BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1394 (Cy.137)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
21 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
30 Medi 2002 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I
RHAGYMADRODD
RHAN II
GWERTHUSO PENAETHIAID
RHAN III
GWERTHUSO ATHRAWON YSGOL HEBLAW PENAETHIAID
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 49 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 49(4) o'r Ddeddf ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr athrawon, yr oedd yn ymddangos bod ganddynt ddiddordeb yn y mater ac unrhyw bersonau eraill yr oedd yn ymddangos y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN I -
RHAGYMADRODD
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diddymu
2.
Mae Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999[3] yn cael eu diddymu.
Dehongli
3.
- (1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "athro neu athrawes ysgol" ("school teacher") yw athro neu athrawes a gyflogir mewn dim mwy na dwy ysgol, gan awdurdod addysg lleol neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol os yw'r cyfnod yn llai na blwyddyn;
ystyr "corff llywodraethu" ("governing body") mewn perthynas ag ysgol yw corff llywodraethu'r ysgol, ac ystyr "llywodraethwr" ("governor") yw aelod o'r corff llywodraethu hwnnw;
ystyr "cynghorydd allanol" ("external adviser") yw person y mae ei enw yn ymddangos ar restr o gynghorwyr sy'n ymwneud â gwerthuso athrawon sy'n cael ei chadw gan awdurdod addysg lleol;
ystyr "datganiad amcanion" ("statement of objectives") yw'r datganiad ysgrifenedig o amcanion a gofnodir o dan reoliad 12(3) neu reoliad 26(3) yn ôl fel y digwydd;
mae i "datganiad gwerthuso" ("appraisal statement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 16(10) neu, yn ôl fel y digwydd, gan reoliad 30(11);
ystyr "diwrnod ysgol" ("school day") yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod;
mae "pennaeth" ("head teacher") yn cynnwys pennaeth gweithredol;
ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig; ac
ystyr "ysgol sydd â chymeriad crefyddol" ("school which has a religious character") yw ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd wedi'i dynodi fel ysgol â chymeriad o'r fath o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[4].
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn -
(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; a
(b) at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
Y ddyletswydd i werthuso
4.
- (1) Mae'n ddyletswydd ar gorff llywodraethu a phennaeth ysgol i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon ysgol a phenaethiaid wrth gyflawni eu dyletswyddau yn yr ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn achos athro neu athrawes ysgol neu bennaeth a gyflogir mewn dwy ysgol, rhaid i'w perfformiad yn y ddwy ysgol gael ei werthuso ac felly mae "ysgol" ym mharagraff (1) i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at y ddwy ysgol.
Adroddiad y pennaeth
5.
O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ysgol rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu yngln â'r ffordd y mae gwerthuso'n gweithredu yn yr ysgol o dan y Rheoliadau hyn, effeithiolrwydd gweithdrefnau gwerthuso'r ysgol, ac anghenion hyfforddi a datblygu yr athrawon ysgol a'r pennaeth.
RHAN II -
GWERTHUSO PENAETHIAID
Cymhwyso Rhan II
6.
Mae rheoliadau 7 i 19 yn gymwys ar gyfer gwerthuso penaethiaid yn unig.
Penodi gwerthuswyr a chynghorydd allanol
7.
- (1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol benodi yn werthuswyr pennaeth dau neu dri o lywodraethwyr, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn llywodraethwr sefydledig yr ysgol os yw'n ysgol sydd â chymeriad crefyddol neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir heb gymeriad crefyddol.
(2) Caiff y corff llywodraethu benodi gwerthuswr newydd yn lle unrhyw werthuswr presennol ar unrhyw adeg.
(3) Ni ellir penodi unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i'r pennaeth.
(4) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol hefyd benodi cynghorydd allanol mewn perthynas â gwerthuso pennaeth.
(5) Caiff y corff llywodraethu benodi cynghorydd allanol newydd yn lle unrhyw gynghorydd allanol presennol ar unrhyw adeg.
Y cylch gwerthuso
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 9, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pennaeth yr ysgol.
(2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (3) a rheoliad 9(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.
(3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf pennaeth o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Tachwedd 2003 nac yn hwyrach na 31 Mydref 2004
(4) Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob pennaeth yn barhaus.
(5) Ni fydd penodiad gwerthuswr neu gynghorydd allanol newydd yn peri bod cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto.
Cylch gwerthuso newydd
9.
- (1) Os bydd pennaeth yn symud i swydd pennaeth mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.
(2) Pan ddaw athro neu athrawes ysgol (nad yw'n bennaeth) yn bennaeth (yn yr un ysgol neu mewn un arall) fel bod rheoliadau 7 i 19 yn gymwys i'w gwerthusiad, bydd yr amseriad ar gyfer eu cylch gwerthuso yn cael ei benderfynu o'r newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y corff llywodraethu o dan reoliad 8(1).
