OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1726 (Cy.189)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
9 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
14 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac ar ôl ymgynghori (yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf 1968 a enwyd) ag unrhyw bersonau sy'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli unrhyw fuddiannau o dan sylw ac y mae'n barnu eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Gorffennaf 2003.
Darpariaethau Trosiannol
2.
- (1) Mae darpariaethau paragraff 29(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001[3], fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â daliadau sydd newydd gael eu hadeiladu, eu hailadeiladu neu sydd wedi dechrau cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob rheoliad arall ni fydd y darpariaethau hyn yn gymwys hyd 1 Ionawr 2005.
(2) Mae darpariaethau paragraffau 13, 37, 38 a 39 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â daliadau sydd newydd gael eu hadeiladu, eu hailadeiladu neu sydd wedi dechrau cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob rheoliad arall ni fydd y darpariaethau hyn yn gymwys hyd 1 Ionawr 2013.
Diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn:
(2) Yn rheoliad 2 mewnosodir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (4):
(5) Mae i'r ymadroddion sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddebau'r Cyngor 91/630/EEC[4] a 2001/88/EC[5] a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC[6] yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y ddeddfwriaeth Gymunedol honno.
(3) Ar ôl rheoliad 8 mewnosodir y rheoliad canlynol -
"
Hyfforddi
8A.
Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi neu'n llogi person i ofalu am foch sicrhau fod y person hwnnw wedi derbyn cyfarwyddiadau a chanllawiau ar ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â moch."
(4) Rhoddir yr Atodlen ganlynol yn lle Atodlen 6:
"
ATODLEN 6Rheoliadau 2(3) ac 8
AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW MOCH
RHAN I
DEHONGLI
1.
Yn yr Atodlen hon -
ystyr "baedd" ("boar") yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;
ystyr "banwes" ("gilt") yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;
ystyr "hwch" ("sow") yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella am y tro cyntaf;
ystyr "mochyn magu" ("rearing pig") yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;
ystyr "porchell" ("piglet") yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac
ystyr "porchell diddwyn" ("weaner") yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at 10 wythnos oed.
RHAN II
AMODAU YCHWANEGOL CYFFREDINOL
Arolygu
2.
Rhaid i bob mochyn gael ei arolygu gan berchennog neu geidwad y moch o leiaf unwaith y dydd i weld a yw mewn cyflwr iachus.
3.
Os bydd angen, rhaid ynysu moch sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.
Tenynnau
4.
Ni chaiff neb roi tennyn na pheri rhoi tennyn ar unrhyw fochyn ac eithrio pan fydd yn mynd o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.
5.
- (1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 4, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harolygu'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(2) Rhaid i bob tennyn fod o ddigon o hyd i ganiatáu i'r moch symud fel a bennir ym mharagraff 6(2) isod a rhaid i'r dyluniad fod yn un a fydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.
Llety
6.
- (1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.
(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn -
(a) sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;
(b) cael lle glân, cysurus sydd wedi'i draenio'n ddigonol y gall orffwyso ynddo;
(c) gweld moch eraill, onid yw'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol;
(ch) cadw ei dymheredd yn gysurus; a
(d) cael digon o le i ganiatáu i'r holl anifeiliaid orwedd yr un pryd.
7.
- (1) Rhaid i faintioli unrhyw gôr neu gorlan a ddefnyddir ar gyfer cadw moch unigol yn unol â'r Rheoliadau hyn fod o'r fath nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi'i sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ym mhob achos mae hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bydd yn sefyll gyda'i gefn yn syth.
(2) Ni fydd paragraff 7(1) yn gymwys mewn perthynas â mochyn benyw am y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod y byddai'n porchella yn ôl y disgwyl a'r diwrnod y byddai'n diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll y byddai'n eu maethu), wedi'i gwblhau.
(3) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn drwy gadw mochyn mewn côr neu gorlan -
(a) tra bydd o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;
(b) at ddibenion serfio, cyfebru artiffisial neu gasglu semen;
(c) tra caiff ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;
(ch) at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;
(d) tra bydd ei lety'n cael ei lanhau; neu
(dd) tra bydd yn disgwyl cael ei lwytho ar gyfer ei gludo,
ar yr amod nad yw'r cyfnod pan yw'r mochyn yn cael ei gadw felly yn hwy na'r hyn y mae ei angen at y diben hwnnw.
(4) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn am gadw mochyn mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd iddo neu iddi neu ei (g)adael fel y myn, ar yr amod yr eir i'r côr neu'r gorlan o gôr neu gorlan y mae'r mochyn yn cael ei gadw ynddynt heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
Adeiladau â golau artiffisial
8.
Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau y mae ei ddwysedd yn 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf yn ddarostyngedig i Atodlen 1, paragraff 16, i'r Rheoliadau hyn.
