OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 915 (Cy.118)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y per a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 42(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2]:
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[3].
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997
2.
Ar ôl rheoliad 12A (Gwariant nad oes angen ei dynnu o gyfrif refeniw - gwariant at ddibenion cyfalaf ar eiddo yn y Cyfrif Refeniw Tai) o Reoliadau 1997 mewnosodir -
"
Expenditure by a local authority in Wales not required to be charged to a revenue account - expenditure in respect of liabilities for retirement benefits
12B.
- (1) Expenditure by a local authority in Wales in respect of liabilities for retirement benefits appropriated to a pension reserve in accordance with proper practices shall be expenditure falling within section 42(2).
(2) For the purposes of paragraph (1) "retirement benefits" means benefits payable pursuant to -
(a) the Local Government Pension Scheme Regulations 1997[4];
(b) the Local Government (Early Termination of Employment) (Discretionary Compensation) (England and Wales) Regulations 2000[5];
(c) the Firemen's Pension Scheme Order 1992[6];
(d) the Police Pensions Regulations 1987[7]); and
(e) the Teachers (Compensation for Redundancy and Premature Retirement) Regulations 1997[8].
(f) any other regulations made under section 24 of the Superannuation Act 1972 (Compensation for loss of office, etc)[9]).".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [10]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 ("Rheoliadau 1997 ") er mwyn ymdrin ag effeithiau cymhwyso safon gyfrifo newydd 'FRS 17' i awdurdodau lleol, ac mae'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i rwymedigaethau yn y dyfodol ar gyfer budd-daliadau ymddeol gael eu cydnabod yng nghyfrifon yr awdurdodau lleol.
Mae adran 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu nad oes angen i wariant penodol awdurdod lleol gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod. Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan yr adran honno yn diwygio Rheoliadau 1997 drwy fewnosod rheoliad newydd sy'n darparu nad oes angen bod gwariant ar rwymedigaethau ar gyfer budd-daliadau ymddeol a neilltuodd awdurdod lleol i gronfa bensiwn fel y mae'n ofynnol gan arferion cyfrifo priodol yn cael ei dalu o gyfrif refeniw.
Notes:
[1]
1989 p.42.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/319, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/3237. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[4]
O.S. 1997/1612, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1238, 1999/1212 a 3438, 2000/1164 a 3025, 2001/1481 a 3401 a 2002/206.back
[5]
O.S. 2000/1410.back
[6]
O.S. 1992/129.back
[7]
O.S. 1987/257, a ddiwygiwyd gan O.S. 1988/1339, 1990/805, 1992/2349, 1994/641, 1996/867, 1998/577, 2000/843 a 1549 a 2001/3888.back
[8]
O.S. 1997/311, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2256 a 1999/608.back
[9]
1972 p.11.back
[10]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090703 5
|