BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021794w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1794 (Cy.169)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 


TREFN Y RHEOLIADAU


Rhan I

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli

Rhan II

CYFNODAU CYCHWYNNOL APELAU
3. Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law
4. Ymateb gan atebydd i apêl
5. Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl
6. Hysbysu'r cyhoedd

Rhan III

APELAU A BENDERFYNNIR AR SAIL SYLWADAU YSGRIFENEDIG
7. Cymhwysiad
8. Cyfnewid tystiolaeth
9. Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig

Rhan IV

APELAU A BENDERFYNIR AR ÔL GWRANDAWIAD
10. Cymhwysiad
11. Cyfnewid tystiolaeth
12. Dyddiad a hysbysiad o wrandawiad
13. Hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo
14. Y weithdrefn mewn gwrandawiad
15. Penderfyniad ar ôl gwrandawiad
16. Hysbysu'r penderfyniad

Rhan V

APELAU A BENDERFYNIR AR ÔL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL
17. Cymhwysiad
18. Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal
19. Cael datganiadau o achos a.y.y.b.
20. Pwcircer pellach i'r person penodedig gynnal cyfarfodydd cyn-ymchwiliad
21. Amserlen yr ymchwiliad
22. Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad
23. Hawl i fod yn bresennol mewn ymchwiliad a chymryd ran ynddo
24. Proflenni tystiolaeth
25. Datganiad o dir cyffredin
26. Y weithdrefn mewn ymchwiliad
27. Penderfyniad ar ôl ymchwiliad
28. Hysbysu'r penderfyniad

Rhan VI

AMRYWIOL
29. Tynnu apêl yn ôl
30. Newid yn ffurf apêl
31. Gweithdrefnau pellach neu wahanol
32. Hysbysiad o benodiad asesydd
33. Archwiliadau safle
34. Gwrandawiadau neu ymchwiliadau ar y cyd
35. Defnyddio cyfathrebu electronig
36. Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 32, 38(6) a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



Rhan I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf ac:

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni phennir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

    (3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn wcirc yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â thrannoeth nad yw'n un o'r dyddiau uchod.



Rhan II

CYFNODAU CYCHWYNNOL YR APELAU

Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law
     3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol resymol ar ôl iddo gael ffurflen apêl wedi'i chwblhau, anfon copi ohoni at yr atebydd.

Ymateb gan atebydd i apêl
    
4.  - (1) Rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

    (2) Pan fydd yr atebydd wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (1), rhaid i'r atebydd, cyn i'r cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5(2) ddirwyn i ben, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynt na diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), roi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o'r ffurf y mae'r apêl i'w chymryd.

    (2) Rhaid peidio â rhoi hysbysiad o dan baragraff (1):

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

    (3) Rhaid bod yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) wedi'i ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf;

    (4) Y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) yw'r "dyddiad cychwyn" at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r apêl y mae'n cyfeirio ati a rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw.

    (5) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(a).

Hysbysu'r cyhoedd
    
6.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr un adeg y mae'n rhoi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o dan reoliad 5(1), neu cyn gynted ag y mae'n ymarferol wedyn:

    (2) Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c) gael ei dyddio a rhaid datgan:

    (3) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff 1(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff 1(c) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(b).

    (4) Caiff unrhyw hysbysiad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c), yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad hwnnw gan y rheoliad hwn, gynnwys gwybodaeth bellach o'r fath y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.



Rhan III

APELAU A BENDERFYNIR AR SAIL SYLWADAU YSGRIFENEDIG

Cymhwysiad
    
7. Mae rheoliadau 8 a 9 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Cyfnewid tystiolaeth
    
8.  - (1) Yn ychwanegol at unrhyw ddogfennau a anfonwyd eisoes at y Cynulliad Cenedlaethol gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Mapiau Dros Dro (mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf), a chan yr atebydd yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu, os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach o'r fath neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau yn unol â pharagraff (1), anfon copi o'r sylwadau, y dogfennau neu'r hysbysiadau hynny at yr apelydd neu'r atebydd, fel y bo'n briodol.

