BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022127w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 13 Awst 2002 | ||
Yn dod i rym | 19 Awst 2002 |
sy'n cynnwys y defnydd o dir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;
(2) Oni ddarperir fel arall, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb EIA neu yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna gwyllt yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Cyfarwyddebau priodol hynny.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i bob cais, hysbysiad, sylw, deisyfiad, cymeradwyaeth a chytundeb y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt fod yn ysgrifenedig.
(5) Bydd "yn ysgrifenedig" ym mharagraff (4) uchod, ac eithrio pan fydd yn gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 22 neu 24, yn cynnwys cyfathrebu'n electronig o fewn ystyr "electronic communication" yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000[9] ar yr amod na fydd hysbysiadau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi i unrhyw berson yn cael eu rhoi drwy gyfathrebu'n electronig ond os yw'r derbynnydd arfaethedig wedi defnyddio'r ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig wrth gyfathrebu â'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu os yw wedi mynegi fel arall fod y ffurf honno ar gyfathrebu'n electronig yn gyfrwng i bersonau gyfathrebu ag ef.
(6) Ceir anfon drwy'r post hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn.
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
3.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob prosiect nad yw'n esempt o dan baragraffau (2) neu (3) isod.
(2) Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn os yw:
(3) Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo, yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb EIA, ei fod yn esempt rhag y Rheoliadau hyn.
(4) Yn achos prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y bydd ganddo effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i'r graddau y sicrheir cydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â'r prosiect y bydd y pwer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt rhag y Rheoliadau hyn o dan baragraff (3) uchod yn arferadwy.
Y Gofyniad am Benderfyniad Sgrinio
4.
Ni chaiff neb ddechrau na chyflawni prosiect heb gael penderfyniad sgrinio yn gyntaf.
Y Weithdrefn Sgrinio
5.
- (1) Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio gael ei gyflwyno gyda'r canlynol -
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd am benderfyniad sgrinio ynghylch y dyddiad y cafodd y cais.
(3) Os bydd y Cynulliad Cendlaethol o'r farn nad oes ganddo ddigon o wybodaeth i wneud y penderfyniad sgrinio caiff ofyn i'r ceisydd gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arno ei hangen.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn unol â'r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 1 a pharagraff (5) isod a yw prosiect yn debyg o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd.
(5) Rhaid trin prosiect y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y bydd yn debyg o effeithio'n sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) ac nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â rheoli'r safle neu'n angenrheidiol ar gyfer ei reoli, fel prosiect sy'n debyg o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad sgrinio o fewn 35 diwrnod o'r dyddiad a hysbyswyd i'r ceisydd yn unol â pharagraff (2) uchod neu o fewn unrhyw gyfnod hwy a gytunwyd gyda'r ceisydd a gall ymgynghori ag unrhyw un o'r cyrff ymgynghori fel y gwêl yn dda cyn dod i benderfyniad sgrinio.
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(8) Os bydd ceisydd, nad yw wedi cael ei hysbysu am benderfyniad sgrinio o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) uchod, yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw i hysbysu fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect perthnasol, bernir bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod y prosiect yn brosiect perthnasol ar y dyddiad y bydd y ceisydd yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol felly.
(9) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg wedi iddo benderfynu neu y bernir ei fod wedi penderfynu bod prosiect yn brosiect perthnasol o dan y rheoliad hwn, yn derbyn gwybodaeth neu sylwadau pellach sydd yn peri iddo benderfynu nad yw'r prosiect yn brosiect perthnasol, rhaid iddo roi gwybod am y penderfyniad hwnnw a chyflwyno datganiad yn nodi'r rhesymau llawn am y penderfyniad i'r ceisydd ac i'r cyrff ymgynghori sydd wedi'u hysbysu yn unol â pharagraff (7)(c) uchod a rhaid iddo nodi'r penderfyniad yn y gofrestr y cyfeirir ati ym mharagraff 7(b) uchod.
(10) Os na fydd prosiect y mae'r penderfyniad sgrinio yn gysylltiedig ag ef wedi dechrau cyn pen tair blynedd o'r dyddiad pan gafodd y cesiydd ei hysbysu o'r dyddiad y bernir iddo gael ei benderfynu yn unol â pharagraff (8) uchod, neu unrhyw gyfnod hwy y gellid bod wedi cytuno arno gan y Cynulliad Cenedlaethol, daw'r penderfyniad sgrinio hwnnw i ben.
