BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1797 (Cy.172)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
9 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
5 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), 77(4), 78(6), 79(1) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1] ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli'r buddiannau perthnasol[3], a chan ei fod wedi'i ddynodi[4]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[5] mewn perthynas â pholisi amaethydddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheolidau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002, deuant i rym ar 5 Awst 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001
2.
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau")[6]) yn unol â rheoliadau 3 i 10 isod.
3.
Yn rheoliadau 7(1) a 24(1), ar ôl y geiriau", or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001,"yn lle "fel y'u diwygiwydgan Reoliadau Diwygio Porthiant a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001", rhowch "as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002."
4.
Ym mharagraff (2) o reoliad 17, yn lle'r ymadrodd "Atodlen 10", rhowch yr ymadrodd "Atodlen 9".
5.
Ym mharagraff (2) o reoliad 24, o'r gair "rheoliadau" hyd at ddiwedd y cymal, rhowch y darpariaethau canlynol -
"
rheoliad 4 (ac eithrio i'r graddau y mae'n berthnasol i Ran II o Atodlen 5), 9(1) (i'r graddau y mae'n rheoleiddio rhoi mewn cylchrediad), (2) a (3), 10(1) i (4), (6), (6A) a (7), 11(2) (i'r graddau y mae angen ei ddarllen ar y cyd â pharagraff (3)(a), (c) neu (ch) y rheoliad hwnnw), (4), (6) a (7), 12(3), (4), (6), (7) a (9), 13(1), 15, 16(1) a 17(1).".
6.
Diddymwch reoliad 25(a) a (b).
7.
Yn Atolen 3 (permitted additives and provisions relating to their use), yn lle'r darpariaethau yn Rhan IX o'r Tabl (European Community Regulations by which additives are controlled) rhowch y darpariaethau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
8.
Yn Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) -
(a) yn lle'r cofnod am Dioxin (sum of PCDD and PCDF) yng Ngholofn 1 o Bennod A o Ran I o'r Tabl a'r cofnodion sy'n cyfateb yng Ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn yn y Bennod honno; a
(b) yn lle'r cofnod am Dioxin (sum of PCDD and PCDF) yn ngholofn 1 o Bennod A o Ran II o'r Tabl a'r cofnodion sy'n cyfateb yng Ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn yn y Bennod honno;
rhowch y cofnodion a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
9.
Yn Atodlen 8 (control of certain protein sources) yn lle'r cofnod yng ngholofn 6 ("ruminants from the beginning of rumination") sy'n cyfateb â'r cofnod yng ngholofn 2 sy'n ymwneud â "3.11 DL-methionine, technically pure" rhowch y cofnod "All animal species".
10.
Yn Atodlen 9 (permitted feeding stuffs intended for particular nutritional purposes and provisions relating to their use) yn lle'r cofnodion yng ngholofnau 2 i 6 o Bennod A sy'n ymwneud â chynnal gwaith yr afu mewn achosion o annigonedd cronig yr afu mewn c n neu gathod rhowch y cofnodion a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
11.
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi 1999[7] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, fel a ganlyn -
(a) yn Rhan II o Atodlen 1 (manner of taking, preparing, marking, sealing and fastening of samples), ym mharagraff 5(1), yn lle'r ymadrodd "section 76(1)(b) of the Act", rhowch yr ymadrodd "section 76(7) of the Act as that section is modified by regulation 10 of the Feeding Stuffs (Enforcement) Regulations 1999[8] as amended";
(b) yn Rhan I o Atodlen 2 (methods of analysis), ar ddiwedd paragraff 3(e)(ii), yn lle'r ymadrodd "Schedule 5 to the Feeding Stuffs Regulations 1995" rhowch yr ymadrodd "Schedule 7 to the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001[9] and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; ac
(c) yn Rhan II o Atodlen 3 (form of certificate of analysis), yn nodyn 11(a), yn lle'r ymadrodd "the Feeding Stuffs Regulations 1995" rhowch yr ymadrodd "the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002".
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999
12.
- (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999[10]) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru fel a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yn narpariaethau'r Rheoliadau hynny a bennir ym mharagraff (3), yn lle'r ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002".
(3) sY darpariaethau yw rheoliadau 98(8) a (9), 99 a 106(1).
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
13.