    (3) Rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

    (4) Pan fydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw un heblaw'r apelydd neu'r atebydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael y sylwadau hynny, anfon copi ohonynt at yr apelydd a'r atebydd, a rhaid iddynt, os ydynt yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau ar y sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol, anfon dau gopi o'u sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd yr apelydd a'r atebydd i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at ei gilydd, o fewn yr amser rhesymol hwnnw y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r apêl i gael ei phenderfynu.

Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig
    
9.  - (1) Caiff y person penodedig, ar ôl i unrhyw derfynau amser ddirwyn i ben erbyn pryd y mae'n ofynnol neu y caniateir i'r apelydd neu'r atebydd gymryd unrhyw gam yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac ar ôl rhoi i'r apelydd a'r atebydd hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu'r apêl drwy gymryd i ystyriaeth y sylwadau a'r dogfennau eraill hynny a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn y terfynau amser perthnasol.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:



Rhan IV

APELAU A BENDERFYNIR AR ÔL GWRANDAWIAD

Cymhwysiad
    
10. Mae rheoliadau 11 i 16 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar ôl gwrandawiad.

Cyfnewid tystiolaeth
    
11. Mae rheoliad 8 i'w gymhwyso i apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad fel y mae i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Dyddiad a hysbysiad gwrandawiad
    
12.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud y canlynol:

    (2) Rhaid i bob hysbysiad o wrandawiad a roddir yn unol â pharagraff (1)(c) neu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1)(ch) gynnwys:

    (3) Er gwaethaf paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrwyiwyd o fewn y cyfnod sydd fel arall yn ofynnol gan y paragraff hwnnw neu beidio, ac mae paragraff (1)(c) a (ch) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad a rhaid rhoi hysbysiad o unrhyw amrywiad fel y gwêl yn rhesymol.

Hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo
    
13. Mae gan yr apelydd a'r atebydd hawl i fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad, a gall y person penodedig ganiatáu i unrhyw bersonau eraill wneud hynny (naill ai ar eu rhan eu hunain neu ar ran unrhyw berson arall).

Y weithdrefn mewn gwrandawiad
    
14.  - (1) Ac eithrio unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

    (2) Mae gwrandawiad i gymryd ffurf trafodaeth sy'n cael ei llywio gan y person penodedig ac ni chaniateir croesholi onid yw'r person penodedig yn ystyried ei fod yn ofynnol i sicrhau archwiliad priodol o'r pynciau sy'n berthnasol i'r apêl.

    (3) Rhaid i berson penodedig sy'n ystyried bod croesholi'n ofynnol o dan paragraff (2) ystyried, ar ôl ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd, a ddylid cau'r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

    (4) Ar ddechrau'r gwrandawiad, rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sy'n ymddangos i'r person penodedig mai hwy yw'r prif bynciau i'w hystyried yn y gwrandawiad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig angen esboniad pellach arnynt gan unrhyw berson y mae ganddo hawl i gymryd rhan neu a ganiateir iddo gymryd rhan.

    (5) Nid oes dim ym mharagraff (4) i atal unrhyw berson y mae ganddo hawl neu y caniateir iddo gymryd rhan yn y gwrandawiad rhag cyfeirio at bynciau y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol wrth ystyried yr apêl ond nad oeddent yn bynciau â nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

    (6) Caiff person sydd â hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad, yn ddarostyngedig i'r paragraffau blaenorol ac i baragraffau (7) ac (8), alw tystiolaeth ond, fel arall bydd galw tystiolaeth yn fater disgresiwn y person penodedig.

    (7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar neu gyflwyno unrhyw fater arall y mae'r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu'n ailadroddus ond, os bydd y person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy'n dymuno rhoi'r dystiolaeth gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

    (8) Caiff y person penodedig:

ond caiff person o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

    (9) Caiff person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol at ddibenion y gwrandawiad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r gwrandawiad os oes angen) roi cyfle digonol i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn y gwrandawiad i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

    (10) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â'r gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

    (11) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen ysgrifenedig arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn i'r gwrandawiad agor neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddatgelu yn y gwrandawiad.

    (12) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael hysbysiad pellach.