Yr angen am ganiatâd
6.
Ni chaiff neb ddechrau na chynnal prosiect heb dderbyn caniatâd yn gyntaf gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Barn ar y posibiliadau
7.
- (1) Ar ôl derbyn penderfyniad sgrinio a chyn gwneud cais am ganiatâd gall y ceisydd ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei farn ynghylch yr wybodaeth sydd i'w darparu yn y datganiad amgylcheddol ("barn ar y posibiliadau").
(2) Os gofynnir am farn ar y posibiliadau rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r ceisydd ac unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori ag y gwêl yn dda cyn rhoi ei farn.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried nad ydyw wedi cael gwybodaeth ddigonol i roi barn ar y posibiliadau bydd yn hysbysu'r ceisydd am y materion hynny y mae'n ofynnol iddo gael gwybodaeth ychwanegol amdanynt o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais am y farn i'w law.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi barn ar y posibiliadau i'r ceisydd o fewn 35 diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais am y farn neu o'r dyddiad y daeth unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff (3) uchod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
Darparu gwybodaeth
8.
- (1) Rhaid i unrhyw gorff ymgynghori yr ymgynghorir â hwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7(2) neu sy'n cael cais am wybodaeth oddi wrth berson sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd benderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y maent yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer paratoi'r datganiad amgylcheddol ac, os oes, rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr ymgynghori neu'r dyddiad y daeth y cais i law, yn ôl fel y digwydd.
(2) Caiff unrhyw gorff sy'n darparu gwybodaeth o dan baragraff (1) uchod godi tâl rhesymol, sy'n adlewyrchu'r gost o ddarparu'r wybodaeth berthnasol, ar y ceisydd.
(3) Ni fydd paragraff (1) uchod yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddatgelu gwybodaeth y mae modd ei thrin fel gwybodaeth gyfrinachol neu y mae gofyn ei thrin felly o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992[13].
Y cais am ganiatâd
9.
- (1) Rhaid gwneud cais am ganiatâd (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol) i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r ceisydd am ganiatâd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol y nifer o gopïau o'r cais y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.
(3) Pan fydd cais am ganiatâd yn unol â rheoliad 9(1) a (2) wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol rhaid iddo
Gwybodaeth ychwanegol
10.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 9(3), yn dod i'r farn y dylai'r datganiad amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd am yr wybodaeth (a nifer y copïau) angenrheidiol a rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r wybodaeth bellach at unrhyw rai o'r cyrff hynny y gwêl yn dda gan eu hysbysu y gallant wneud sylwadau o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol iddynt.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi mewn papur newydd sy'n cael ei gylchredeg yn ardal y tir perthnasol hysbysiad: -
Gwladwriaethau AEE Eraill
11.
- (1) Cyn gynted â phosibl ar ôl i gais am ganiatâd ddod i law rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol fynd ati i ystyried a fyddai'r prosiect perthnasol yn debygol hefyd o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall ac, os yw o'r farn bod hynny'n debygol, neu lle bo Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debygol o effeithio'n sylweddol arni yn gwneud cais i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon i'r Wladwriaeth AEE honno:
a gofyn i'r Wladwriaeth AEE nodi o fewn amser rhesymol a yw'n dymuno cymryd rhan yn yr weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer.
(2) Os bydd yr Wladwriaeth AEE yn nodi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r cais am ganiatâd (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol) ynghyd ag unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol a rhaid iddo roi gwybodaeth berthnasol iddi yngln â'r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd -
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA -
(5) Pan fydd gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael yn unol ag Erthyglau 7(1) a (2) o'r Gyfarwyddeb EIA (sy'n ymwneud â phrosiectau yn un Wladwriaeth AEE sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) i law'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo -
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd, yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb EIA, -
Prosiectau trawsffiniol
12.
