OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2527 (Cy.242)
NYRSYS, BYDWRAGEDD AC YMWELWYR IECHYD, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
1 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
2 Hydref 2003 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I -
CYFFREDINOL
RHAN II -
PERSONAU COFRESTREDIG
RHAN III -
RHEDEG ASIANTAETHAU NYRSYS
Pennod 1
Ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu
Pennod 2
Y safle
Pennod 3
Materion ariannol
Pennod 4
Yr hysbysiadau sydd i'w rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol
RHAN IV -
AMRYWIOL
YR ATODLENNI
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1), (2)(a) i (c), (f) i (j) a (7)(a) i (h) a (j), 25, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] a phob per arall sy'n ei alluogi yn cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 2 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y rheoliadau hyn -
ystyr "arweiniad defnyddiwr gwasanaeth" ("service user's guide") yw'r arweiniad ysgrifenedig sy'n cael ei gynhyrchu yn unol â rheoliad 5;
ystyr "asiantaeth" ("agency") yw asiantaeth nyrsys;
ystyr "awdurdod" ("authority"), mewn perthynas â pherson -
(a) sy'n rhedeg neu sy'n dymuno rhedeg, asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr "agency for the supply of nurses" yn Neddf 1957; a
(b) sy'n ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded, neu sydd wedi gwneud cais am drwydded o'r fath,
yw'r awdurdod lleol, sef, at ddibenion yr adran honno, yr awdurdod trwyddedu y mae'r safle wedi'i leoli yn ei ardal;
ystyr "claf" ("patient") yw person y mae gwasanaeth nyrsio yn cael ei ddarparu iddo gan nyrs a gyflenwyd gan asiantaeth;
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "darparydd asiantaeth nyrsys" ("nurses agency provider") yw person sydd, yn union cyn 2 Hydref 2003 -
(a) yn rhedeg asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr "agency for the supply of nurses" yn Neddf 1957; a
(b) yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth honno;
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4;
ystyr "Deddf 1957" ("1957 Act") yw Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957[3];
ystyr "defnyddiwr gwasanaeth" ("service user") yw person y mae asiantaeth -
(a) yn cyflenwi nyrs, sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth, iddo; neu
(b) yn darparu gwasanaethau at ddibenion cyflenwi nyrs i'r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw;
ystyr "dyddiad effeithiol" ("effective date") yw'r dyddiad o bryd y mae darparydd presennol i'w drin at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, yn unol â pharagraff 1(6) o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn, fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr ymgymeriad presennol a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "nyrs" ("nurse") yw nyrs gofrestredig, bydwraig gofrestredig neu ymwelydd iechyd cofrestredig[4];
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig yr asiantaeth honno neu'n rheolwr cofrestredig arni;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr yr asiantaeth honno;
ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys -
(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (4) isod ar gyfer yr ardal y mae'r asiantaeth nyrsys yn gweithredu ynddi, yw'r swyddfa honno;
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") i'w ddehongli yn unol â rheoliad 7;
mae i "ymddiriedolaeth GIG" yr un ystyr ag "NHS trust" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[5];
ystyr "ymgymeriad presennol" ("existing undertaking") yw person sydd, yn union cyn 2 Hydref 2003 -
(a) yn rhedeg asiantaeth i gyflenwi nyrsys o fewn ystyr "agency for the supply of nurses" yn Neddf 1957; a
(b) yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflenwi nyrs yn golygu -
(a) cyflenwi nyrs sy'n cael ei chyflogi at ddibenion asiantaeth i weithredu i berson arall neu o dan ei reolaeth; a
(b) cyflwyno nyrs gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.
(3) Yn y diffiniad o "defnyddiwr gwasanaeth" ym mharagraffau (1) a (2), mae'r term "ei chyflogi" yn cynnwys cyflogaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa y mae'n ei rheoli fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys sydd wedi'i lleoli mewn rhan benodol o Gymru.
Asiantaethau sydd wedi'u heithrio
3.