Penderfyniad ar ôl gwrandawiad
    
15.  - (1) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, tystiolaeth neu ddogfennau eraill a ddaeth i law ar ôl i'r gwrandawiad gau.

    (2) Os bydd y person penodedig, ar ôl i'r gwrandawiad gau, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw'n fater o bolisi'r llywodraeth) na chafodd ei godi yn y gwrandawiad ac y mae'r person penodedig yn ystyried ei fod o bwys i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â gwneud hynny heb yn gyntaf:

ar yr amod bod y sylwadau ysgrifenedig hynny neu'r cais i ailagor y gwrandawiad yn dod i law'r Cynullaid Cenedlaethol o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.

    (3) Caiff person penodedig beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor a rhaid i'r person penodedig wneud hynny os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd yn yr amgylchiadau ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2) ac os yw'r gwrandawiad yn cael ei ailagor:

Hysbysu'r penderfyniad
    
16.  - (1) Rhaid hysybysu penderfyniad y person penodedig a'r rhesymau amdano yn ysgrifenedig:

    (2) Caiff unrhyw berson â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

    (3) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael o fewn 6 wythnos o ddyddiad penderfyniad yr apêl.



Rhan V

APELAU A BENDERFYNIR AR ÔL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL

Cymhwysiad
    
17. Mae rheoliadau 18 i 28 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal
    
18.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad amlinellol yr atebydd at yr apelydd a datganiad amlinellol yr apelydd at yr atebydd.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bersonau â diddordeb sydd wedi ei hysbysu o fwriad neu ddymuniad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon datganiad amlinellol ato, at yr apelydd ac at yr atebydd, a rhaid i'r personau hynny â diddordeb sicrhau bod datganiad o'r fath yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, yr apelydd a'r atebydd o fewn 4 wythnos i ddyddiad gofyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Rhaid cynnal y cyfarfod cyn-ymchwiliad (neu, os oes mwy nag un, y cyfarfod cyn-ymchwiliad cyntaf) o fewn 16 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad heb fod yn llai na 3 wythnos o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad i'r apelydd, yr atebydd, i unrhyw berson â diddordeb y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad ei fod yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y byddai ei bresenoldeb yn ddymunol, a rhaid iddo, mewn perthynas â hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad, gymryd un neu fwy o'r camau a bennir, mewn perthynas â'r ymchwiliad, yn rheoliad 22(6).

    (7) O ran y person penodedig:

    (8) Os cafodd cyfarfod cyn-ymchwiliad ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu rhoi hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol i'r person penodedig; ac mae paragraff (7) i fod yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach o'r fath.

    (9) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd neu'r atebydd mewn cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r person y gofynnir am yr wybodaeth oddi wrtho sicrhau bod dau gopi o'r wybodaeth honno yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall y person penodedig ei gwneud yn ofynnol bod copi yn cael ei roi iddo, o fewn 4 wythnos ar ôl i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad ddod i ben a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

Cael datganiadau o achos a.y.y.b.
    
19.  - (1) Rhaid i'r atebydd sicrhau:

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr atebydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

    (2) Rhaid i'r atebydd, yn ei ddatganiad o achos, gynnwys manylion o'r lle a'r amserau y rhoddir cyfle i archwilio a chymryd copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) isod.

    (3) Rhaid i'r apelydd sicrhau:

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr apelydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad o achos yr atebydd at yr apelydd a chopi o ddatganiad yr apelydd at yr atebydd.

    (5) Caiff yr apelydd a'r atebydd, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r llall anfon copi ato o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr o ddogfennau a gynhwysir yn natganiad o achos y llall; a rhaid anfon unrhyw ddogfen felly, neu ran berthnasol ohoni, cyn gynted ag y mae'n ymarferol, at y parti a ofynnodd amdani.

    (6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson arall, sydd wedi ei hysbysu o ddymuniad i geisio caniatâd y person penodedig i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, anfon:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o bob datganiad o achos o'r fath at yr apelydd ac at yr atebydd.

    (7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol;

    (8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sydd wedi anfon datganiad o achos ato yn unol â'r rheoliad hwn, roi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y materion a gynhwysir yn y datganiad o achos y caiff eu pennu a chaiff bennu'r amser erbyn pryd mae'n rhaid i'r wybodaeth ddod i law.

