BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021898w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1898 (Cy.199)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 6 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[1], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1968 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Awst 2002.

    (3) Daw rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2003.

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001[2] yn unol â darpariaethau'r rheoliadau hyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) - 

    (3) Diddymir rheoliad 4 ac Atodlen 2.

    (4) Yn lle Rheoliad 5 rhoddir y rheoliad canlynol:

    (5) Ar ôl rheoliad 5 ychwanegir y rheoliad canlynol:

    (6) Yn Atodlen 1 - 

    (7) Yn lle Atodlen 3 rhoddir y darpariaethau canlynol:



    (8) Ar ôl Atodiad 3 mewnosodir Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (9) Yn lle paragraff (a) o reoliad 12 rhoddir y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



ATODLEN
Rheoliad 2(8)







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC dyddiedig 19 Gorffennaf 1999 sy'n nodi safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy (O.J. L203, 03/08/1999 t.35 - 57).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud y diwygiadau canlynol i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2682 (Cy.223)) ("y Prif Reoliadau") - 

    
  • Mae'r diffiniad o "iâr ddodwy" yn y Prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio ac mae diffiniadau newydd ar gyfer "llaesodr", "nyth" a "lle y gellir ei ddefnyddio" yn cael eu mewnosod (rheoliad (2).

        
  • Mewnosodir rholiad 5 ac Atodlen 3 newydd i gymhwyso gofynion mewn perthynas â chadw ieir dodwy mewn systemau heblaw y rhai y cyfeirir atynt yn yr Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau (rheoliadau 2(4) a (7)).

        
  • O 6 Awst 2002 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu (ysguboriau, clwydfeydd a systemau buarth) gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir mewn Atodlen 3A newydd sy'n cael ei mewnosod yn y Prif Reoliadau. Rhaid i bob system o'r fath gydymffurfio â'r Atodlen 3A newydd o 1 Ionawr 2007 ymlaen. Mae Atodlen 3A yn nodi'r gofynion mewn perthynas â lle i ieir fwydo, maint cafnau yfed, lle i'r nyth, clwydi, man o dan laesodr, adeiladwaith y gosodiadau a dwysedd stocio.

        
  • O 1 Ionawr 2003 ymlaen, bydd darpariaethau newydd yn gymwys ar gyfer lles ieir sy'n cael eu cadw mewn cewyll confensiynol ("batri"). Mae Atodlen 3B newydd yn nodi safonau gofynnol mewn perthynas ag arwynebedd cawell i bob iâr, cafnau bwydo, darparu dwcirc r, uchder y cewyll, adeiladwaith y lloriau a darparu dyfeisiau ar gyfer cwtogi crafangau. Gwaherddir defnyddio cewyll confensiynol o 1 Ionawr 2012 ymlaen ac ni all unrhyw gewyll o'r fath gael eu hadeiladu, na dechrau cael eu defnyddio, o 1 Ionawr 2003 ymlaen.

        
  • Mae Atodlen 3C newydd yn cael ei mewnosod, sy'n nodi safonau gofynnol uwch ar gyfer systemau cewyll ar gyfer magu ieir dodwy a fydd yn gymwys i bob system gewyll o 1 Ionawr 2012 ymlaen. Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio o 1 Ionawr 2003 ymlaen gydymffurfio â'r safonau uwch hyn.

        
  • Nodir safonau cyffredinol a fydd yn gymwys i bob system newydd ar gyfer magu ieir dodwy mewn Atodlen 3Ch newydd i'r Prif Reoliadau. Mae'n cynnwys gofynion mewn perthynas ag archwilio ieir, lefelau swcircn, darparu golau, glanhau a diheintio, dylunio cewyll a gwahardd llurgunio, ond mae'n caniatáu tocio pigau tan 31 Rhagfyr 2010, o dan amodau penodol, gan gynnwys cydymffurfio â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962.

    Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


    Notes:

    [1] 1968 p.34. Gweler adran 50 i gael diffiniad o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, cafodd pwerau "the Ministers" eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

    [2] O.S. 2001/2682 (Cy. 223).back

    [3] OJ Rhif L 203, 3.8.99, t.53back

    [4] O.S. 1962/2557.back



    English version



    ISBN 0 11090545 8


      Prepared 13 August 2002


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021898w.html