OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 945 (Cy.126)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mai 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â dioglewch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Mai 2003.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4]), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC"[5], yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2001/30/EC" rhoddir y geiriau ", Commission Directive 2001/30/EC[6] and Commission Directive 2002/82/EC"[7].
Diwygiadau canlyniadol
3.
- (1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 9 (diwygiadau canlyniadol) Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[8].
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru, dylid dehongli cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997[9]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[10], Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2000[11]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[12], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966[13];
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976[14]);
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976[15];
Rheoliadau Suddion Ffrwythau a Nectarau Ffrwythau 1977[16]);
Rheoliadau Llaeth Tewychedig a Llaeth Sych 1977[17];
Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981[18];
Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[19];
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[20];
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[21]).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[22]
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau"), sy'n ymestyn i Brydain Fawr.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf purdeb pendodol ar ychwanegion bwyd heblaw am liwiau a melyswyr (OJ Rhif L292,28.10.2002.p.1).
Mae'r Rheoliadau yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennwyd yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/ 82/EC (rheoliad 2) ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau penodol mewn perthynas â chyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 3).
Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
1990 p. 16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128) ac O.S. 2002/329 (Cy.42).back
[5]
OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1.back
[6]
OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.back
[7]
OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.back
[8]
O.S. 2002/329 (Cy.42).back
[9]
O.S. 1997/1413.back
[10]
O.S. 1999/1136.back
[11]
O.S. 2001/1440 (Cy.102).back
[12]
O.S. 2001/60.back
[13]
O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[14]
O.S. 1976/509; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[15]
O.S. 1976/541; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[16]
O.S. 1977/927; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[17]
O.S. 1977/928; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[18]
O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[19]
O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[20]
O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[21]
O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[22]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090742 6
|