BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003 Rhif 894 (Cy.114)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030894w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 894 (Cy.114)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfradd y disgownt
    
2. 6.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 at ddibenion diffinio "r" yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol.

Mae adran 49(2) o Ddeddf 1989 yn nodi fformwla ar gyfer pennu, at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.

Un o'r elfennau y cyfeirir atynt yn y fformwla honno yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol pan ddaeth y trefniant credyd i fodolaeth.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y gyfradd ganrannol y cyfeirir ati uchod yn gyfradd ganrannol o 6.5 y cant o ddisgownt sy'n 0.2 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2002/2003.


Notes:

[1] 1989 p.42.back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090707 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 9 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030894w.html