BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 151 (Cy.21)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030151w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 151 (Cy.21)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 29 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 3 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol :

Teitl a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 3 Chwefror 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Cyn belled ag y maent yn ymwneud i raddau perthnasol â chynhyrchydd, diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) uchod, ystyr "i raddau perthnasol" yw'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion y Rheoliadau IACS mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw.

    (3) Yn rheoliad 5 (pwerau swyddogion awdurdodedig), rhoddir y paragraff canlynol yn lle'r paragraff (5)(a) presennol - 

    (4) Ar ôl rheoliad 7, mewnosodir y rheoliad canlynol - 

    (5) Dilëir Rheoliad 8A.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 3 Chwefror 2003, yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 (O.S. 1992/2677, fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573) ("y prif Reoliadau").

Maent yn diwygio'r prif Reoliadau cyn belled ag y mae'r rheiny'n ymwneud "i raddau perthnasol" ag unrhyw gynhyrchydd at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 sy'n gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3). Y "graddau perthnasol" at y diben hwn yw'r graddau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw, yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573).

Mae'r Rheoliadau yn mewnosod yn y prif Reoliadau reoliad 8 newydd sy'n gosod gofynion ar y cynhyrchwyr hynny i gadw cofnodion ynglycircn â digwyddiadau penodedig. Yn ychwanegol, maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae'r gofynion hyn ynglycircn â chadw cofnodion yn gweithredu Erthygl 4(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor (EC) Rhif 92/102 ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac maent yn ofynion a gafodd eu pennu o'r blaen yn erthygl 5 o Reoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2335 (Cy.152)).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pwcircer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3.back

[4] O.S. 1992/2677, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573.back

[5] O.S. 1993/1317, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090633 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 7 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030151w.html