At ddibenion y Ddeddf, mae ymddiriedolaeth GIG sy'n cyflenwi nyrsys i weithio ar gyfer ymddiriedolaethau GIG eraill yn unig wedi'i heithrio rhag bod yn asiantaeth nyrsys.
Datganiad o ddiben
4.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") y mae'n rhaid iddo gynnwys datganiad yngln â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael ar gais i'w archwilio gan bob defnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Ni fydd dim yn rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig dorri neu beidio â chydymffurfio â'r canlynol, nac yn ei awdurdodi i wneud hynny -
(a) unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b) yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
5.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi arweiniad defnyddiwr gwasanaeth y mae'n rhaid iddo gynnwys -
(a) crynodeb o'r datganiad o ddiben;
(b) y telerau a'r amodau ar gyfer y gwasanaethau sydd i'w darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau yngln â swm y ffioedd a dull eu talu;
(c) crynodeb o'r weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 18; ac
(ch) cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw swyddfa briodol benodedig y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth ar gael ar gais i'w archwilio ar safle'r asiantaeth gan bob defnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
6.
Rhaid i'r person cofrestredig -
(a) cadw'r ddatganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw ac, os yw'n briodol, eu diwygio; a
(b) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod o unrhyw ddiwygiad o bwys.
RHAN II
PERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
7.
- (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw berson yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person -
(a) yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b) yn gorff a -
(i) bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (cyfeirir at yr unigolyn yn y rheoliadau hyn fel "yr unigolyn cyfrifol") sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac sy'n gyfrifol am oruchwylio'r rheolaeth ar yr asiantaeth; a
(ii) bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion -
(a) bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn -
(i) ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2;
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(5) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth -
(a) os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac, (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr
8.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth -
(a) pan nad oes unrhyw reolwr cofrestredig ar gyfer yr asiantaeth; a
(b) pan fo'r darparydd cofrestredig -
(i) yn gorff; neu
(ii) yn berson anffit i reoli asiantaeth; neu
(iii) yn berson nad oes ganddo ofal amser llawn dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu bod â gofal o'r fath drosti.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(a) o enw'r person a benodwyd felly; a
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod i ddod i rym.
Ffitrwydd y rheolwr
9.
- (1) Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai -
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol a hyfforddiant
10.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o ystyried maint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth, neu (yn ôl fel y digwydd) ei rheoli, â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig -
(a) yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b) yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.
Hysbysu o dramgwyddau
11.
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed hwnnw wedi'i gyflawni yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol -
(i) o ddyddiad a man y collfarniad;
(ii) o'r tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohono; a
(iii) o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
RHAN III
RHEDEG ASIANTAETHAU NYRSYS
PENNOD 1
ANSAWDD Y GWASANAETH SY'N CAEL EI DDARPARU
Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth
12.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw nyrs yn cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth oni bai -
(a) ei bod yn berson addas o ran ei gonestrwydd a'i chymeriad da;
(b) bod ganddi'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c) ei bod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith hwnnw; ac
(ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdani ar gyfer pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwaith dethol nyrs i'w chyflenwi yn cael ei wneud gan nyrs neu o dan ei goruchwyliaeth a bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael am y nyrs sy'n gwneud y gwaith dethol -
(i) ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 8 o Atodlen 2;
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob nyrs sy'n cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth pan fydd yn gweithredu fel busnes cyflogi[6] yn cael ei chyfarwyddo bod rhaid iddi wisgo bob amser, pan fydd yn gweithio i ddefnyddiwr gwasanaeth, gerdyn adnabod sy'n dangos ei henw, enw'r asiantaeth a ffotograff diweddar.
Polisïau a gweithdrefnau
13.