    (9) Os gofynnir i'r atebydd neu'r apelydd roi gwybodaeth bellach, rhaid iddynt sicrhau:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo ddod i law, anfon copi at yr apelydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd ac anfon copi at yr atebydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd.

    (10) Rhaid i unrhyw berson arall y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth bellach sicrhau:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach at yr atebydd ac at yr apelydd.

    (11) Rhaid i unrhyw berson heblaw'r apelydd sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gydag ef gopi:

y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â pharagraff (12).

    (12) Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio a, lle bo'n ymarferol, wneud copïau:

    (13) Os bydd yr atebydd neu'r apelydd yn dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos y llall rhaid iddynt sicrhau o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

    (14) Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn ac sy'n dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos unrhyw berson arall, sicrhau heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig at yr apelydd ac at yr atebydd.

    (15) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at y person penodedig unrhyw ddatganiad o achos, dogfen neu wybodaeth bellach neu sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a ddaeth i'w law o fewn y cyfnod perthnasol, os o gwbl, a bennir yn y rheoliad hwn.

Pwcircer pellach y person penodedig i gynnal cyfarfodydd cyn-ymchwiliad
    
20.  - (1) Os na chynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, caiff y person penodedig gynnal un os yw'r person penodedig yn meddwl ei fod yn angenrheidiol.

    (2) Rhaid i berson penodedig roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 2 wythnos o gyfarfod cyn-ymchwiliad sydd i'w gynnal o dan baragraff (1):

    (3) Mae rheoliad 18(7) yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad a gynhelir o dan y rheoliad hwn.

Amserlen yr ymchwiliad
    
21.  - (1) Rhaid i berson penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn ymchwiliad, neu ran o ymchwiliad:

    (2) Caiff y person penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn unrhyw ymchwiliad arall, neu ran o ymchwiliad arall, a chaiff ar unrhyw adeg, amrywio'r amserlen a drefnwyd o dan y paragraff hwn, neu'r paragraff blaenorol.

    (3) Caiff y person penodedig bennu mewn amserlen a drefnir yn unol â'r rheoliad hwn ddyddiad y mae'n rhaid i unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonnir yn unol â rheoliad 24(1) ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad
    
22.  - (1) Rhaid i'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cynnal ymchwiliad, onid yw'n ystyried bod y dyddiad hwnnw'n anymarferol, beidio â bod yn hwyrach na:

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn anymarferol i bennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol a grybwyllir yn y paragraff hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn ymarferol.

    (3) Oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod o hysbysiad llai gyda'r apelydd a'r atebydd, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos, o'r dyddiad, amser a'r lle a bennir ganddo i gynnal ymchwiliad i bob person y mae ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennir i gynnal ymchwiliad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrywiwyd o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (1) neu beidio; a bydd paragraff (3) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel y mae'n gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal ymchwiliad a rhaid iddo roi hysbysiad o unrhyw amrywiad y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

    (7) Rhaid i bob hysbysiad o ymchwiliad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraph (6),

Hawl i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn ymchwiliad
    
23.  - (1) Dyma'r personau sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad:

    (2) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.

    (3) Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad neu y caniateir iddo wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Proflenni tystiolaeth
    
24.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad sy'n bwriadu rhoi, neu'n bwriadu galw ar berson arall i roi, tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth:

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o bob proflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb at yr atebydd a'r apelydd.

    (2) Nid oes angen crynodeb ysgrifenedig os yw'r broflen dystiolaeth y bwriedir ei darllen yn cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.

    (3) Rhaid i'r broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na:

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a gafodd o fewn y cyfnod perthnasol a bennir yn y rheoliad hwn.

    (5) Os rhoddir crynodeb ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), dim ond y crynodeb hwnnw gaiff ei ddarllen yn yr ymchwiliad, oni fydd y person penodedig yn caniatáu neu'n mynnu fel arall.

    (6) Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i anfon copïau o broflen dystiolaeth at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda hwy yr un nifer o gopïau o'r cyfan, neu o'r rhan berthnasol, o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn y broflen dystiolaeth, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â rheoliad 19(12).

