BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1856 (Cy.180)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
16 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 518(1)(b) a (2) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
Diddymu, eithrio a darparieth drosiannol
2.
- (1) Diddymir Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) 1999[3] mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru, ond mae'r rheoliadau a ddiddymwyd yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddyfarndaliadau o dan y rheoliadau hynny a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Bernir i unrhyw benderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg o dan reoliad 4 o'r rheoliadau a ddiddymwyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2002 - 2003 gael ei wneud o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.
Dehongli
3.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "awdurdod addysg" ("education authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr "cyfleusterau addysgol" ("educational facilities") mewn perthynas â pherson cymwys yw -
(a) addysg uwchradd a ddarperir mewn ysgol, neu
(b) cwrs llawnamser neu ran-amser o addysg bellach neu addysg uwch mewn sefydliad addysgol neu fel arall, ar wahân i (oni bai fod y dyfarndaliad yn Grant Dysgu'r Cynulliad) gwrs y mae person yn gymwys i gael cymorth ariannol ar ei gyfer ar ffurf grant neu fenthyciad o dan reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysg Uwch 1998[4];
ystyr "Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad" ("the Assembly Learning Grant Scheme") yw'r cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n nodi'r amodau ynghylch gwneud grant gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliadau a wneir o dan adran 484 o Ddeddf Addysg 1996[5] i ad-dalu gwariant gan awdurdodau addysg wrth dalu Grantiau Dysgu'r Cynulliad, sef gwariant a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y rheoliadau hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "dyfarndal addysg ôl-orfodol" ("post-compulsory education award") yw dyfarndal a roddir gan awdurdod addysg o dan reoliad 4;
ystyr "Grant Dysgu'r Cynulliad" ("Assembly Learning Grant") yw dyfarndal addysg ôl-orfodol i berson sy'n dilyn cwrs o addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad os yw'r person hwnnw'n bodloni gofynion cymhwyster y Cynllun hwnnw;
ystyr "person cymwys" ("eligible person") yw person dros yr oedran ysgol orfodol;
ystyr "y rheoliadau a ddiddymwyd" ("the revoked regulations") yw'r rheoliadau a ddiddymwyd gan reoliad 2.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, y mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac y mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw.
Per i roi dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) bydd gan awdurdod addysg y per i roi dyfarndal addysg ôl-orfodol, sef -
(a) ysgoloriaeth,
(b) gwobr,
(c) bwrsariaeth, neu
(d) unrhyw lwfans arall
mewn perthynas â pherson cymwys at ddiben galluogi'r person hwnnw i gymryd mantais o unrhyw gyfleusterau addysgol sydd ar gael iddo.
(2) Ac eithrio pan fydd y dyfarndal yn Grant Dysgu'r Cynulliad -
(a) ni cheir arfer y per yn is-adran (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol os yw'r awdurdod addysg wedi penderfynu o dan reoliad 5 na ddylai gael ei arfer mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno, a
(b) pan fydd yr awdurdod addysg, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol, wedi penderfynu o dan reoliad 5 na cheir arfer y per o dan is-adran (1) i roi dyfarndal addysg ôl-orfodol ond mewn perthynas â pherson cymwys sy'n bodloni'r meini prawf hynny.
Awdurdod addysg yn penderfynu
5.
- (1) Rhaid i awdurdod addysg benderfynu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, a ddylai arfer y per yn rheoliad 4(1) mewn perthynas â dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol ac os penderfyna wneud felly yn y flwyddyn honno a ddylai wneud hynny -
(a) yn gyffredinol, neu
(b) dim ond yn achos personau cymwys sy'n bodloni'r meini prawf y caiff yr awdurdod benderfynu arnynt.
(2) Rhaid i awdurdod addysg benderfynu o dan baragraff (1) -
(a) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2002-2003, o fewn tri mis i'r Rheoliadau hyn ddod i rym (oni bai i'r awdurdod hwnnw benderfynu'n barod mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol honno o dan reoliad 4 o'r rheoliadau a ddiddymwyd); a
(b) mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ganlynol, yn y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â diwrnod cyntaf y flwyddyn honNo.
(3) Ni fydd unrhyw benderfyniad o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol yn effeithio ar rwymedigaeth barhaus yr awdurdod addysg i wneud taliadau o dan ddyfarndal addysg ôl-orfodol ac a roddir mewn perthynas â pherson cymwys cyn y dyddiad y bydd y penderfyniad yn cymryd effaith.
(4) Yn union wedi i awdurdod addysg benderfynu o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol, rhaid iddo gymryd y camau y barna eu bod yn rhesymol i'w cymryd er mwyn dod ag effaith y penderfyniad at sylw'r personau hynny y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn ailddedfu, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) 1999 o ran awdurdodau addysg lleol (AALlau) yng Nghymru.
Mae'r newidiadau wedi cael eu gwneud o ganlyniad i gyflywno Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun hwnnw, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ad-dalu gwariant yr AALlau ar dalu'r dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol hynny o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad, i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac sy'n bodloni'r amodau ynghylch adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun.
Mae'r per a roddwyd i AALlau gan y rheoliadau blaenorol i ddyfarnu ysgoloriaeth, gwobr, bwrsariaeth neu ddyfarndal arall i "berson cymwys", hynny yw, person dros oed addysg ôl-orfodol, yn parhau. Gellir rhoi dyfarndal o'r fath er mwyn galluogi person cymwys i gymryd mantais o gyfleusterau addysgol penodol sydd ar gael iddo, sef addysg uwchradd a roddir mewn ysgol, neu gwrs o addysg bellach neu addysg uwch. Gwaharddodd y rheoliadau blaenorol ddyfarndaliadau i bobl sy'n gymwys i gymorth ariannol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac mae'r gwaharddiad hwn yn parhau, ond y mae wedi ei ddatgymhwyso mewn perthynas â Grantiau Dysgu'r Cynulliad.
Roedd y rheoliadau blaenorol yn ei gwneud yn ofynnol i bob AALl wneud penderfyniad, o ran pob blwyddyn ariannol, a fyddai'n cymhwyso ei b er i wneud dyfandaliadau addysg ôl-orfodol yn y flwyddyn honno, ac os felly, i ba raddau. Mae'r gofyniad hwnnw yn parhau fel y mae'r gofyniad i ddod ag unrhyw bederfyniad o'r fath at sylw'r bobl y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt. Nid yw'r penderfyniad yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth sydd gan yr AALl hwnnw i wneud taliadau o dan ddyfarndaliadau a roddir cyn iddo gymryd effaith. Ond nid oes gan AALlau ddim pwerau i wneud penderfyniad o'r fath o ran Grantiau Dysgu'r Cynulliad.
Notes:
[1]
1996 p.56. Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynullaid Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S.1999/229.back
[4]
1998 p.30.back
[5]
Y rheoliadau cyfredol a wneir o dan 484 o Ddeddf Addysg 1996 yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (O.S. 2002/1857 (Cy.181).back
[6]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090540 7
|
Prepared
6 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021856w.html