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fydd asiantaeth sy'n gweithredu fel busnes cyflogi yn cyflenwi nyrs i ddarparu gofal nyrsio ym mhreswylfa breifat defnyddiwr gwasanaeth neu glaf.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi polisïau ysgrifenedig a'u rhoi ar waith mewn perthynas â'r canlynol -
(a) sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bob claf yn cyd-fynd â'r datganiad o ddiben ac yn diwallu anghenion unigol y claf hwnnw;
(b) o dan ba amgylchiadau y caiff nyrsys roi meddyginiaeth i'r claf neu helpu i'w rhoi;
(c) y tasgau eraill y caiff neu na chaiff nyrsys eu cyflawni mewn cysylltiad â gofal claf, a'r tasgau na chaniateir eu cyflawni os nad yw'r nyrs wedi cael hyfforddiant arbenigol;
(ch) trefniadau i helpu cleifion yngln â materion symudedd yn eu cartrefi, yn ôl yr angen;
(d) mesurau i sicrhau diogelwch y claf a diogelu ei eiddo;
(dd) trefniadau i sicrhau bod preifatrwydd, urddas a dymuniadau'r claf yn cael eu parchu;
(e) mesurau i ddiogelu'r claf rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(f) mesurau i ddiogelu nyrsys rhag camdriniaeth neu niwed arall;
(ff) y weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl i honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall gael ei wneud.
(3) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2) (ff) ddarparu yn benodol ar gyfer y canlynol -
(a) bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o unrhyw honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall ac o'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny; a
(b) bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn cael gwybod o unrhyw ddigwyddiad yr hysbyswyd yr heddlu ohono, a hynny heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i'r person cofrestredig -
(i) hysbysu'r heddlu o'r mater; neu
(ii) cael gwybod yr hysbyswyd yr heddlu o'r mater.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol am glaf y mae nyrs wedi'i chyflenwi gan yr asiantaeth ar ei gyfer yn cael ei datgelu i unrhyw aelod o staff yr asiantaeth oni bai ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol i'r claf.
Staffio
14.
- (1) Os yw asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, rhaid i'r person cofrestredig, o ystyried maint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod nifer priodol o bersonau gyda chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob un o gyflogeion yr asiantaeth -
(a) yn cael ei oruchwylio'n briodol; a
(b) yn cael disgrifiad swydd sy'n amlinellu ei gyfrifoldebau.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ar gyfer casglu gwybodaeth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth am berfformiad y nyrsys sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth, a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar arferion clinigol nyrs.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob nyrs sy'n cael ei chyflogi at ddibenion yr asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig ar y telerau a'r amodau y bydd yn cael ei chyflenwi i weithio odanynt i ddefnyddiwr gwasanaeth, ac o dan ei reolaeth.
(5) Rhaid i'r datganiad o delerau ac amodau a ddarperir o dan baragraff (4) bennu, yn benodol, statws cyflogaeth y nyrs.
Y llawlyfr staff
15.
- (1) Pan fydd yr asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, rhaid i'r person cofrestredig baratoi llawlyfr staff a darparu copi i bob aelod o'r staff.
(2) Rhaid i'r llawlyfr gael ei baratoi yn unol â pharagraff (1) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch -
(a) yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth y staff, a'r camau disgyblu y gellir eu cymryd yn eu herbyn;
(b) rôl a chyfrifoldebau'r nyrsys a'r staff eraill;
(c) y gofynion yngln â chadw cofnodion;
(ch) gweithdrefnau recriwtio; a
(d) gofynion a chyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
16.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei hysbysu, cyn bod nyrs yn cael ei chyflenwi -
(a) o enw'r nyrs sydd i'w chyflenwi a'r dull o gysylltu â'r nyrs honno;
(b) o enw'r aelod o staff yr asiantaeth sy'n gyfrifol am gyflenwi'r nyrs honno; ac
(c) os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, o'r manylion yngln â'r ffordd y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson sydd wedi'i enwi i weithredu ar ran y person cofrestredig.
(2) Os y claf yw'r defnyddiwr gwasanaeth hefyd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennwyd ym mharagraff (1) yn cael ei darparu, os yw'n briodol, i'r person sy'n gweithredu ar ran y claf.
Cofnodion
17.
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn cael eu cadw a'u bod -
(a) yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel; a
(b) yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn llai na thair blynedd gan ddechrau ar ddyddiad yr eitem ddiwethaf.
