OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 394 (Cy.53)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
25 Chwefror 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adrannau 173(10)[1], 174(4), 175(1), a 336(1)[2] o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[3] ac adrannau 39(4), 40(1), 42(5) a 91(1)[4]) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[5] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
ENWI, CYCHWYN, CYMHWYSO A DEHONGLI
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003 a byddant yn dod i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y rheoliadau hyn:
"awdurdod cynllunio lleol" ("local planning authority") yw'r corff sy'n cyhoeddi'r hysbysiad gorfodi perthnasol;
"y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
"y Ddeddf Adeiladau Rhestredig" ("the Listed Buildings Act") yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
"y Ddeddf Gynllunio" ("the Planning Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; a
"hysbysiad gorfodi" ("enforcement notice") yw hysbysiad a gyhoeddir o dan adran 172(1)[6] o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 38(1) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig.
RHAN 2
HYSBYSIADAU GORFODI O DAN ADRAN 172
Materion ychwanegol i'w nodi mewn hysbysiad gorfodi
3.
Rhaid i hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 172 o'r Ddeddf Gynllunio nodi -
(a) y rhesymau pam y mae'r awdurdod cynllunio lleol o'r farn ei bod yn briodol dyroddi'r hysbysiad;
(b) pob polisi a chynnig yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad gorfodi; a
(c) union ffiniau'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo, boed drwy gyfeirio at blan neu fel arall.
Nodyn esboniadol i'w anfon gyda chopi o'r hysbysiad gorfodi
4.
Rhaid i bob copi o hysbysiad gorfodi a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol o dan adran 172(2) o'r Ddeddf Gynllunio gael ei anfon gyda nodyn esboniadol a rhaid i hwnnw gynnwys yr hyn a ganlyn -
(a) copi o adrannau 171A, 171B a 172 hyd 177 o'r Ddeddf Gynllunio, neu grynodeb o'r adrannau hynny gan gynnwys y wybodaeth ganlynol -
(i) bod hawl apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn yr hysbysiad gorfodi hwnnw;
(ii) bod modd gwneud apêl dim ond drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y bydd yn effeithiol arno neu drwy anfon hysbysiad o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn llythyr wedi'i gyfeirio yn gywir, y talwyd am ei gludiant ymlaen llaw, ac sydd wedi'i bostio iddo ar y fath amser fel, yn ôl gwasanaeth arferol y post, y byddai'n cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw;
(iii) ar ba seiliau y gellid gwneud apêl o dan adran 174 o'r Ddeddf Gynllunio;
(iv) y ffi i'w thalu o dan rheoliad 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989[7] am y cais tybiedig am ganiatâd cynllunio i'r datblygiad yr honnir iddo dorri'r rheolaeth gynllunio yn yr hysbysiad gorfodi;
(b) hysbysiad bod rhaid i apelydd anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai wrth roi rhybudd o apêl neu o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn anfon hysbysiad at yr apelydd yn gwneud hynny'n ofynnol, ddatganiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau y mae'r apelydd yn apelio arnynt yn erbyn yr hysbysiad gorfodi gan ddatgan yn gryno'r ffeithiau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt i gefnogi pob un o'r seiliau hynny; ac
(c) rhestr o enwau a chyfeiriadau y personau y mae copi o'r hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno iddynt.
RHAN 3
APELAU
Datganiad o Apêl
5.
Rhaid i berson sy'n gwneud apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 174(3) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(2) o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn erbyn hysbysiad gorfodi anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ysgrifenedig -
(a) sy'n nodi'r seiliau y mae'r apêl yn cael ei wneud arnynt; ac
(b) sy'n rhoi yn gryno y ffeithiau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt i gefnogi pob un o'r seiliau hynny,
ac os nad anfonir datganiad o'r fath gyda'r apêl, rhaid i'r apelydd ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y bydd yn cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol nid hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn anfon at yr apelydd hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
Hysbysiad o apêl i'r awdurdod cynllunio lleol
6.
Pan gaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o dan reoliad 5, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig bod apêl wedi'i wneud a rhoi copi o'r apêl a'r datganiad a wnaed o dan reoliad 5 i'r awdurdod cynllunio lleol.