- (1) Yn achos prosiect trawsffiniol, os yw'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud pendefyniad sgrinio o dan reoliad 5(4), gan roi barn ar y posibiliadau o dan reoliad 7(4) neu roi neu wrthod rhoi caniatâd o dan reoliad 13(1).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos prosiect trawsffiniol lle mae'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yn Lloegr, bydd y prosiect hwnnw yn ddarostyngedig yn unig i'r rheoliadau cyfatebol sy'n berthnasol i'r prosiect yn Lloegr.
(3) Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gytuno y gall cais mewn perthynas â phrosiect trawsffiniol y byddai'r Rheoliadau hyn fel arall yn berthnasol iddo yn ddarostyngedig i'r rheoliadau cyfatebol sy'n berthnasol i'r prosiect yn Lloegr yn unig.
(4) Ni fydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â chais gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12(3) o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Lloegr) 2001[14].
Y penderfyniad i roi caniatâd
13.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pan ddaw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan reoliad 9(3) i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a ddylai roi caniatâd i'r prosiect ai peidio, yng ngoleuni'r datganiad amgylcheddol ac unrhyw sylwadau y mae wedi'u derbyn yn unol â pharagraff (3) o reoliad 9, paragraff (2) neu (3) o reoliad 10 ac, ynghylch prosiectau y mae rheoliad 11 yn gymwys iddynt, yng ngoleuni ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE berthnasol ac unrhyw farn sy'n dod i law yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol -
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi caniatâd ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliad 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (a rhaid i hynny beidio â chynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau Cynefinoedd).
(4) Bydd paragraffau (5) a (9) isod yn gymwys i benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a ddylai roi caniatâd ai peidio ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewopeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (sef prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hyn fel "y prosiect".
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8) isod, ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer prosiect oni bai ei fod wedi ystyried y goblygiadau i'r safle Ewropeaidd a'i fod yn fodlon na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle hwnnw.
(6) Rhaid i'r ystyriaeth a roddir o dan baragraff (5) uchod gynnwys asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect i'r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle.
(7) Os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, gan nad oes unrhyw atebion eraill, fod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (8) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd), caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi caniatâd ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(8) Pan fo math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth ar y safle Ewropeaidd, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) fod naill ai -
(9) Os yw caniatâd yn cael ei roi yn unol â pharagraff (7) ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (fel y caiff ei ddiffinio yn y Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.
(10) Rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir yn unol â pharagraff (1) uchod fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (11) isod ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
(11) Rhaid i bob caniatâd gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau i'r perwyl
(12) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu a fydd yn rhoi caniatâd ai peidio rhaid iddo -
(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect -
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i Gyngor Cefn Gwlad Cymru o'i benderfyniad, gan gynnwys datganiad o'r ffordd (os o gwbl) y mae wedi cymryd i ystyriaeth gyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a rhaid iddo osod amod ar y caniatâd i atal y prosiect rhag cael ei ddechrau cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.
Adolygiad o benderfyniadau a chaniatadau
14.
- (1) Mae Atodlen 3 yn gymwys -
os, ar ôl dyddiad y penderfyniad neu roi caniatâd, y mae safle yn dod yn safle Ewropeaidd ac os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr rheoliad 13(11)(b)) y prosiect yn debygol o effeithio'n sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai'n uniongyrchol berthnasol neu'n angenrheidiol er mwyn rheoli'r safle.
Apelau (darpariaethau cyffredinol)
15.
- (1) Caiff y personau canlynol -
drwy hysbysiad apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn y caniatâd neu'r penderfyniad (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel "y penderfyniad perthnasol") yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i berson y mae paragraff (1) uchod yn berthnasol iddo gyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn tri mis o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw ei hysbysu o'r penderfyniad perthnasol.
(3) Rhaid i hysbysiad apêl gynnwys -
(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol ar ôl i hysbysiad apêl ddod i law, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno copïau o'r hysbysiad i unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwêl yn dda, i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad perthnasol, ar unrhyw wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi yn unol â pharagraff (4) o reoliad 11 ac i unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd eu barn ymlaen i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (3)(b) o'r rheoliad hwnnw, ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo bod ganddo ddiddordeb penodol yng nghynnwys yr apêl.
