BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 Rhif 287 (Cy.39)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030287w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 287 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 12 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 18 Chwefror 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(7) ac (8) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[3], ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[4]), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Darpariaethau dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol o uned cyfeirio disgyblion
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 52(7) o Ddeddf 2002 y person all apelio i banel apelau yn erbyn penderfynad i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion.

    (2) Y person a ragnodir yw'r person perthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl sy'n destun penderfyniad perthnasol.

Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith - 

    (2) Nid yw'r rheoliad hwn i fod yn gymwys i unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn i alluogi person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad perthnasol.

    (2) Ni ellir gwneud unrhyw apêl mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol y mae rheoliad 4(2) yn gymwys iddo oni roddir hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r seiliau am yr apêl gan y person perthnasol i'r awdurodd addysg lleol cyn pen 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym.

Cymhwyso deddfwriaeth bresennol
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Atodlen 18 i Ddeddf 1998 i fod yn gymwys gyda'r addasiadau a ragnodwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 18 i Ddeddf 1998 fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn i fod yn gymwys.

Penderfyniad panel apelau yn benderfyniad rhwymol
    
7. Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5 yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol a'r awdurdod addysg lleol.

Cyfarwyddyd i adsefydlu disgybl
    
8. Pan o dan apêl yn unol â'r Rheoliadau hyn bod panel apelau yn penderfynu na ddylai'r disgybl dan sylw fod wedi cael ei wahardd yn barhaol, rhaid i'r panel apelau naill ai - 

Parchu canllawiau
    
9. Rhaid i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo gan neu o dan y Rheoliadau hyn a Deddf 1998 (fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn) barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Chwefror 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 6


Addasu Atodlen 18 i Ddeddf 1998


     1. Yn lle "section 67(1)", bob tro y digwydd, rhoddir "regulation 5 of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003".

     2. Yn lle "section 66(6)(b)", bob tro y digwydd, rhoddir "regulation 4(1)(a) of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003".

     3. Ym mharagraff 1, yn lle "not to reinstate", bob tro y digwydd, rhoddir "to permanently exclude".

     4. Ym mharagraff 2(7) - 

     5. Ym mharagraff 10(2) - 

     6. Ym mharagraff 14 - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r person perthnasol (hynny yw rhiant disgybl, neu'r disgybl ei hun os ydyw'n 18) sy'n gallu apelio yn erbyn penderfyniad athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae'r hawl newydd hwn i apelio yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wneir gan athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol ar neu ar ôl 1 Medi 1994.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r athro neu athrawes sy'n gyfrifol hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol ar unwaith am y penderfyniad a'r rheswm drosto pan gaiff disgybl ei wahardd yn barhaol ar ôl dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, rhaid hysbysu'r person perthnasol o'i hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a sut y gall fynd ati i wneud apêl o'r fath.

Mae Rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod addysg lleol i wneud trefniadau sy'n galluogi'r person perthnasol i wneud apêl. Fodd bynnag, rhaid i'r person perthnasol gydymffufio â'r terfynau amser ar gyfer hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'i fwriad i apelio. Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, y terfyn amser yw 15 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan dderbyniodd y person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(1). Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, y terfyn amser yw 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn cymhwyso Atodlen 18 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y caiff ei haddasu gan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ar gyfer unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 5.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ailadrodd y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yn adran 67(3) a (4) o Ddeddf 1998 ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, gan ychwanegu darpariaeth (yn rheoliad 8(b)) i'r panel apelau wneud penderfyniad y byddai adsefydlu wedi bod yn briodol mewn achos pan na fyddai fel arall mewn gwirionedd wedi bod yn ymarferol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau, barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1996 p.56. Ar gyfer ystyr "regulations" gweler adran 579.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 2002 p.32; gweler adran 212(1) ar gyfer ystyr "regulations".back

[4] 1992 p.53; amnewidir paragraff 15(b) o Atodlen 1 yn rhagolygol gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back

[5] 1998 p.31.back

[6] 1993 p.35.back

[7] 1998 p38.back



English version



ISBN 0 11090650 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030287w.html