Atal ymladd
9.
- (1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu hynysu neu eu cadw ar wahân i'r gr p.
Glanhau a diheintio
10.
- (1) Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i'r graddau y mae'n angenrheidiol i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud cyn amled ag y mae'n angenrheidiol i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Gwasarn
11.
Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
Lloriau
12.
Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau -
(a) fod yn llyfn heb fod yn llithrig er mwyn rhwystro anaf i'r moch;
(b) gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal yn y fath fodd ag i beidio â pheri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c) fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac
(ch) os nad oes unrhyw laesodr yn cael ei ddarparu, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
13.
Pan fydd lloriau estyll concrit yn cael eu defnyddio ar gyfer moch sy'n cael eu cadw mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn -
(a) 11mm ar gyfer perchyll;
(b) 14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;
(c) 18mm ar gyfer moch magu;
(ch) 20 mm ar gyfer banwesi ar ôl serfio a hychod;
rhaid i led isaf estyll fod yn -
(d) 50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn;
(dd) 80 mm ar gyfer moch magu, banwesi ar ôl serfio a hychod.
Bwydo
14.
- (1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan fydd gr p o foch yn cael eu cadw mewn adeilad heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan nad ydynt yn cael eu bwydo drwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid fesul unigolyn, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y gr p bwydo.
D r yfed
15.
Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.
Cyfoethogi'r amgylchedd
16.
Er mwyn i weithgareddau ymchwilio a thrafod priodol allu cymeryd lle, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad yw yn effeithio'n andwyol ar iechyd yr anifeiliaid.
Gwahardd defnyddio'r system flwch-chwysu
17.
Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd sy'n golygu cynnal tymereddau uchel a lleithder uchel (amgylchedd a elwir y "system flwch-chwysu").
Lefelau s n
18.
Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle maent yn agored i s n cyson neu sydyn Rhaid osgoi lefelau s n uwchlaw 85dBA yn y rhan honno o unrhyw adeilad lle mae moch yn cael eu cadw.
Ymyriadau
19.
Ac eithrio fel y nodir ym mharagraffau 21 i 26 o'r Atodlen hon, rhaid peidio â chyflawni unrhyw weithdrefnau ymyrryd fyddai'n arwain at niweidio neu golli darn sensitif o'r corff neu newid strwythur yr esgyrn, heblaw at ddibenion therapiwtig neu ddiagnostig.
20.
Ni chaniateir gweithredu'r gweithdrefnau a nodir ym mharagraffau 21-26 o'r Atodlen hon ac eithrio o dan amodau hylan gan filfeddyg, neu os yw'n cael ei ganiatáu o dan y gyfraith, gan berson sydd wedi'i hyfforddi yn unol â'r rheoliadau hyn ac sy'n brofiadol ym maes gweithredu'r gweithdrefnau.
21.
Rhaid peidio â defnyddio'r gweithdrefnau canlynol fel rhan o'r drefn ac eithrio pan fydd tystiolaeth bod anafiadau i dethi hychod neu i glustiau neu gynffonnau moch eraill wedi digwydd:
(a) byrhau cilddannedd perchyll yn unffurf drwy eu rhygnu neu eu clipio heb fod yn hwyrach na'r seithfed diwrnod ym mywyd y perchyll gan adael wyneb llyfn cyfan;
(b) tocio rhan o'r gynffon,
ond ni chaniateir byrhau dannedd na thocio cynffonnau oni bai mesurau eraill i wella amodau amgylcheddol neu systemau rheoli wedi'u cymryd er mwyn atal brathu cynffonnau a gwendidau eraill.
22.
Caniateir disbaddu moch gwryw ar yr amod na fydd dull a ddefnyddir yn golygu rhwygo meinweoedd.
23.
- (1) Os yw docio cynffonnau yn cael ei wneud ar ôl y seithfed diwrnod ym mywyd y mochyn, rhaid peidio â'i gyflawni ond o dan anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol gan filfeddyg.
(2) Os yw disbaddu yn cael ei wneud ar ôl y seithfed diwrnod ym mywyd y mochyn, rhaid peidio â'i gyflawni ond gan filfeddyg yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetigau) 1954[7].
24.
Caniateir byrhau ysgithredd baeddod pan fydd angen er mwyn atal anafiadau i anifeiliaid eraill neu am resymau diogelwch.
25.
Ni chaniateir rhoi modrwyau trwyn ar anifeiliaid sy'n cael eu cadw'n barhaus mewn systemau hwsmona dan do.
26.
Caniateir tagio clustiau neu fylchu clustiau at ddibenion adnabod.
RHAN III
BAEDDOD
27.
Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod i ganiatáu i'r baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.
28.
Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.
29.
- (1) Rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd llawndwf fod yn 6m2, ac eithrio fel a nodir ym mharagraff (b) o'r paragraff hwn.