(5) Ni chaiff person y mae copi o hysbysiad apêl wedi'i gyflwyno iddo yn unol â pharagraff (4) uchod gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r apêl oni bai ei fod yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn bwriadu gwneud hynny o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad pan gafodd copi o'r hysbysiad ei gyflwyno iddo.
(6) Cyn penderfynu apêl rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu, os yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a fydd y gwrandawiad ar ffurf ymchwiliad lleol ac, os nad yw'r apelydd wedi nodi ei fod yn dymuno cael ei glywed, p'un a gaiff yr apêl ei benderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig, gwandawiad neu ymchwiliad lleol ac yn y naill achos neu'r llall rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd am ei benderfyniad ac unrhyw bersonau sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (5) eu bod yn dymuno cyflwyno sylwadau felly.
(7) Wrth benderfynu'r apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chaiff ymdrin â'r apêl yn yr un modd â phetai'n benderfyniad tro cyntaf.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi person i arfer ar ei ran, gyda thaliad neu hebddo, ei swyddogaethau o benderfynu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd i Atodlen (4) effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.
(9) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[16](ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 17 isod yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau yno at y Gweinidog ac at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
(10) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[17] (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 17 isod fel y mae'n gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honNo.
(11) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu reoliad 16 neu 17 isod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.
(12) Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyd-fynd ag unrhyw sylwadau, datganiadau neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 16 neu 17 isod.
Penderfynu ar apelau drwy sylwadau ysgrifenedig
16.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) O fewn 42 ddiwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r apelydd fod yr apêl i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig rhaid i'r apelydd gyflwyno unrhyw sylwadau pellach i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'r apelydd am iddynt gael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol neu rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod am ddibynnu ar yr wybodaeth y mae eisoes wedi'i chyflwyno a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol naill ai anfon copïau o unrhyw sylwadau pellach a wnaed gan yr apelydd at y partïon sydd â buddiant neu rhaid eu hysbysu nad oes bwriad gan yr apelydd i gyflwyno sylwadau pellach yn ôl fel y digwydd.
(3) Rhaid i unrhyw un o'r partïon â diddordeb sydd am gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r apêl, o fewn 28 diwrnod ar ôl i sylwadau pellach a wnaed gan yr apelydd gael eu cyflwyno iddynt neu hysbysiad nad yw'r apelydd am wneud sylwadau pellach, yn ôl fel y digwydd, gyflwyno'r sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r sylwadau a gyflwynwyd iddo at yr apelydd ac at y partïon eraill sydd â diddordeb.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i'r apelydd a'r partïon eraill sydd â diddordeb gyfnod amser ar gyfer ymateb i'r sylwadau a wnaed yn unol â pharagraff (3) uchod, a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn llai na 14 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd y sylwadau hynny iddynt.
(5) Heb fod yn gynt na'r dyddiad y daw y cyfnod a bennir ym mharagraff (4) uchod i ben, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r person sy'n cael ei benodi i benderfynu'r apêl, yn ôl fel y digwydd, benderfynu ar yr apêl a rhaid iddo roi gwybod am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto i'r apelydd ac i'r partïon sydd â diddordeb.
Penderfynu ar apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol
17.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(2) O fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad cyflwyno hysbysiad i'r apelydd bod yr apêl i'w phenderfynu drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid i'r apelydd gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn cynnwys manylion llawn am achos yr apelydd a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiad a'r dogfennau at y partïon sydd â diddordeb.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 42 ddiwrnod o rybudd i'r apelydd a'r partïon sydd â diddordeb am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac o enw'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (ac, fel y bo'n gymwys, i benderfynu ar yr apêl) a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi, o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr apêl neu'r gwrandawiad lleol, unrhyw rybudd i'r cyhoedd y gwêl yn dda.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer cynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddo roi unrhyw rybudd y gwêl yn dda am unrhyw amrywiad o'r fath.
(5) Rhaid i unrhyw rai o'r partïon â diddordeb sy'n dymuno cael eu clywed yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, o fewn 28 diwrnod o gyflwyno datganiad yr apelydd iddynt yn unol â pharagraff (2) uchod, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno ymddangos ac fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson sydd wedi ei hysbysu felly gyflwyno datganiad iddo yn cynnwys manylion eu hachos ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau y maent yn dymuno cyfeirio atynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (heblaw am y rhai y mae'r apelydd wedi mynegi ei fod yn dymuno cyfeirio atynt) o fewn 28 diwrnod o'i gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno'r datganiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r datganiadau hynny at yr apelydd ac at y partïon eraill sydd â diddordeb.