    (7) Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio ac, os yw'n ymarferol, gymryd copïau o unrhyw ddogfen a anfonwyd at yr atebydd neu oddi wrtho yn unol â'r rheoliad hwn.

Datganiad o dir cyffredin
    
25.  - (1) Rhaid i'r atebydd a'r apelydd:

    (2) Rhaid i'r atebydd roi i unrhyw berson sy'n gofyn am hynny gyfle rhesymol i archwilio, a lle bo'n ymarferol, gymryd copïau o'r datganiad o dir cyffredin a anfonwyd at y Cynulliad Cenedlaethol.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad
    
26.  - (1) Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y person penodedig sydd i benderfynu'r weithdrefn mewn ymchwiliad.

    (2) Ar ddechrau'r ymchwiliad rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sydd, ym marn y person penodedig, yn brif bynciau i'w hystyried yn yr ymchwiliad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig yn gofyn am esboniad pellach yn eu cylch oddi wrth y personau sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan.

    (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) i atal unrhyw berson sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan rhag cyfeirio at bynciau y maent hwy yn eu hystyried sy'n berthnasol ar gyfer ystyried y cais neu'r apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

    (4) Oni fydd y person penodedig mewn achos penodedig yn penderfynu fel arall, yr atebydd sydd i ddechrau a'r apelydd sydd i gael hawl i ateb yn derfynol; ac mae'r personau eraill sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan i'w clywed yn y drefn honno y bydd y person penodedig yn penderfynu arni.

    (5) Bydd gan berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad yr hawl i alw tystiolaeth a bydd gan yr apelydd, yr atebydd, ac unrhyw berson â diddordeb yr hawl i groesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth, ond, yn ddarostyngedig i'r uchod a pharagraffau (6) a (7), bydd galw tystiolaeth a chroesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth fel arall yn ôl disgresiwn y person penodedig.

    (6) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu:

y mae'r person penodedig o'r farn eu bod yn amherthnasol neu'n ailadroddus; ond os yw'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

    (7) Os bydd person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth yn unol â rheoliad 24(5):

    (8) Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau'n cael eu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i gymryd neu gael copïau o dystiolaeth ddogfennol sy'n agored i archwiliad gan y cyhoedd.

    (9) Caiff y person penodedig:

ond caiff y cyfryw berson gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

    (10) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad o achos a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan y person penodedig o dan reoliad 19 i'r graddau y bo angen at ddibenion yr ymchwiliad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r ymchwiliad os oes angen) roi i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyfle digonol i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

    (11) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

    (12) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafwyd oddi wrth unrhyw berson cyn i'r ymchwiliad agor neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddangos yn yr ymchwiliad.

    (13) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir y dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.

    (14) O ran unrhyw ymchwiliad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn disgwyl y bydd yn para am 8 diwrnod neu fwy, rhaid i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac sy'n cyflwyno dadleuon terfynol, ddarparu, cyn i'r ymchwiliad gau, gopi o'r dadleuon hynny yn ysgrifenedig i'r person penodedig.

Penderfyniad ar ôl ymchwiliad
    
27.  - (1) Os cafodd asesydd ei benodi, caiff yr asesydd wneud adroddiad yn ysgrifenedig i'r person penodedig mewn perthynas â'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori arnynt.

    (2) Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â'r apêl, caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau ysgrifenedig, neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen a ddaeth i law ar ôl i'r ymchwiliad gau.

    (3) Os bydd y person penodedig, ar ôl i'r ymchwiliad gau, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw'n fater o bolisi'r llywodraeth) na chafodd ei godi yn yr ymchwiliad ac y mae'r person penodedig o'r farn ei fod o bwys i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf:

a byddant yn sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu gais i ailagor yr ymchwiliad yn dod i law'r person penodedig o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.

    (4) Caiff person penodedig beri bod ymchwiliad yn cael ei ailagor a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd yn yr amgylchiadau ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (3); ac os ailagorir ymchwiliad:

Hysbysu'r penderfyniad
    
28.  - (1) Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y person penodedig a'r rhesymau amdano:

    (2) Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

    (3) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau ei fod yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos o ddyddiad y penderfyniad.



