BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 Rhif 1719 (Cy.186) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031719w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 9 Gorffennaf 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Awst 2005 |
(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn -
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.
Cwmpas y Rheoliadau
3.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor[5] ar god y Gymuned ynglyn â chynhyrchion meddyginiaethol i bobl eu defnyddio.
Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olaf
4.
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.
Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw -
(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw -
(3) Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 -
Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd
6.
- (1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn "ychwanegyn bwyd".
(2) Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[6], ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol -
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) -
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
Dull marcio neu labelu
7.
- (1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos -
ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.
(2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos -
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
Gorfodi
8.
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Tramgwyddau a chosbau
9.
Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
10.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir i brofi -
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
11.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
Colofn 1 | Colofn 2 |
Fitaminau a mwynau | Uned |
1. Fitaminau | |
Fitamin A | µg RE |
Fitamin D | µg |
Fitamin E | mg α-TE |
Fitamin K | µg |
Fitamin B1 | mg |
Fitamin B2 | mg |
Nïasin | mg NE |
Asid Pantothenig | mg |
Fitamin B6 | mg |
Asid ffolig | µg |
Fitamin B12 | µg |
Biotin | µg |
Fitamin C | mg |
2. Mwynau | |
Calsiwm | mg |
Magnesiwm | mg |
Haearn | mg |
Copr | µg |
Ïodin | µg |
Zinc | mg |
Manganîs | mg |
Sodiwm | mg |
Potasiwm | mg |
Seleniwm | µg |
Cromiwm | µg |
Molybdenwm | µg |
Fflworid | mg |
Clorid | mg |
Ffosfforws | mg |
2.
FITAMIN D
3.
FITAMIN E
4.
FITAMIN K
5.
FITAMIN B1
6.
FITAMIN B2
7.
NÏASIN
8.
ASID PANTOTHENIG
9.
FITAMIN B6
10.
ASID FFOLIG
11.
FITAMIN B12
12.
BIOTIN
13.
FITAMIN C
B. Mwynau
Calsiwm carbonad
Calsiwm clorid
Halwynau calsiwm asid citrig
Calsiwm glwconad
Calsiwm glyseroffosffad
Calsiwm lactad
Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig
Calsiwm hydrocsid
Calsiwm ocsid
Magnesiwm asetad
Magnesiwm carbonad
Magnesiwm clorid
Halwynau magnesiwm asid citrig
Magnesiwm glwconad
Magnesiwm glyseroffosffad
Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig
Magnesiwm lactad
Magnesiwm hydrocsid
Magnesiwm ocsid
Magnesiwm sylffad
Carbonad fferrus
Citrad fferrus
amoniwm citrad ferrig
Glwconad fferrus
Ffwmarad ferrus
Sodiwm deuffosffad fferrig
Lactad ferrus
Sylffad fferrus
Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)
Sacarad fferrig
Haearn elfennaidd (carbonyl+electrolytig+wedi'i rydwytho â hydrogen)
Carbonad cwprig
Citrad cwprig
Glwconad cwprig
Sylffad cwprig
Cymhlygyn lysîn copr
Sodiwm ïodid
Sodiwm ïodad
Potasiwm ïodid
Potasiwm ïodad
Zinc asetad
Zinc clorid
Zinc citrad
Zinc glwconad
Zinc lactad
Zinc ocsid
Zinc carbonad
Zinc sylffad
Manganîs carbonad
Manganîs clorid
Manganîs citrad
Manganîs glwconad
Manganîs glyseroffosffad
Manganîs sylffad
Sodiwm bicarbonad
Sodiwm carbonad
Sodiwm clorid
Sodiwm citrad
Sodiwm glwconad
Sodiwm lactad
Sodiwm hydrocsid
Halwynau sodiwm asid orthoffosfforig
Potasiwm bicarbonad
Potasiwm carbonad
Potasiwm clorid
Potasiwm citrad
Potasiwm glwconad
Potasiwm glyseroffosffad
Potasiwm lactad
Potasiwm hydrocsid
Halwynau potasiwm asid orthoffosfforig
Sodiwm selenad
Sodiwm hydrogen selenit
Sodiwm selenit
Cromiwm (III) clorid
Cromiwm (III) sylffad
Amoniwm molybdad (molybdenwm (VI))
Sodiwm molybdad (molybdenwm (VI))
Potasiwm fflworid
Sodiwm fflworid
4.
Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2).
5.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 8); yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 9) ac yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 11). Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli ar fwydydd yn swyddogol (rheoliad 10).
6.
Mae arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y Cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51.back
[5] OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67.back
[6] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, 1398, 2424, 1999/747, 1136, 1483, 1540, 1603, 2000/1925 (Cy.134), 2001/1232 (Cy.66), 1440 (Cy.102), 2679 (Cy.220), 3909 (Cy.321), 2002/329 (Cy.42). .back
[7] OJ Rhif L276, 6.10.90, t.40.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 21 July 2003 |