(3) Pan fydd cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto o dan baragraff (1), neu'n cael ei benderfynu o'r newydd o dan baragraff (2), caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf y pennaeth yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.
Cylch gwerthuso cyntaf
10.
Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 31 Ionawr 2002.
Gweithdrefnau gwerthuso
11.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 12 i 16, rhaid i gorff llywodraethu ysgol benderfynu'r gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r pennaeth yn yr ysgol.
Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion
12.
- (1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r holl werthuswyr, y cynghorydd allanol a'r pennaeth gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys amcanion ynghylch -
(a) arwain yr ysgol a'i rheoli; a
(b) cynnydd y disgyblion.
(2) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y maent yn credu eu bod yn briodol, a chaiff y pennaeth ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2), a sylwadau ysgrifenedig y pennaeth, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.
Adolygu amcanion
13.
- (1) Caiff amcanion pennaeth eu hadolygu ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso os yw'r pennaeth a'r holl werthuswyr yn cytuNo.
(2) Os yw amcanion pennaeth yn cael eu hadolygu o dan baragraff (1) -
(a) rhaid diwygio'r datganiad amcanion i ddangos yr adolygiadau y cytunwyd arnynt;
(b) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac
(c) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.
Monitro cynnydd
14.
- (1) Mae'n rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 12(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad y pennaeth yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 12(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 12(2).
(2) Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad y pennaeth y maent yn credu eu bod yn briodol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, p'un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad y pennaeth oddi wrth unrhyw berson arall oni bai bod y pennaeth yn cytuno neu bod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso
15.
- (1) Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr, y cynghorydd allanol a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso, gyda'r bwriad -
(a) o adolygu perfformiad y pennaeth a nodi ei gyraeddiadau ac unrhyw agweddau lle byddai cynnydd pellach yn ddymunol;
(b) o asesu i ba raddau y mae'r pennaeth wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion; ac
(c) o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswyr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r pennaeth am y dyddiad hwnnw.
(3) O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, caiff y pennaeth gyflwyno i'r gwerthuswyr -
(a) asesiad y pennaeth ei hun o'i berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(b) manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r pennaeth yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac
(c) manylion unrhyw ffactorau y mae'r pennaeth yn credu eu bod wedi effeithio ar ei berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;
a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswyr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(4) Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswyr a'r pennaeth yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
(5) Gall adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 12 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
(6) Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r pennaeth cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
(7) Caiff y pennaeth, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu ei sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.
Apelau
16.
- (1) Mae gan bennaeth hawl i apelio yn erbyn ei werthusiad ef neu ei gwerthusiad hi o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 15(6).
(2) Caiff apêl ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.
(3) Cadeirydd y corff llywodraethu fydd y swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, rhaid i'r corff llywodraethu benodi un neu ddau lywodraethwr nad ydynt wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.
(4) Rhaid peidio â phenodi unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn swyddog apêl ar gyfer pennaeth yr ysgol honNo.
(5) Rhaid i gynghorydd allanol na chyngorodd mewn perthynas â'r gwerthusiad roi cymorth i'r swyddog neu'r swyddogion apêl.
(6) Rhaid i'r swyddog neu'r swyddogion apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 17(3), ac wrth wneud hynny rhaid iddynt gymryd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y pennaeth i ystyriaeth.
(7) Caiff y swyddog neu'r swyddogion apêl -
(a) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog neu'r swyddogion apêl neu hebddynt; neu
(b) diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb yr holl werthuswyr; neu
(c) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(8) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (7)(c) rhaid i'r holl werthuswyr a'r cynghorydd allanol gael eu disodli gan werthuswyr newydd a chyngorydd alllanol newydd a benodir yn unol â rheoliad 7 a rhaid i'r swyddog neu'r swyddogion apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(9) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (8) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog neu'r swyddogion apêl o dan baragraff (7)(c).
(10) Ni chaiff swyddogion apêl -
(a) penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 12; na
(b) penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 12 i gael eu hadolygu.
(11) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn a rheoliadau 17 a 18 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 15(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 17 a 18, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog neu swyddogion apêl o dan baragraff (7)(a).
Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw
17.
- (1) Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad gwerthuso -
(a) i'r pennaeth;
(b) i gadeirydd y corff llywodraethu;
(c) i unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwnânt gais; ac
(ch) yn achos pennaeth ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) i unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwnaiff gais.
(2) Os gwneir cais rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi crynodeb o'r datganiad gwerthuso i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am berfformiad penaethiaid yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 16 a pharagraff 22 o Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso a'r datganiad amcanion i unrhyw swyddog apêl ac i unrhyw gynghorydd allanol sy'n rhoi cyngor i'r swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 16(2).