Awdurdod cynllunio lleol i anfon copi o hysbysiad i'r Cynulliad Cenedlaethol
7.
Os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn cael hysbysiad o dan reoliad 6 bod apêl wedi'i gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, nid hwyrach na 14 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw, gopi ardystiedig o'r hysbysiad gorfodi a rhestr o enwau a chyfeiriadau'r personau y mae copi o'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddynt o dan adran 172(2) o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 38(4) o Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ôl y digwydd.
Datganiad gan awdurdod cynllunio lleol
8.
- (1) Os yw apêl wedi'i wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac at unrhyw berson y mae copi o'r hysbysiad gorfodi wedi'i gyflwyno iddo, ddatganiad sy'n dangos y cyflwyniadau y mae'n bwriadu rhoi gerbron yngln â'r apêl, gan gynnwys -
(a) crynodeb o ymateb yr awdurdod i bob sail i'r apêl y mae'r apelydd yn ei wneud; a
(b) datganiad sy'n dweud a fyddai'r awdurdod yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio i'r materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri'r rheolaeth gynllunio, neu roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth i'r gwaith y mae'r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn berthnasol iddo, yn ôl y digwydd, ac, os felly, yn rhoi manylion am yr amodau, os oes rhai, y byddai am eu gorfodi ar y caniatâd neu'r cydsyniad.
(2) Rhaid i unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol ei anfon o dan baragraff (1) gyrraedd o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr "dyddiad dechrau" yw dyddiad -
(a) hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 9; neu
(b) hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheolau a wnaed o dan adran 9 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 sy'n hysbysu'r apleydd a'r awdurdod cynllunio lleol bod ymchwiliad neu wrandawiad, yn ôl y digwydd, i'w gynnal, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
Hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd
9.
Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod pob dogfen sydd ei hangen i'w alluogi iddo i ystyried yr apêl wedi cyrraedd, rhaid iddo anfon hysbysiad i'r perwyl hwn at yr apelydd ac i'r awdurdod cynllunio lleol.
RHAN 4
HYSBYSIADAU A DDYRODDIR GAN Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
10.
Mae'r Rheoliadau hyn, heblaw rheoliadau 6 a 7, yn gymwys i hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 182 o'r Ddeddf Gynllunio, i apelau wedi'u gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiadau o'r fath ac i apelau yn erbyn hysbysiadau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 46 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel y maent yn gymwys i hysbysiadau o'r fath a ddyroddir gan awdurdodau cynllunio lleol ac i apelau wedi'u gwneud yn eu herbyn fel petai -
(a) cyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at awdurdodau cynllunio lleol;
(b) yn rheoliad 3, "adran 182" wedi'i roi yn lle "adran 172";
(c) yn rheoliad 4 -
(i) "adran 182(1)" wedi'i roi yn lle "adran 172(2)"; a
(ii) ym mharagraff (a), "adrannau 171A, 171B, 172 hyd 177 a 182" wedi'i roi yn lle "adrannau 171A, 171B a 172 hyd 177"; a
(ch) yn lle rheoliad 8, y canlynol wedi'i roi -
"
8.
Os bydd apêl wedi'i wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad gorfodi y mae wedi'i gyhoeddi, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon at yr apelydd ddatganiad sy'n dangos pa gyflwyniadau y mae'n bwriadu dwyn gerbron yngln â'r apêl (gan gynnwys crynodeb o'i ymateb i bob sail i'r apêl a gyflwynwyd gan yr apelydd) o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.".
RHAN 5
DIRYMU
Dirymu a darpariaethau trosiannol
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) 1991[8] ("Rheoliadau 1991") drwy hyn wedi'u dirymu i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, heblaw rheoliad 10(2) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau ei fod yn diwygio rheoliad 11 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[9].
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Diwygio) 1992[10] drwy hyn wedi'u dirymu i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw apêl yr oedd Rheoliadau 1991 yn gymwys iddo ac na phenderfynwyd arno erbyn y dyddiad pan ddaw y rheoliadau hyn i rym i'w barhau o dan Reoliadau 1991.