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r apelydd neu unrhyw berson arall sydd wedi darparu datganiad yn unol â pharagraff (5) uchod ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddo am y materion a gynhwyswyd yn y datganiad a rhaid iddo anfon copi o'r wybodaeth honno at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd â diddordeb yn ôl fel y digwydd.
(7) Cyn i wrandawiad neu ymchwiliad lleol gael ei gynnal rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd a'r partïon sydd â didordeb mewn perthynas â'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ar gael i'w harchwilio gan unrhyw berson sy'n gwneud cais am hynny.
(8) Y personau y mae hawl ganddynt i gael eu clywed mewn gwrandawiad yw -
(9) Rhaid i berson y mae ganddo hawl i ymddangos mewn ymchwiliad ac sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad trwy ddarllen proflen dystiolaeth anfon copi o'r broflen dystiolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad lleol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copïau o'r broflen a'r crynodeb at y partïon â diddordeb neu at yr apelydd a'r partïon eraill sydd a diddordeb yn ôl fel y digwydd.
(10) Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai eu bod wedi cael eu penodi i benderfynu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys eu casgliadau a'u hargymhellion neu eu rhesymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.
(11) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anghytuno â'r person sy'n gwneud yr adroddiad yn unol â pharagraff (10) uchod ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad y daeth y person hwnnw iddo, neu sy'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn berthnasol i'r casgliad hwnnw, neu os yw'n cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd ac oherwydd hynny y mae'n barod i anghytuno ag argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad, rhaid iddo beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf roi cyfle i unrhyw berson a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gael cyfle i wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir ganddo.
(12) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r person a benodwyd i benderfynu ar yr apêl, yn ôl fel y digwydd, hysbysu'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon copi o unrhyw adroddiad a wneir yn unol â pharagraff (10) uchod, at yr apelydd, at y partïon sydd â diddordeb ac at unrhyw berson arall a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac a ofynnodd am gael ei hysbysu am y penderfyniad.
Cais i'r llys gan berson a dramgwyddwyd
18.
- (1) Ar ôl cael cais gan unrhyw berson sydd wedi'i dramgwyddo gan benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw prosiect yn brosiect perthnasol neu gan benderfyniad i roi caniatâd ar gyfer prosiect perthnasol, caiff yr Uchel Lys wneud gorchymyn i ddiddymu'r penderfyniad os yw'n fodlon nad yw'r penderfyniad o fewn pwerau rheoliad 5(4) neu 13(1), yn ôl fel y digwydd, neu fod buddiannau'r person a wnaeth gais i'r llys wedi cael eu rhagfarnu'n sylweddol oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i gais i'r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn gael ei wneud o fewn 42 ddiwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r penderfyniad yn unol â rheoliad 5(7)(b) neu 13(12)(b).
(3) Gall yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra'n disgwyl penderfyniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu gan bennu unrhyw amodau y gwêl yn dda.
Tramgwydd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn
19.
Bydd unrhyw berson sy'n dechrau neu'n cyflawni prosiect heb sicrhau yn gyntaf naill ai benderfyniad nad yw'r prosiect yn brosiect perthnasol neu benderfyniad yn rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect yn unol â'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwydd cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i amod
20.
Bydd unrhyw berson sy'n cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i unrhyw un o amodau'r caniatâd a roddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth ffug ayb
21.
- (1) Bydd unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn -
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored -
Hysbysiadau stop
22.
- (1) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod tramgwydd wedi'i chyflawni o dan reoliad 19, 20 neu 21 uchod a'i fod yn ystyried bod natur y niwed posibl i'r amgylchedd gan unrhyw weithgaredd y mae'r tramgwydd yn ymwneud ag ef yn golygu y dylai'r gweithgaredd ddod i ben ar unwaith, caiff gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel "hysbysiad stop") yn gwahardd pob gweithgaredd o'r fath neu unrhyw ran ohoNo.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo fod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol neu ei fod yncymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu hysbysiad stop yn ei ôl ar unrhyw adeg (heb ragfarnu ei bwerau i gyflwyno un arall) drwy gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddynt.