(2) Pan fydd corlannau baeddod yn cael eu defnyddio hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.
RHAN IV
HYCHOD A BANWESI
30.
Rhaid rhoi triniaeth i fanwesi, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.
Porchella
31.
Os ydynt yn cael eu rhoi mewn cratiau porchella, rhaid i hychod a banwesi gael eu glanhau'n drylwyr.
32.
Yn yr wythnos cyn yr amser y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesi onid yw'n dechnegol annichonol i'r system slyri sy'n cael ei defnyddio.
33.
Yn ystod amser porchella, rhaid bod lle dirwystr ar gael y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu drwy gymorth.
34.
Rhaid i gorlannau porchella lle cedwir hychod yn rhydd gael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.
35.
Yn yr wythnos cyn yr amser y disgwylir iddynt borchella ac yn ystod y cyfnod porchella, caniateir i hychod a banwesi gael eu cadw allan o olwg moch eraill.
Lletya mewn grwpiau
36.
Rhaid cadw hychod a banwesi mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y mae diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu) yn cael ei gwblhau.
37.
Rhaid bod gan y gorlan lle mae'r gr p yn cael ei gadw ochrau sy'n fwy na 2.8m eu hyd, ac eithrio pan fydd llai na chwe mochyn yn y grwp, ac os felly rhaid i ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4m eu hyd.
38.
Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr cyfan sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch pan fydd banwesi a/neu hychod yn cael eu cadw mewn grwpiau fod yn 1.64m2 a 2.25 m2 o leiaf yn y drefn honno. Pan fydd yr anifeiliaid hyn yn cael eu cadw mewn grwpiau o lai na chwe mochyn, rhaid cynyddu 10% ar yr arwynebedd llawr dirwystr. Pan fydd yr anifeiliaid hyn yn cael eu cadw mewn grwpiau o 40 neu ragor o foch, caniateir lleihau 10% ar yr arwynebedd llawr dirwystr.
39.
Ar gyfer banwesi ar ôl serfio a hychod torrog rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 38 fod yn hafal i 0.95m2 fesul banwes o leiaf ac 1.3m2 fesul hwch o leiaf fod yn llawr cadarn parhaus y mae uchafswm o 15% ohono wedi'i neilltuo ar gyfer agoriadau traenio.
40.
Caniateir i hychod a banwesi sy'n cael eu cadw ar ddaliadau o lai na 10 hwch gael eu cadw fesul anifail unigol ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 6 a 7 o ran II o'r Atodlen hon.
41.
Yn ychwanegol at ofynion paragraff 14 o Ran II o'r atodlen hon, rhaid i hychod a banwesi gael eu bwydo drwy ddefnyddio system sy'n sicrhau bod modd i bob unigolyn gael gafael ar ddigon o fwyd hyd yn oed pan fydd cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.
42.
Rhaid rhoi i bob hwch a banwes dorrog hesb ddigon o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i ddigoni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi .
RHAN V
PERCHYLL
43.
Os bydd angen, rhaid darparu ar gyfer perchyll ffynhonnell wres a man gorwedd cadarn, sych a chysurus i ffwrdd o'r hwch lle gall pob un ohonynt orffwys yr un pryd.
44.
Rhaid i ran o'r llawr cyfan lle mae'r perchyll ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd yr un pryd, fod yn gadarn neu wedi'i gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu unrhyw ddeunydd addas arall.
45.
Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno heb drafferth.
46.
Rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn llai na 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn effeithio'n andwyol ar les neu iechyd y fam neu'r perchyll.
47.
Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 46 uchod os ydynt yn cael eu symud i adeiladau arbenigol sy'n cael eu gwagio a'u glanhau a'u diheintio'n drylwyr cyn cyflwyno gr p newydd a'r adeiladau hynny yn rhai ar wahân i'r rhai lle mae hychod eraill yn cael eu cadw.
RHAN VI
PERCHYLL DIDDWYN A MOCH MAGU
48.
Rhaid rhoi moch mewn grwpiau cyn gynted â phosibl ar ôl eu diddyfnu. Rhaid eu cadw mewn grwpiau sefydlog gyda chyn lleied â phosibl o gymysgu.
49.
Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd, dylid gwneud hynny pan fyddant mor ifanc â phosibl, o ran dewis cyn neu hyd at un wythnos ar ôl diddyfnu. Pan fydd moch yn cael eu cymysgu, rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.
50.
Rhaid cyfyngu'r defnydd ar feddyginiaeth dawelu er mwyn hwyluso cymysgu i amodau eithriadol a dim ond ar ôl ymgynghori â milfeddyg.
51.
Pan fydd arwyddion ymladd difrifol yn ymddangos, rhaid ymchwilio ar unwaith i'r achosion a rhaid cymryd camau priodol.