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru fel a ganlyn -
(a) ym mharagraff (1) o reoliad 2, yn lle'r diffiniad o "third country" rhowch y diffiniad canlynol -
"
"third country" means a country other than a State which is a contracting party to the Agreement on the European Economic Area signed at Oporto on 2nd May 1992[11] as adjusted by the Protocol signed at Brussels on 17th March 1993[12];";
(b) ym mharagraffau (2) a (4) o reoliad 7, ar ôl yr ymadrodd "the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002";
(c) yn rheoliad 8, yn lle'r ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; ac
(ch) yn rheoliad 9, yn nhestun is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel y'i diwygiwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl yr ymadrodd "the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; a
(d) yn rheoliad 10, yn nhestun is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel y'i diwygiwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl yr ymadrodd "the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2002
ATODLEN 1Rheoliad 7
DARPARIAETHAU SY'N CAEL EU RHOI YN LLE RHAN IX O'R TABL I ATODLEN 3 I'R PRIF REOLIADAU
"PART
IX
EUROPEAN COMMUNITY REGULATIONS BY WHICH ADDITIVES ARE CONTROLLED(1)
Commission Regulation (EC) No. 2316/98 concerning authorisation of new additives and amending the conditions for authorisation of a number of additives already authorised in feedingstuffs(2).
Commission Regulation (EC) No. 1594/1999 amending the conditions for the authorisation of an additive in feedingstuffs(3).
Commission Regulation (EC) No. 2439/1999 on the conditions for authorisation of additives belonging to the group "binders, anti-caking agents and coagulants" in feedingstuffs(4).
Commission Regulation (EC) No. 1353/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives, new additive uses and new preparations in feedingstuffs(5).
Commission Regulation (EC) No. 2437/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives in feedingstuffs(6).
Commission Regulation (EC) No. 2013/2001 concerning the provisional authorisation of a new additive use and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(7).
Commission Regulation (EC) No. 2200/2001 concerning provisional authorisation of additives in feedingstuffs(8).
Commission Regulation (EC) No. 256/2002 concerning the provisional authorisation of new additives, the prolongation of provisional authorisation of an additive and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(9).
(1) Certain of the listed Regulations relate to categories of additive which also include additives controlled by the Additives Directive, and which are thus listed in the relevant Part of Parts I to VIII of the Table to this Schedule (e.g. the preservative formic acid is covered by Regulation (EC) No. 1594/1999 (above), whereas certain other preservatives are covered by Part VII of the Table).
(2) OJ No. L289, 28.10.98, p.4.
(3) OJ No. L188, 21.7.1999, p.35.
(4) OJ No. L297, 18.11.1999, p.8. The Annex to this Regulation is now replaced by the Annex to Regulation (EC) No. 739/2000 (OJ No. L87, 8.4.2000, p.14).
(5) OJ No. L155, 28.6.2000, p.15.
(6) OJ No. L280, 4.11.2000, p.28.
(7) OJ No. L272, 13.10.2001, p.24.
(8) OJ No. L299, 15.11.2001, p.1.
(9) OJ No. L41, 13.2.2002, p.6.
ATODLEN 2Rheoliad 8
DARPARIAETHAU SY'N CAEL EU HAMNEWID YN RHANNAU I A II O ATODLEN 7 I'R PRIF REOLIADAU
(1)
|
(2)
|
(3)
|
Dioxin (sum of polychlorinated dibenzo-para-dioxins (PCDDs) and polychlorinated dibenzofurans (PCDFs) expressed in World Health Organisation (WHO) toxic equivalents, using the WHO-TEFs (toxic equivalency factors, 1997)) |
All feed materials of plant origin including vegetable oils and by-products |
0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(10)
|
|
Minerals |
1.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Animal fat, including milk fat and egg fat |
2.0 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Other land animal products including milk and milk products and eggs and egg products |
0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Fish oil |
6 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Fish, other aquatic animals, their products and by-products with the exception of fish oil(2) |
1.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Compound feedingstuffs, with the exception of feedingstuffs for fur animals, pet foods and feedingstuffs for fish |
0.75 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
|
Feedingstuffs for fish
Pet foods
|
2.25 ng WHO-PCDD/F-TEQ/kg(1) |
Notes:
(1) Upper-bound concentrations; upper-bound concentrations are calculated assuming that all values of the different congeners less than the limit of determination are equal to the limit of determination.
(2) Fresh fish directly delivered and used without intermediate processing for the production of feedingstuffs for fur animals is exempted from the maximum limit. The products, processed animal proteins produced from these fur animals cannot enter the food chain and the feeding thereof is prohibited to farmed animals which are kept, fattened or bred for the production of food.