(4) Ni ddaw hysbysiad stop yn weithredol yn gynharach na'r amser a'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid i hynny, ac eithrio mewn argyfwng, beidio â bod yn llai na 24 awr ar ôl ei gyflwyNo.
(5) Daw hysbysiad stop i ben os cyflwynir hysbysiad tynnu yn ôl yn unol â pharagraff (3); os yw'r Cynulliad Cenedlaethol (neu berson a benodir ganddo i benderfynu apêl) yn rhoi caniatâd ar gyfer y gweithgaredd a waharddwyd; neu os yw'r Cynulliad Cenedlaethol (neu berson a benodir ganddo i benderfynu ar apêl) yn penderfynu nad yw'r gweithgaredd a waharddwyd yn brosiect perthnasol.
Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop
23.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddynt yn euog o dramgwydd.
(2) Gellir dwyn cyhuddiad am unrhyw dramgwydd o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw ddiwrnod neu gyfnod amser hwy a gellir cael person yn euog o ail dramgwydd neu dramgwydd dilynol o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod amser yn dilyn y gollfarn flaenorol am dramgwydd o'r fath.
(3) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at fynd yn groes i hysbysiad stop yn golygu achosi neu ganiatáu hynny.
(4) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored -
(5) Mewn achos am dramgwydd o dan y rheoliad hwn bydd yn amddiffyniad i'r sawl sy'n cael ei gyhuddo i brofi -
Adfer
24.
- (1) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod tramgwydd wedi'i gyflawni o dan reoliad 19, 20 neu 21 caiff gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r dramgwydd hysbysiad ("hysbysiad adfer") yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r person hwnnw adfer, er boddhad y Cynulliad Cenedlaethol, y tir perthnasol i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i'r prosiect ddechrau gan bennu o fewn pa gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith adfer.
(2) Os nad oes modd dyfarnu yn rhesymol gywir beth oedd cyflwr y tir cyn i'r prosiect ddechrau neu os nad oes modd adfer y tir i'r un cyflwr ag yr oedd ynddo cyn i'r prosiect ddechrau, bydd yr hysbysiad adfer yn gosod y gofynion i adfer y tir, sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol (ar ôl ymgynghori ag unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwêl yn dda), yn rhesymol o dan yr amgylchiadau .
(3) Caiff person y mae hysbysiad o dan baragraff (1) uchod wedi'i gyflwyno iddo, o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, apelio i'r Llys Ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn ar unrhyw un o'r seiliau canlynol: -
(4) Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y bydd yn gwneud ei gwyn, adneuo gyda chlerc yr ynadon hysbysiad apêl sy'n nodi ei enw a'i gyfeiriad a'r seiliau dros wneud yr apêl a chyflwyno copi o'r hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadiau ar gyfer cynnal achos, gan gynnwys -
(6) Mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980[18] yn gymwys i'r achos;
(7) Pan wneir apêl yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd effaith i'r hysbysiad adfer nes y bydd yr apêl wedi'i phenderfynu yn derfynol neu wedi cael ei gollwng.
(8) Gall unrhyw barti i achos Llys Ynadon lle gwneir penderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Uchel Lys.
(9) Os bydd unrhyw berson, heb esgus rhesymol, yn methu cydymffufio ag unrhyw un o ofynion yr hysbysiad adfer a gyflwynwyd o dan baragraff (1) uchod, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu -
Pwerau mynediad a phwerau diofyn
25.
- (1) Gall unrhyw berson a awdurdodir yn briodol yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol gael mynd ar unrhyw dir a'i archwilio, ar adeg resymol, er mwyn -
os oes seiliau rhesymol dros fynd arno at y diben dan sylw.
(2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir yn briodol ac yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae ganddo seiliau rhesymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 21, fynd i mewn i unrhyw safle, ac eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, a hwnnw'n safle, neu y mae gan y person hwnnw le rhesymol i gredu ei fod yn safle, sydd wedi'i feddiannu, neu sydd ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd sy'n cael ei amau.