Rhan VI

AMRYWIOL

Tynnu apêl yn ôl
    
29.  - (1) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i wneud hynny.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, roi hysbysiad o'r ffaith honno i bob un o'r personau y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 5(1).

Newid yn ffurf apêl
    
30. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn fwy priodol fod apêl yn cael ei phenderfynu mewn dull sy'n wahanol i'r ffurf a hysbyswyd o dan reoliad 5, caiff benderfynu bod apêl i barhau mewn ffurf heblaw'r un a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw ganllawiau canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl, gan gynnwys nodi unrhyw gamau y mae gofyn eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn ac y bernir eu bod eisoes wedi eu cymryd ac amrywio yn ôl yr angen yr amser o fewn pryd y caiff unrhyw gam o'r fath na chymerwyd ef eisoes ei gymryd.

Gweithdrefnau pellach neu wahanol
    
31. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i'r apêl benodol yn ei gwneud yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau penodedig gael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at y rhai a ragnodwyd gan y rheoliadau hyn neu yn eu lle, a gall estyn yr amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, ar gyfer cymryd unrhyw gamau ond rhaid iddo, cyn gwneud hynny, oni chyfyngir yr effaith i estyniad amser, ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson â diddordeb a rhaid iddo ystyried y sylwadau a wneir gan unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef ynghylch pa mor ddymunol yw'r gofyniad hwnnw.

Hysbysiad o benodiad asesydd
    
32. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei hawl o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf i benodi asesydd i gynorthwyo person penodedig i benderfynu apêl, rhaid iddo hysbysu'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb o enw'r asesydd a'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori'r person penodedig arnynt.

Archwiliadau safle
    
33.  - (1) Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg wneud archwiliad o'r tir heb fod yng nghwmni neb a heb roi hysbysiad o fwriad i wneud hynny i'r apelydd nac i'r atebydd.

    (2) Yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad neu ar ôl i'r ymchwiliad neu'r gwrandawiad gau, o ran y person penodedig:

    (3) Os penderfynir apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig, o ran y person penodedig:

    (4) Rhaid i'r apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn gallu'r apelydd i alluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w archwilio.

    (5) Nid yw'r person penodedig yn cael ei rwymo i ohirio archwiliad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraffau (2) neu (3) os na fydd unrhyw berson y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn bresennol ar yr amser penodedig.

Gwrandawiadau neu ymchwiliadau ar y cyd
    
34. Os bydd dwy apêl neu fwy yn codi pwnc neu bynciau cyffredin neu, yn achos apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf, yn ymwneud â'r un map dros dro, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd mewn perthynas â'r apelau hynny os yw o'r farn ei bod yn ddymunol i wneud hynny ac, mewn achos o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol arfer ei bwerau o dan reoliad 31 gyda'r bwriad o addasu darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau hynny sy'n angenrheidiol o ganlyniad i'r penderfyniad i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd.

Defnyddio cyfathrebu electronig
    
35.  - (1) Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir iddi gael ei hanfon gan un person at un arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, gael ei hanfon trwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen seiliau rhesymol dros gredu y bydd y ddogfen yn dod i sylw'r person yr anfonir hi iddo, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.

    (2) Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, bod copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yna, os anfonir y copi hwnnw mewn ffurf electronig, dylid anwybyddu unrhyw ofyniad pellach bod mwy nag un copi i gael ei anfon.

Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf
    
36. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid yw'n rhesymol anymarferol i wneud hynny, gyhoeddi ar wefan y rhyngrwyd y mae'n ei chynnal hysbysiad o bob penderfyniad a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny hyd nes y dyroddir y map terfynol y mae'r apêl yn berthnasol iddo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan adrannau 11, 32 a 38 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf"), mae'r pwcircer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau i ddarparu gweithdrefnau i'w dilyn wrth benderfynu apelau sy'n cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf.

Ar y dechrau bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf (apelau gan bersonau yn erbyn dangos tir, y mae ganddynt fuddiant ynddo, ar fap dros dro fel tir agored neu dir comin cofrestredig).

