau i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol fel ceisiadau i'r Ysgrifennydd Gwladol os yw'r ceisiadau am dystysgrif neu am farn nad yw deliadau penodol yn cynnwys gwerthu neu brynu ewyllys da practis meddygol ac os yw'r ceisiadau heb eu penderfynu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliad 24 yn digwygio rheoliad 18L er mwyn darparu darpariaethau trosiannol newydd sy'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i Ran III o'r prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1977 c.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwaldol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), ar gyfer y ddiffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanethau Iechyd 1980 (p..53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol a Beirniadaethau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2, gan Ddeddf Meddygaeth 1983 (p.54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a), gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a can Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 8. Mewnosodwyd adran 29A gan Ddeddf 1997, adran 32, ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001"), adran 20. Mewnosodwyd adran 29B gan Ddeddf 1997, adran 32, ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, adrannau 15 ac 20. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2), gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6) a chan Ddeddf 2001, Atodlen 5, paragraff 5(13)(b).
Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwadol o dan adrannau 29, 29A, 29B a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddi; mae adran 68 o Ddeddf 2001 yn darparu bod Atodlen 1 i'w dehongli i gynnwys y diwygiadau a wnaethpwyd gan y Ddeddf honno i Ddeddf 1977; mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
back

[2] 2001 p. 15.back

[3] O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/682, 1998/2838 a 2000/220 (mae'r diwygiadau a wnaethpwyd gan y Rheoliadau hyn effaith yng Nghymru yn rhinwedd O.S. 2000/1707, Cy.114).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090457 5


  Prepared 9 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020916w.html