(3) Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol o dan hysbysiad adfer neu o dan hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 3 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad -
(4) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodir o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle, ddangos tystiolaeth o'u hawdurdod cyn mynd yNo.
(5) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod i fynd ar unrhyw dir neu safle ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol gyda hwy.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu safle y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) uchod wedi mynd arno, neu sydd a'r tir neu'r safle hwnnw yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw b er a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n mynd ati'n fwriadol i rwystro neu atal unrhyw berson sy'n arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sy'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â chais sy'n cael ei wneud o dan baragraff (6) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Cyflwyno hysbysiadau
26.
- (1) Caiff unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gael ei rhoi, ei hanfon , neu ei chyflwyno naill ai -
(2) Os yw hysbysiad neu ddogfen i'w rhoi, neu i'w hanfon, neu i'w chyflwyno i unrhyw berson fel un sydd â buddiant yn y safle neu os yw'n ofynnol neu os awdurdodwyd rhoi, neu anfon, neu gyflwyno yr hysbysiad neu'r ddogfen i berchennog neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw'n ymarferol darganfod ar ôl ymchwiliad rhesymol enw a chyfeiriad y person y dylid ei rhoi, ei hanfon neu ei chyflwyno iddo, neu os nad yw'r safle wedi'i feddiannu, gellir rhoi, anfon neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y person sydd o dan sylw yn y disgrifiad o "berchennog" neu "feddiannydd" y safle (gan eu henwi) ac -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Awst 2002
2.
Lleoliad y prosiect
Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, o ystyried yn benodol -
3.
Yr effaith bosibl
Effeithiau arwyddocaol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a bennwyd o dan 1 a 2 uchod, o ystyried yn benodol -
2.
Amlinelliad o'r prif opsiynau eraill a astudiwyd gan y sawl sy'n gwneud cais am ganiatâd a syniad o'r prif resymau dros y dewis a wnaed gan y ceisydd, gan gymeryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3.
Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, d r, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a'r rhyng-berthynas rhwng y ffactorau uchod.
4.
Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd, a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byr-dymor, tymor-canolig a hir-dymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fydd yn deillio o:
a disgrifiad gan y ceisydd am ganiatâd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5.
Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.
6.
Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7.
Awgrym ynglöyn ag unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg arbenigedd technegol) a wynebodd y ceisydd am ganiatâd wrth gasglu'r wybodaeth angenrheidiol.
3.
Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn yr asesiad, yn cael ei fodloni na fydd y prosiect a gafodd ei ganiatáu drwy'r penderfyniad neu'r caniatâd yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd, ac nad yw paragraff (7) o reoliad 13 yn gymwys, rhaid iddo, yn achos penderfyniad, ddiddymu'r penderfyniad hwnnw ac, yn achos caniatâd, naill ai diddymu'r caniatâd hwnnw neu wneud unrhyw addasiadau i'r caniatâd y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar integriti'r safle Ewropeaidd a rhaid iddo hysbysu ei benderfyniad i bob person sy'n ymddangos iddo fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol.
4.
Yn ddarostyngedig i baragraff 5 isod, ni chaiff diddymu neu addasu penderfyniad neu ganiatâd y mae gwaith wedi'i ddechrau neu wedi'i gwblhau yn unol ag ef effeithio ar y gwaith hynny sydd eisoes wedi'i wneud.
5.
Os, pan fydd prosiect sy'n ddarostyngedig i benderfyniad a wnaed o dan baragraff 3 uchod wedi dechrau, y mae hi'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod angen diogelu integriti safle Ewropeaidd, drwy roi hysbysiad caiff ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am wneud y gwaith hwnnw neu unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol i wneud unrhyw waith adfer sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau a bydd hawl gan unrhyw berson sy'n gwneud gwaith i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, wrth wneud hawliad yn unol â pharagraff 8 isod, i adennill iawndal oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol ganddo yn y cyswllt hwnnw.
6.
Bydd rheoliad 15 yn gymwys i benderfyniad a wnaed yn unol â pharagraff 3 uchod ac i hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 5 uchod.
7.