(4) Os bydd apêl y mae Rheoliadau 1991 yn gymwys iddo yn cael ei ailgyflwyno wedi hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w ailbenderfynu mewn achos o flaen unrhyw lys, mae'r penderfyniad i'w ailbenderfynu yn unol â'r Rheoliadau hyn ac nid Rheoliadau 1991.
RHAN 6
TROSGLWYDDO DOGFENNAU
Trosglwyddo dogfennau
12.
- (1) Gellir anfon unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol eu hanfon, neu yr awdurdodwyd eu hanfon, gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn drwy gyfrwng cyfathrebu electronig a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen gan gyfrifiadur.
(2) Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, y dylid anfon copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall gan y naill berson at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, dylid diystyru unrhyw ofyniad pellach bod rhaid anfon mwy nag un copi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Chwefror 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gyda diwygiadau Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi a Apelau) 1991.
Maent yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r canlynol -
(a) cynnwys hysbysiadau gorfodi a gyhoeddir o dan adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a'r wybodaeth i'w darparu gan yr awdurdodau cynllunio lleol wrth gyflwyno copïau o hysbysiadau o'r fath (Rhan 2);
(b) y gweithdrefnau i'w dilyn yngln ag apelau yn erbyn hysbysiadau o'r fath ac yn erbyn hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth a ddyroddir o dan adran 38(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (Rhan 3); a
(c) cymhwyso'r Rheoliadau i hysbysiadau o'r fath a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhan 4).
Yn ychwanegol at ddiwygiadau mân a rhai sy'n ymwneud â drafftio, mae'r Rheoliadau yn gwneud y newidiadau canlynol o sylwedd -
(a) mae rheoliad 3(b) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol, yn ychwanegol, roi manylion am bob polisi a chynnig yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gorfodi;
(b) mae rheoliad 4 yn pennu pa faterion y dylid ymdrin â hwy yn y nodyn esboniadol a anfonir gyda'r hysbysiad gorfodi. Y ffi sydd i'w thalu am gais tybiedig am ganiatâd cynllunio a rhestr o enwau a chyfeiriadau y rhai y cyflwynwyd copi o'r hysbysiad gorfodi iddynt yw'r materion ychwanegol i'w cynnwys;
(c) mae rheoliad 6 yn cynnwys gofyniad ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol bod apêl wedi'i wneud yn erbyn yr hysbysiad gorfodi a rhoi copi o ddatganiad apêl yr apelydd i'r awdurdod cynllunio lleol;
(ch) mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol yn ychwanegol i'r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o'i ddatganiad at bob person y cyflwynwyd copi o'r hysbysiad gorfodi iddo;
(d) rhaid i ddatganiad yr awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 8 gael ei anfon o fewn 6 wythnos ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 9 neu hysbysu'r partïon bod ymchwiliad neu wrandawiad i'w gynnal, p'un bynnag yw'r diweddaraf;
(dd) mae rheoliad 9 yn cynnwys gofyniad ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol pan fo o'r farn ei fod wedi cael yr holl ddogfennau y mae eu hangen i'w alluogi i ystyried yr apêl; ac
(e) mae rheoliad 12 yn awdurdodi dogfennau sy'n cael eu hanfon yn unol â'r Rheoliadau hyn gael eu hanfon drwy gyfrwng electronig.
Notes:
[1]
Amnewidiwyd adran 173 gan adran 5(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).back
[2]
Mae adran 336(1) yn darparu'r diffiniad o "prescribed".back
[3]
1990 p.8; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 173(10), 174(4), a 175(1), mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac maent, i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 3 iddo.back
[4]
Mae adran 91(1) yn darparu'r diffiniad o "prescribed".back
[5]
1990 p.9; mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 39(4), 40(1) a 42(5), i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
[6]
Amnewidiwyd adran 172(1) gan adran 5(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal Deddf 1991 (p.34).back
[7]
O.S. 1989/193, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2735 ac y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[8]
O.S. 1991/2804 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/1492 a 1992/1904.back
[9]
O.S. 1990/1519.back
[10]
O.S. 1992/1904.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090687 X
|