BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 Rhif 135 (Cy.9) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030135w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 28 Ionawr 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Mawrth 2003 |
Ffurf a chynnwys offerynnau cyflwyno
3.
Rhaid i offeryn cyflwyno:
(ch) datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n gwneud y cyflwyniad;
(d) datgan natur y buddiant y mae gan bob person sy'n gwneud y cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno, ac, os yw unrhyw fuddiant o'r fath yn dymor blynyddoedd absoliwt cyfreithiol, y dyddiad y mae'r tymor hwnnw i fod i ddod i ben;
(dd) os nad yw buddiant unrhyw berson sy'n gwneud y cyflwyniad yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae buddiant y person hwnnw yn ymwneud ag ef drwy gyfeirio at ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir ar y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn yn unol â pharagraff (c);
(e) datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n cydsynio ag ef, ac eithrio'r rhai sy'n gwneud y cyflwyniad;
(f) datgan natur y buddiant sydd gan bob person sy'n cydsynio â'r cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno ac, os nad yw'r buddiant hwnnw yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae'r buddiant hwnnw yn ymwneud ag ef naill ai drwy ddisgrifiad mewn geiriau neu drwy gyfeirio at y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn;
(ff) cynnwys datganiad gan neu ar ran y personau sy'n gwneud y cyflwyniad nad oes, hyd eithaf gwybodaeth a chred y personau hynny, unrhyw bersonau, heblaw'r rhai sydd wedi'u nodi yn unol â pharagraff (ch), y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(1) o'r Ddeddf ymuno â'r cyflwyniad nac unrhyw bersonau, heblaw'r rhai a nodwyd yn unol â pharagraffau (ch) ac (e) y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(2) o'r Ddeddf naill ai ymuno â'r cyflwyniad neu gydsynio ag ef;
(g) datgan, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir sydd i'w gyflwyno, a yw'r personau sy'n gwneud y cyflwyniad yn bwriadu y dylai unrhyw un o'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer yr hawl mynediad a nodwyd ym mharagraff 1, 4 neu 5 o Atodlen 2 i'r Ddeddf gael eu dileu neu eu llacio ac, os felly:
(ng) cynnwys datganiad o gydsyniad â thelerau'r offeryn a hwnnw wedi'i lofnodi gan bob un o'r personau a nodwyd yn unol â pharagraff (e) neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i lofnodi ar eu rhan; ac
(h) cynnwys, yn union o flaen y man lle y mae i'w lofnodi pan fydd wedi'i weithredu, ddatganiad fod darpariaethau rheoliad 4(4) wedi'u bodloni.
Gweithredu offeryn cyflwyno
4.
- (1) Mae offeryn cyflwyno yn cael ei i weithredu:
(2) Os yw person yn llofnodi offeryn cyflwyno ar ran person sy'n gwneud y cyflwyniad, rhaid i ddatganiad ddod o flaen y llofnod a hwnnw'n ddatganiad sy'n nodi'r person y mae'r offeryn cyflwyno yn cael ei lofnodi ar ei ran a datganiad bod y person sy'n llofnodi'r offeryn cyflwyno wedi'i awdurdodi i wneud hynny ar ran y person hwnnw.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dyddiad gweithredu'r offeryn cyflwyno yw'r dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b).
(4) Ni chaiff neb lofnodi offeryn cyflwyno yn unol â pharagraff (1) oni bai bod drafft o'r offeryn wedi'i anfon, yn y fath fodd ag i ddod i law ym mhob achos ymhen nid llai na thri mis cyn iddo gael ei lofnodi felly, at bob un o'r canlynol:
Effaith offerynnau cyflwyno
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae offeryn cyflwyno sydd wedi'i weithredu yn unol â rheoliad 4 yn dod i rym chwe mis ar ôl dyddiad ei weithredu.
(2) Mae gan offeryn cyflwyno, pan fydd wedi dod i rym yn unol â pharagraff (1), yr effaith o gyflwyno'r tir y mae'n ymwneud ag ef at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf.
(3) Nid yw offeryn cyflwyno yn dod i rym oni bai ei fod, yn unol â pharagraff (4), wedi'i adneuo gyda'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir y mae'n ymwneud ag ef, neu os oes mwy nag un awdurdod mynediad o'r fath, gydag un ohonynt.