Os, yn dilyn penderfyniad o dan baragraff 3 uchod, y mae person wedi tynnu gwariant wrth wneud gwaith sydd bellach yn ddi-fudd oherwydd y diddymiad neu'r addasiad neu os yw fel arall wedi dioddef colled neu ddifrod y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r diddymiad neu'r addasiad, bydd hawl ganddo i gael iawndal ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8 isod.
8.
Rhaid cyflwyno hawliad am iawndal sydd i'w dalu o dan baragraff 5 neu 7 uchod i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwe wythnos o hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef a rhaid i unrhyw dystiolaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano gael ei darparu gydag ef.
9.
Gellir cyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch swm yr iawndal sy'n daladwy o dan baragraffau 5 neu 7 uchod at y Tribiwnlys Tiroedd[20] o fewn chwe blynedd o ddyddiad hysbysu'r penderfyniad y mae'r iawndal yn cael ei dalu mewn perthynas ag ef.
3.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen hon, rhaid bod gan berson a benodwyd, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater y mae eu penodiad yn ymwneud ag ef, yr un pwerau a dyletswyddau â'r rhai sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (7), (10), (11) a (12) o reoliad 15.
4.
- (1) Bydd darpariaethau'r paragraff hwn, yn hytrach na rheoliad 15(6), yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu gan berson a benodwyd.
(2) Os bydd yr apelydd yn mynegi ei fod yn dymuno ymddangos gerbron y person a benodwyd ac i gael ei glywed ganddo , rhaid i'r person a benodwyd roi cyfle i'r apelydd ymddangos a chael ei glywed.
(3) P'un a yw apelydd wedi gofyn am gyfle i ymddangos gerbron ac i gael ei glywed ai peidio -
(4) Os yw'r naill neu'r llall o is-baragraffau (2) neu (3) uchod yn gymwys, rhaid i'r person a benodwyd hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau eraill sydd wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod am wneud sylwadau yn unol â rheoliad 15(5) fod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, yn ôl fel y digwydd, i'w gynnal.
(5) Pan fydd person a benodwyd yn cynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall yn rhinwedd yr Atodlen hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi aseswr i eistedd gyda'r person a benodwyd yn yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ac i'w gynghori ar unrhyw fater sy'n codi, er mai'r person a benodwyd a fydd yn penderfynu'r apêl neu'r mater.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 15(9), rhaid i gostau ymchwiliad lleol a gynhaliwyd o dan yr Atodlen hon gael eu had-dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5.
- (1) Pan gaiff penodiad y person a benodwyd ei ddiddymu o dan baragraff 2(c) mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, oni bai ei fod yn bwriadu penderfynu'r apêl neu'r mater ei hun, benodi person arall o dan reoliad 15(8) i benderfynu ar yr apêl neu'r mater yn ei le .
(2) Pan gaiff penodiad newydd o'r fath ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn perthynas ag ef, gael ei dechrau o'r newydd.
(3) Ni fydd dim yn is-baragraff (2) yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i wneud sylwadau o'r newydd neu addasu unrhyw sylwadau a wnaed eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.
6.
- (1) Rhaid ymdrin ag unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud wneud gan berson a benodwyd wrth, arfer, neu'n honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni fydd is-baragraff (1) uchod yn gymwys -
[4] Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, adran 32 o Deddf Treftadaeth Cenedlaethol 1983 (p.47).back
[5] Gweler adran 1(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25).back
[6] OJ Rhif L206, 22/07/1992 t.7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC, OJ Rhif L305, 8.11.97, t.42.back
[7] OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5.back
[8] O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2803, 1996/525, 1997/3055 a 2000/1973.back
[11] O.S. 1999/293, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2867.back
[13] OS 1992/3240 (fel y'i diwygiwyd gan OS 1998/1447).back
[15] 1981 p. 69 (mewnosodwyd y diffiniad yn adran 52(1) gan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (2000 p.37)).back
[16] 1972 p.70; diwygiwyd adran 250(4) gan Ran III o Atodlen 12 i Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63).back
[17] 1990 p.8; mewnosodwyd adran 322A gan adran 30(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).back
[20] Gweler adran 1 o Ddeddf Tribiwnlysoedd Tiroedd 1949 (p.42).back