BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1804 (Cy.174)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
11 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[2] yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol): -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae meddygon sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 yn darparu'r gwasanethau hynny yn ddarostyngedig i amodau sy'n cael eu rheoleiddio gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau ymhellach.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau nas ellir eu rhagnodi i'w cyflenwi tra'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2(a) yn ychwanegu'r cynhyrchion glucosamine sulphate a bennir at y rhestr yn Atodlen 10 ac mae Rheoliad 2(b) yn diddymu'r fformiwlâu babanod ar gyfer babanod cyn pryd o'r rhestr yn Atodlen 10.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Diwygiwyd y Gorchymyn gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back
[2]
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 2000/1887 (Cy.133) a 2001/1788 (Cy.129).back
[3]
1998 p.38back
English
version
ISBN
0 11090530 X
|
Prepared
1 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021804w.html