52.
Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu sy'n cael ei fagu mewn gr p fod o leiaf -
(a) yn 0.15 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn 10 kg neu lai;
(b) yn 0.20 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy na 10 kg ond yn llai nag 20 kg neu'n hafal i hynny;
(c) yn 0.30 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy nag 20 kg ond yn llai na 30 kg neu'n hafal i hynny;
(ch) yn 0.40 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy na 30 kg ond yn llai na 50 kg neu'n hafal i hynny;
(d) yn 0.55 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy na 50 kg ond yn llai na 85 kg neu'n hafal i hynny;
(dd) yn 0.65 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy na 85 kg ond yn llai na 110kg neu'n hafal i hynny; ac
(e) yn 1.00 metr sgwâr ar gyfer pob mochyn lle mae pwysau cyfartalog y moch yn y gr p yn fwy na 110 kg."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2682 (Cy.223)) er mwyn gweithredu: -
Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch (OJ Rhif L 316, 1.12.2001, t.1), a
Chyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch (OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t. 33).
Mae'r holl ddiwygiadau wedi'u hymgorffori mewn Atodlen 6 newydd a fewnosodir gan y Rheoliadau hyn sy'n pennu safonau ar gyfer cadw moch ac yn ymdrin yn gyntaf â safonau sy'n gymwys i bob mochyn ac yna yn ymdrin â gwahanol fathau o foch yn eu tro (rhannau II-VI).
Mewn perthynas â'r daliadau hynny sydd newydd gael eu hadeiladu neu eu hailadeiladu neu sydd wedi dechrau cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar ô l 1 Ionawr 2003, bydd yr holl ddarpariaethau yn y Rheoliadau yn gymwys.
Mewn perthynas â'r daliadau hynny a sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar y dyddiad hwnnw, ni fydd darpariaethau penodol yn gymwys ar unwaith. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Rheoliad 2.
Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn:
Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno dyletswydd ar y person sy'n cyflogi personau neu'n eu cymryd ymlaen i ofalu am foch i sicrhau eu bod wedi cael cyfarwyddiadau a chanllawiau ar y Rheoliadau hyn. Mae'r dyletswydd hwn yn ychwanegiad at y dyletswydd a gynhwysir yn rheoliad 10 o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 i sicrhau bod y person sy'n gofalu am yr anifeiliaid yn gyfarwydd â'r cod lles, bod modd iddo gael gafael ar gopi a'i fod wedi cael hyfforddiant a chanllawiau ar y codau.
Mae gofynion ychwanegol ar gyfer llety yn cael eu cyflwyno gan baragraff 6 o ran II.
Mae paragraff 8 o Ran II yn newid y gofyniad ar gyfer goleuadau. Dylid darllen hwn ar y cyd â pharagraff 16 o Atodlen 1 i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 ac â'r cod lles.
Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno lledau mwyaf agoriadau a lledau isaf estyll ar gyfer lloriau estyll concrit. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn gymwys i ddaliadau sy'n bodoli eisoes tan 2013.
Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno darpariaethau manylach mewn perthynas â chyfoethogi amgylcheddol ar gyfer moch.
Mae gwaharddiad ar s n cyson neu sydyn neu s n uwchlaw 85dBA yn cael ei gyflwyno.
Mae paragraffau 20-26 o Ran II yn cyflwyno darpariaethau manylach yngln ag ymyriadau llawfeddygol megis tocio cynffonnau a chlipio dannedd.
Rhaid bod gan gorlannau baeddod sydd i'w defnyddio ar gyfer serfio naturiol o leiaf 10m2 o arwynebedd llawr dirwystr. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn gymwys i ddaliadau sy'n bodoli eisoes tan 2005.
Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad i hychod a banwesi gael eu cadw mewn adeilad gyda'i gilydd.
Mae paragraffau 38-40 o Ran IV yn cyflwyno gofynion ar gyfer arwynebedd lloriau ar gyfer hychod a banwesi. Ni fydd y darpariaethau hyn yn gymwys i ddaliadau sy'n bodoli eisoes tan 2013.
Mae'r Rheoliadau yn cynyddu oedran diddwyn isaf ar gyfer porchelli o 21 i 28 diwrnod ac eithrio ar gyfer y rhai sy'n defnyddio systemau cynhyrchu pob-un-mewn-pob-un-allan.
Paratowyd arfarniad rheoliadol, ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru -www.wales.gov.uk. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Adran Iechyd Anifeiliaid, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1968 p.34.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2001/2682 (Cy.223), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1898 (Cy. 199).back
[4]
OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t.33.back
[5]
OJ Rhif L 316, 1.12.2001, t.1.back
[6]
OJ Rhif L 316, 1.12.2001, t.36.back
[7]
1954 p.46.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090754 X
|