BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021039w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1039 (Cy.111)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'u gwneud am 10.20 ar 10 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru, a deuant i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[3] mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn Atodlen 3, Rhan I - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

10.20 am ar 10 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673, fel y'u diwygiwyd) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol - 

Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/242/EC (OJ Rhif L82, 26.3.2002, t.18), sy'n diwygio Penderfyniad 2001/327/EC (OJ Rhif L115, 25.4.2001, t.12), sy'n ymwneud â chyfyngu ar symud anifeiliaid o rywogaethau a allai ddioddef o glwy'r traed a'r genau, am y nawfed tro.

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2000/1673; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2266, O.S. 2000/2524, O.S. 2000/2900 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2002/430 (Cy.52).back

[4] 1998.p.38back



English version



ISBN 0 11090474 5


  Prepared 29 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021039w.html