Bwriedir y bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn ffurfio sail y gweithdrefnau sydd i'w defnyddio wrth benderfynu apelau eraill a gaiff eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, gan gynnwys y rhai o dan adran 30 o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod os yw'r awdurdod hwnnw wedi penderfynu peidio caniatáu cais am gyfarwyddyd o dan adran 24 neu 25 o'r Ddeddf neu os yw wedi gweithredu mewn modd nad yw'n unol â'r sylwadau a wnaed o dan adran 27(5) o'r Ddeddf) a'r rhai o dan adran 38 o'r Ddeddf (apêl gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo gan awdurdod o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, neu apêl gan unrhyw berchennog neu feddiannydd arall o'r tir yr effeithir arno gan hysbysiad o'r fath yn erbyn caniatáu hysbysiad o'r fath).

Yn y Rheoliadau hyn:

Mae Rhan II (rheoliadau 3 i 6) yn nodi'r gweithdrefnau cychwynnol a fydd yn effeithiol p'un a benderfynir yr apêl drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig neu ar ôl gwrandawiad neu ymchwiliad lleol cyhoeddus. Mae'r gweithdrefnau cychwynnol hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n dwyn yr apêl ("yr apelydd"), a'r person y mae ei benderfyniad wedi rhoi bodolaeth i'r apêl ("yr atebydd"), ddarparu gwybodaeth benodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r hsybysiadau yn y wasg leol, ac anfon yr hysbysiadau i bersonau a chyrff penodedig y mae ganddynt fuddiant mewn apelau o'r fath, gan roi gwybodaeth ynghylch yr apêl.

Mae Rhan III (rheoliadau 7 i 9) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis bod yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth cyn i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl wneud ei benderfyniad a hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 9 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan IV (rheoliadau 10 i 16) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis y penderfynnir apêl ar ôl gwrandawiad. Bydd angen i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth yn yr un modd ag y mae angen gan Ran III o'r Rheoliadau ac yna penodir person gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl drwy gynnal gwrandawiad. Mae'r Rheoliadau'n darparu i'r prif bartïon i'r apêl, a'r cyhoedd, gael eu hysbysu o'r dyddiad, yr amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad a phennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, a'r weithdrefn i'w dilyn yn y gwrandawiad. Ar ôl i'r gwrandawiad ddod i ben, bydd y person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 16 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan V (rheoliadau 17 i 28) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis i apêl gael ei phenderfynu ar ôl ymchwiliad lleol cyhoeddus. Pan fydd ymchwiliad i'w gynnal, mae'r Rheoliadau'n darparu i gyfarfod cyn-ymchwiliad gael ei gynnal os disgwylir i'r prif ymchwiliad bara am 8 diwrnod neu fwy neu os ystyrir bod angen cyfarfod cyn-ymchwiliad beth bynnag. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid datganiadau achos a gall personau eraill â diddordeb hefyd gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal yr ymchwiliad drefnu amserlen ar gyfer yr ymchwiliad a bod hysbysiad o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi. Mae'r Rheoliadau yn pennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, mewn ymchwiliad ac yn nodi pynciau gweithdrefnol eraill mewn perthynas â chynnal yr ymchwiliad. Ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben, bydd y person a benodwyd i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 28 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan VI (rheoliadau 29 i 36) yn nodi materion amrywiol, gan gynnwys yr hawl i'r apelydd dynnu apêl yn ôl, pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y dull y mae apêl yn cael ei chynnal, penodi person ("aseswr") i gynorthwyo'r person a benodwyd i benderfynu apêl a chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd pan fydd pynciau sy'n gyffredin i fwy nag un apêl yn cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, pwcircer i ddefnyddio dulliau electronig o gyfathrebu gan y partïon a gofyniad bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi'r penderfyniadau a wneir mewn apelau a ddygir o dan Ran I o'r Ddeddf ar ei wefan.


Notes:

[1] 2000 p.37. Mae adran 45(1) yn diffinio "regulations" yn Rhan 1 o'r Ddeddf (mewn Perthynas â Chymru) fel rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] O.S. 2002/1796 (Cy.171)back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090533 4


  Prepared 5 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021794w.html