(4) Mae offeryn cyflwyno yn cael ei adneuo gydag awdurdod mynediad drwy anfon neu draddodi'r gwreiddiol i'r awdurdod hwnnw fel y bydd yn dod i law'r awdurdod mynediad o fewn un mis ar ôl dyddiad ei weithredu ac nid oes unrhyw effaith i unrhyw offeryn cyflwyno sy'n dod i law awdurdod mynediad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Os digwydd i awdurdod mynediad gael offeryn cyflwyno ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4) ddod i ben, rhaid iddo hysbysu ar unwaith bob un o'r personau sydd wedi'u nodi ynddo fel y personau sy'n cyflwyno'r tir y mae'r offeryn yn ymwneud ag ef nad oes unrhyw effaith iddo, oherwydd methiant i adneuo'r offeryn cyflwyno o fewn y cyfnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4).
Hysbysu o adneuo offeryn cyflwyno
6.
- (1) Rhaid i'r personau y mae offeryn cyflwyno wedi'i lofnodi ganddynt neu ar eu rhan sicrhau cyn gynted â phosibl ar ôl ei adneuo gydag awdurdod mynediad yn unol â rheoliad 5, fod copïau yn cael eu hanfon at bob un o'r cyrff neu'r personau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(4)(a) i (d) (ac eithrio'r awdurdod mynediad y cafodd yr offeryn cyflwyno ei adneuo gyda hwy yn unol â rheoliad 5), a bod datganiad sy'n nodi'r awdurdod mynediad y mae'r offeryn cyflwyno wedi'i adneuo gyda hwy a'r dyddiad y cafodd ei adneuo felly yn cael ei anfon gyda phob copi.
(2) Nid yw methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd offeryn cyflwyno.
Dileu neu lacio cyfyngiadau ar dir sydd wedi'i gyflwyno
7.
- (1) Os yw offeryn cyflwyno yn cynnwys datganiad yn unol â pharagraff (g) o reoliad 3, mae'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer hawl mynediad a nodwyd ym mharagraff 1, 4 neu 5 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yn gymwys yn ddarostyngedig i unrhyw ddileu neu lacio a bennir yn y datganiad yn unol â'r paragraff hwnnw.
(2) Os gallai unrhyw berson neu bersonau, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae offeryn cyflwyno yn ymwneud ag ef, gyflwyno'r tir hwnnw (oni bai ei fod eisoes wedi'i gyflwyno) o dan adran 16(1) o'r Ddeddf, cânt ddileu unrhyw gyfyngiadau cyffredinol o'r fath sy'n parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw, neu eu llacio neu eu llacio ymhellach, yn ôl fel y digwydd drwy offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7), mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i offerynnau cyflwyno sy'n diwygio i'r graddau y maent yn gymwys i offerynnau cyflwyno.
(4) Mae paragraff (b) o reoliad 3 yn gymwys i offeryn cyflwyno sy'n diwygio fel petai'r cyfeiriad at y datganiad gofynnol yn gyfeiriad at ddatganiad ei fod wedi'i wneud yn unol a pharagraff (2) o'r rheoliad hwn ac mai ei effaith, pan fydd yn dod i rym yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn, fydd y caiff rhai o'r cyfyngiadau cyffredinol sy'n gysylltiedig ag ef ac sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer mynediad i'r tir y mae'n ymwneud ag ef eu dileu, eu llacio neu eu llacio ymhellach yn unol â thelerau'r offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(5) Nid yw paragraffau (e), (f) ac (ng) o reoliad 3 yn gymwys i offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(6) Mae'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at dir sydd i'w gyflwyno i'w dehongli, mewn perthynas ag offeryn cyflwyno sy'n diwygio, fel cyfeiriadau at y tir y mae'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer mynediad i'r tir hwnnw i'w dileu, i'w llacio neu i'w llacio ymhellach.
(7) Mae'r cyfeiriad yn rheoliad 5(2) at effaith offeryn cyflwyno pan ddaw i rym i'w ddehongli, mewn perthynas ag offeryn cyflwyno sy'n diwygio, fel cyfeiriad at y ffaith bod dileu, llacio neu lacio ymhellach y cyfyngiadau cyffredino, sydd i'w hufuddhau gan bersonau sydd wedi'u nodi yn yr offeryn ac sy'n arfer mynediad i'r tir, i ddod yn weithredol.
Defnyddio cyfathrebu electronig
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol i un person ei hanfon at un arall neu yr awdurdodwyd ei hanfon felly o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, gael ei hanfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn heblaw am y cyfeiriad yn rheoliad 3(a), at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, i'w ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo iddo ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) Ni ellir adneuo offeryn cyflwyno gydag awdurdod mynediad yn unol â rheoliad 5(4) drwy ddull cyfarthrebiad electronig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003
© Crown copyright 2003 | Prepared 4 March 2003 |