BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1677 (Cy.180)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031677w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1677 (Cy.180)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 75(1) 76(1), 77(4), 78(6), 79(1) a (2) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno ac o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ynglyn â diogelwch bwyd[2], a chan ei fod wedi ei ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno a grybwyllwyd ddiwethaf (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
    
2. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[4] o ran Cymru yn unol â rheoliadau 3 i 7.

     3. Yn rheoliad 1 (teitl, cychwyn a chymhwyso) yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff canlynol - 

     4. Yn lle rheoliad 3 (modd o gymryd, paratoi, marcio, selio a chau samplau) rhoddir y rheoliad canlynol - 

     5. Yn rheoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi) - 

     6. Yn union ar ôl rheoliad 6 mewnosodir y rheoliad canlynol  - 

     7. Yn Atodlen 2 (dulliau dadansoddi), yn Atodiad I i Ran II, yn union ar ôl y darnau am "Carbonates" mewnosodir yng ngholofnau 1 i 3, yn yr un drefn, yr eitemau isod  - 

Dioxins and dioxin-like PCBs Point 2 of Annex I to Directive 2002/70/EC and points 1 and 2, the second paragraph of point 3, the first three indents of point 4 and points 5 to 8 of Annex II to that Directive. OJ No. L209, 6.8.2002, p.15".


Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
    
8. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999[8] o ran Cymru yn unol â rheoliadau 9 i 13 .

     9. Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) rhoddir y paragraff canlynol  - 

     10. Yn lle rheoliad 8 (addasu cyfeiriadau yn Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 at samplau sydd wedi'u cymryd yn y modd rhagnodedig) rhoddir y rheoliad canlynol  - 

     11. Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth1970)  - 

     12. Yn lle rheoliad 11 ac 11A (addasuadrannau 77(4) a 78(6) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) rhoddir y rheoliadau canlynol - 

     13. Yn rheoliad 12 (addasu adran 83 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) hepgorir y geiriau "(as specified in regulation 7)".

Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999
    
14. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999[10] mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 15 i 17.

     15. Yn lle paragraffau (8) a (9) o reoliad 98 (pwerau personau awdurdodedig) mewnosodir y paragraffau canlynol  - 

     16. Yn lle paragraffau (a) a (b) o reoliad 99 (rhannu samplau) rhoddir y paragraffau canlynol  - 

     17. Yn lle paragraff (1) o reoliad 106 (dulliau dadansoddi) rhoddir y paragraff canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'u diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu lefelau diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) tebyg i ddiocsinau mewn porthiant (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.15).

    
3. Mae'r Rheoliadau  - 

     4. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae copi wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/70/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.


Notes:

[1] 1970 p. 40. Yn adran 66(1) ceir diffiniadau'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd diffiniad "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad (EC) 178/2002 mae cyfraith bwyd, "food law", yn ymestyn i borthiant a gynhyrchir ar gyfer, neu a roddir i, anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.back

[3] O.S. 1999/2788.back

[4] O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/343 (Cy. 15), O.S. 2001/2253 (Cy. 163) ac O.S. 2002/1797 (Cy. 172).back

[5] OJ No. L162, 15.4.76, t.1.back

[6] OJ No. L209, 6.8.2002, t.15.back

[7] OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32.back

[8] O.S. 1999/2325. Wedi'i addasu gan O.S. 2000/656 a'i ddiwygio gan O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2001/3461 (Cy. 280), O.S. 2002/1797 (Cy. 172) a 2003/ .back

[9] O.S. 1999/1871 (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn).back

[10] O.S. 1999/1872, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2002/1797 (Cy. 172) ac O.S. 2003/989 (Cy. 138).back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090748 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 11 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031677w.html