ATODLEN 3Rheoliad 10
DARPARIAETHAU SY'N CAEL EU HAMNEWID YN ATODLEN 9 I'R PRIF REOLIADAU
2
|
3
|
4
|
5
|
6
|
High quality protein, moderate level of protein, high level of essential fatty acids and high level of highly digestive carbohyrates |
Dogs |
- Protein source(s)
- Content of essential fatty acids
- Highly digestible carbohydrates including their treatment if appropriate
- Sodium
- Total copper
|
Initially up to 6 months |
Indicate on the package, container or label: "It is recommended that a veterinarian's opinion be sought before use or before extending the period of use"
Indicate in the instructions for use: "Water should be available at all times"
|
High quality protein, moderate level of protein and high level of essential fatty acids |
Cats |
- Protein source(s)
- Content of essential fatty acids
- Sodium
- Total copper
|
Initially up to 6 months |
Indicate on the package, container or label: "It is recommended that a veterinarian's opinion be sought before use or before extending the period of use "
Indicate in the instructions for use: "Water should be available at all times"
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio am y trydydd tro Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), "y prif Reoliadau").
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/892, "Rheoliadau Cymru a Lloegr"), sy'n gweithredu'r un newidiadau yn Lloegr ag a wneir mewn perthynas â Chymru gan y Rheoliadau hyn, yn cynnwys dwy ddarpariaeth sydd hefyd yn gymwys i Gymru a Gogledd Iwerddon. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cymru a Lloegr yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i'r graddau y mae'n berthnasol i reoliad 11 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cymru a Lloegr) neu 12 o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliad 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr hefyd yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu -
(a) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/79/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 87/153/EEC sy'n pennu canllawiau ar gyfer asesu ychwanegion mewn maeth i anifeiliaid (OJ Rhif L267, 6.10.2001, t.1);
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/102/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1999/29/EC ar sylweddau a chynhyrchion annymunol mewn maeth anifeiliaid (OJ Rhif L6, 10.1.2002, t.45); ac
(c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/39/EC o ran porthiant anifeiliaid i gynnal gwaith yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu.
4.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau canlynol -
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2013/2001 ynghylch awdurdodiad dros dro ar ddefnydd ychwanegyn newydd ac awdurdodiad parhaol o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L272, 13.10.2001, t.24);
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2200/2001 ynghylch awdurdodiad dros dro o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L299, 15.11.2001, t.1); ac
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 256/2002 ynghylch awdurdodiad dros dro ar ychwanegyn ac awdurdodiad parhaol o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.6).
5.
Mae'r Rheoliadau hyn -
(a) yn addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hynny a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (rheoliad 5);
(b) yn ychwanegu tri Rheoliad newydd gan y Comisiwn at restr Rheoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad odanynt i farchnata ychwanegion bwyd a gynhwysir yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (rheoliad 7 ac Atodlen 1);
(c) addasu'r rheolaethau yn y prif Reoliadau sy'n rheoli presenoldeb sylweddau annymunol mewn porthiant anifeiliaid drwy bennu uchafswm lefelau newydd ar gyfer Diocsin mewn porthiant (rheoliad 8 ac Atodlen 2);
(ch) addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n rheoli porthiant dietetig o ran y nodweddion maethlon a labelu porthiant sy'n ofynnol pan fwriedir ef i gynorthwyo swyddogaeth yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu mewn c n neu gathod (rheoliad 10 ac Atodlen 3);
(d) gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau i gywiro mân wallau ynddynt (rheoliadau 4 a 9); ac
(dd) gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny ac i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S.1999/1663), Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325) (rheoliadau 1999, 3, 6 ac 11 i 13).
(e) Noder hefyd yr effaith ar Reoliadau Cymru a Lloegr y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 uchod, sy'n addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n pennu'r weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas ag asesu ychwanegion bwyd y ceisiwyd awdurdodiad marchnata ar eu cyfer ac o ran ceisiadau am awdurdodiad o'r fath (rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr).
6.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau'r Cyfarwyddebau i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ar gais oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1970 p.40.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. Rhif 1999/672).back
[3]
Rhaid darllen y gofyniad i ymgynghori ar y cyd ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 (OJ Rhif 1.2.2002, tud.1).back
[4]
O.S. 1999/2788.back
[5]
1972 p.68. Estynwyd y pwerau galluogi a roddwyd gan adran 2(2) yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Ardal Economaidd Ewrop 1993 (1993 p.51).back
[6]
O.S. 2001/343 (Cy.15), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163) ac O.S. 2001/3461 (Cy.280).back
[7]
O.S. 1999/1663 (a ddiwygiwyd ond nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn).back
[8]
O.S. 1999/2325. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2253 (Cy.163) ac O.S. 2001/3461 (Cy.280).back
[9]
O.S. 2001/3461 (Cy.280).back
[10]
O.S. 1999/1872. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2253 (Cy.163).back
[11]
OJ Rhif. L1, 3.1.94, tud.1.back
[12]
OJ Rhif L1, 3.1.94, tud.571.back
[13]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090544 X
|
Prepared
13 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021797w.html