(4) Pan fydd gwerthuswr neu gynghorydd allanol newydd yn cael ei benodi heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o unrhyw ddatganiad amcanion cyfredol i'r person hwnnw.
(5) Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 15(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad y pennaeth yn yr ysgol.
(6) Rhaid i bennaeth gadw copi o'i ddatganiad gwerthuso am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
(7) Rhaid i'r corff llywodraethu gadw copi o ddatganiad gwerthuso pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso
18.
- (1) Gall gwybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan gyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 17(1)(ch) neu (2) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu penaethiaid neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
(2) Rhaid i weithdrefnau gwerthuso beidio â bod yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo.
Darpariaeth drosiannol
19.
Mae rheoliadau 17 a 18 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.
RHAN III -
GWERTHUSO ATHRAWON YSGOL HEBLAW PENAETHIAID
Cymhwyso Rhan III
20.
Mae rheoliadau 21 i 33 yn gymwys ar gyfer gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.
Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon ysgol
21.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 30(8) rhaid i'r pennaeth benodi yn werthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol, athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol neu'r pennaeth.
(2) Caiff y pennaeth benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg.
Y cylch gwerthuso
22.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol.
(2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3) a (4) a rheoliad 23(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.
(3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Tachwedd 2003 nac yn hwyrach na 31 Hydref 2004.
(4) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw'n ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod a lai na blwyddyn.
(5) Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn barhaus.
(6) Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto.
Cylch gwerthuso newydd
23.
- (1) Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd athro neu athrawes ysgol mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.
(2) Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd newydd fel athro neu athrawes ysgol yn yr un ysgol, caiff y pennaeth benderfynu y bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.
(3) Pan fydd cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto o dan baragraff (1) neu (2), caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf yr athro neu'r athrawes ysgol yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.
Cylch gwerthuso cyntaf
24.
Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 30 Ebrill 2003.
Gweithdrefnau gwerthuso
25.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 26 i 30, rhaid i gorff llywodraethu ysgol benderfynu'r gwethdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athrawon ysgol yn yr ysgol.
Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion
26.
- (1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys amcanion ynghylch -
(a) datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ysgol; a
(b) cynnydd y disgyblion.
(2) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ysgol, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.
Adolygu amcanion
27.
- (1) Caiff amcanion athro neu athrawes ysgol eu hadolygu ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso os yw'r athro neu athrawes ysgol a'r gwerthuswr yn cytuNo.
(2) Os yw amcanion athro neu athrawes ysgol yn cael eu hadolygu o dan baragraff (1) -
(a) rhaid diwygio'r datganiad amcanion i ddangos yr adolygiadau y cytunwyd arnynt;
(b) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion athro neu athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac
(c) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.
Monitro cynnydd
28.
- (1) Mae'n rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 26(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 26(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 26(2).
(2) Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'r gwerthuswr yn credu eu bod yn briodol.
(3) Mae'n rhaid i'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys gofyniad bod yn rhaid i'r gwerthuswr wrth werthuso athro neu athrawes ysgol arsylwi unwaith o leiaf yn ystod y cylch gwerthuso ar yr athro neu'r athrawes ysgol wrth iddynt addysgu.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, p'un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol oddi wrth unrhyw berson arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ysgol yn cytuno neu bod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso
29.
- (1) Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gynnal adolygiad gwerthuso, gyda'r bwriad -
(a) o adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol a nodi eu cyraeddiadau ac unrhyw agweddau lle byddai cynnydd pellach yn ddymunol;
(b) o asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion; ac
(c) o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r athro neu'r athrawes ysgol am y dyddiad hwnnw.
(3) O leiaf bum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, gyflwyno i'r gwerthuswr -
(a) asesiad yr athro neu'r athrawes ysgol eu hunain o'u perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(b) manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac
(c) manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu eu bod wedi effeithio ar eu perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;
a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(4) Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
(5) Gall adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 26 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
(6) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ysgol cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
(7) Caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu eu sylwadau ysgrifenedig ato, a rhaid i'r sylwadau hynny fod yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.
Apelau
30.
- (1) Mae gan athro neu athrawes ysgol hawl i apelio yn erbyn eu gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 29(6).
(2) Caiff apêl ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.
(3) Y pennaeth sy'n gorfod bod yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os y pennaeth yw'r gwerthuswr, cadeirydd y corff llywodraethu sy'n gorfod bod yn swyddog apêl.
(4) Os cadeirydd y corff llywodraethu yw'r swyddog apêl, rhaid i gynghorydd allanol roi cymorth iddo neu iddi.
(5) Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 31(2)(b), a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan yr athro neu'r athrawes ysgol i ystyriaeth.
(6) Caiff y swyddog apêl -
(a) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu
(b) diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu
(c) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(7) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c), rhaid i werthuswr newydd gael ei benodi yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(8) Os yw'n ymddangos i swyddog apêl nad oes gwerthuswr newydd priodol y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu athrawes ysgol o dan reoliad 21, rhaid i'r swyddog apêl benodi aelod o gorff llywodraethu'r ysgol yn werthuswr newydd ar gyfer yr athro neu athrawes ysgol.
(9) Ni ellir penodi unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i athro neu athrawes ysgol o dan baragraff (8).
(10) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (6)(c).
(11) Ni chaiff y swyddog apêl -
(a) penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 26; na
(b) penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu hadolygu.
(12) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).
Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw
31.
- (1) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r pennaeth.
(2) Rhaid i'r pennaeth drefnu bod y datganiad gwerthuso ar gael os gwneir cais -
(a) i'r gwerthuswr;
(b) i unrhyw swyddog apêl ac unrhyw gynghorydd allanol sy'n rhoi cymorth i'r swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi iddo gopi o'r datganiad amcanion hefyd;
(c) i unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac
(ch) yn achos athro neu athrawes ysgol sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol.
(4) Rhaid i'r pennaeth drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ysgol ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.
(5) Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ysgol gael ei gadw gan y pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso
32.
- (1) Gall gwybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, cyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 31(2)(ch) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
(2) Rhaid i weithdrefnau gwerthuso beidio â bod yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo.
Darpariaeth drosiannol
33.
Mae rheoliadau 31 a 32 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2888 (Cy.25)).
Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon anghymwysedig) mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig cymunedol, neu ysgolion arbennig sefydledig, heblaw am athrawon a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol o lai na blwyddyn.
Mae Rhan I o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth i sicrhau bod perfformiad pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd (rheoliad 4) a'r ddyletswydd sydd ar benaethiaid i gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar effeithiolrwydd gweithdrefnau gwerthuso i'r corff llywodraethu (rheoliad 5).
Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso penaethiaid.
Mae rheoliad 7 yn darparu bod y corff llywodraethu yn penodi dau neu dri llywodraethwr yn werthuswyr ar gyfer pennaeth. Caiff cynghorydd allanol ei benodi hefyd.
Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu yngln â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er gall y corff llywodraethu benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer cylch gwerthuso cyntaf pennaeth. Ar ôl symud i swydd newydd fel pennaeth neu ar ôl dod yn bennaeth, mae'r cylch gwerthuso yn ailddechrau.
Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2003. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso.
Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswyr, y cynghorydd allanol a'r pennaeth lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae rheoliad 13 yn darparu y gall yr amcanion hyn gael eu hadolygu. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno ac mae'n darparu ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.
Mae rheoliad 15 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tuag at ddiwedd y cylch. Gall y pennaeth gyflwyno asesiad o'i berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig.
Mae rheoliad 16 yn rhoi hawl i'r pennaeth apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.
Mae rheoliadau 17 ac 18 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol a gellir eu rhoi i bobl eraill. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.
Mae rheoliad 19 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.
Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.
Mae rheoliad 21 yn darparu bod y pennaeth yn penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol mewn ysgol. Caiff y pennaeth neu un o athrawon eraill yr ysgol fod yn werthuswr.
Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth yngln â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y gall y pennaeth benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer y cylch gwerthuso cyntaf. Ar ôl symud i swydd newydd mewn ysgol arall mae'r cylch gwerthuso'n dechrau eto, ond ar ôl symud i swydd newydd yn yr un ysgol, mater i'r pennaeth yw penderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto neu beidio.
Mae rheoliad 24 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod gwerthusiad cyntaf athro neu athrawes ysgol yn dechrau erbyn 30 Ebrill 2003.
Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso.
Mae rheoliad 26 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae rheoliad 27 yn darparu y gall yr amcanion hyn gael eu hadolygu. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuNo. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.
Mae rheoliad 29 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tuag at ddiwedd y cylch. Gall yr athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno asesiad o'u perfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig.
Mae rheoliad 30 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ysgol apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.
Mae rheoliadau 31 a 32 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol a gellir eu rhoi i bobl eraill. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.
Mae rheoliad 33 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.
Notes:
[1]
1986 p.61. Diwygiwyd adran 49 gan baragraffau 36 a 101 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), gan baragraff 23 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) a chan baragraff 14 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35). Ar gyfer materion sydd i'w rhagnodi, gweler adran 67(3) o Ddeddf 1986 (a ddiwygiwyd gan baragraff 66 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), ac adran 579(1) o'r Ddeddf honno).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back
[3]
O.S. 1999/2888 (Cy.25).back
[4]
1998 p.31.back
[5]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090494 X
|
Prepared
5 June 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021394w.html