Cwynion
18.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ("y weithdrefn gwyno") ar gyfer ystyried cwynion sy'n cael eu gwneud i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno i bob defnyddiwr gwasanaeth ac, os gofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno gynnwys -
(a) enw a Rhif ffôn unrhyw swyddfa briodol benodedig y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn (os oes un) y mae swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r person cofrestredig ohoni ar gyfer gwneud cwynion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yngln â'r asiantaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i bob cwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwyno.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y gyn ei gwneud, roi gwybod i'r person a wnaeth y gyn am y camau sydd i'w cymryd mewn ymateb i hynny, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny a bydd gofynion rheoliad 17 yn gymwys i'r cofnod hwnnw.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn brydlon ac yn ysgrifenedig i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar unrhyw dystiolaeth am gamymddygiad gan nyrs[7].
Adolygu ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu
19.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad y mae'r person cofrestredig wedi'i gynnal at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth a'r personau sy'n gweithredu ar ran y defnyddwyr gwasanaeth ei archwilio, os byddant yn gofyn amdano.
(3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'r personau sy'n gweithredu ar ran y defnyddwyr gwasanaeth.
PENNOD 2
Y SAFLE
Ffitrwydd y safle
20.
Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion asiantaeth oni bai bod y safle yn addas ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion yr asiantaeth sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.
PENNOD 3
MATERION ARIANNOL
Y sefyllfa ariannol
21.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yr asiantaeth yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.
(2) Os bydd swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r swyddfa honno unrhyw wybodaeth a dogfennau y mae arni eu hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys -
(a) cyfrifon blynyddol yr asiantaeth wedi'u hardystio gan gyfrifydd; a
(b) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig ar gyfer atebolrwydd a allai ddod i'w ran mewn perthynas â'r asiantaeth yngln â marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
PENNOD 4
YR HYSBYSIADAU SYDD I'W RHOI I'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL
Hysbysu o absenoldeb
22.
- (1) Os yw -
(a) y darparydd cofrestredig, a hwnnw'n unigolyn â gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth; neu
(b) y rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirwiyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu -
(a) pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b) y rheswm dros yr absenoldeb;
(c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a
(d) yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud, neu y bwriedir eu gwneud, ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i'w wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos ar ôl i'r argyfwng ddigwydd gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(4) Os yw -
(a) y darparydd cofrestredig, a hwnnw'n unigolyn â gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth; neu
(b) y rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith a rhaid iddo hysbysu hyn heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl dyddiad y dychweliad.
Hysbysu o newidiadau
23.
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os yw unrhyw un o'r pethau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd -
(a) bod person ac eithrio'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth;
(b) bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth;
(c) os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw;
(ch) os corff yw'r darparydd cofrestredig -
(i) bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid;
(ii) bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd;
(iii) bod unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(d) os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;
(dd) os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi;
(e) os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth nyrsys, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debyg o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
(f) bod y darparydd cofrestredig yn caffael safle ychwanegol at ddibenion yr asiantaeth.
Penodi datodwyr etc.
24.
- (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo -
(a) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau drosto;
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac
(c) heb fod yn fwy na 28 diwrnod ar ôl y penodiad, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dull arfaethedig o weithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(a) yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth;
(b) yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth;
(c) yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth;
(ch) yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth.
Marwolaeth y person cofrestredig
25.
- (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu yn ysgrifenedig swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r farwolaeth.
(2) Os un person yn unig sydd wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod y person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig -
(a) o'r farwolaeth yn ddi-oed; a
(b) o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau yngln â rhedeg yr asiantaeth yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer -
(a) am gyfnod heb fod yn hwy nag 28 diwrnod; a
(b) am unrhyw gyfnod pellach a benderfynnir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hwy na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth yn ystod unrhyw gyfnod pryd y byddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg yr asiantaeth, heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer.
RHAN IV
AMRYWIOL
Cydymffurfio â'r rheoliadau
26.
Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.
Tramgwyddau
27.
- (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o darpariaethau rheoliadau 4 i 23 yn dramgwydd.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn y person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17.
Ffioedd
28.
- (1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd)(Cymru) 2002[8] yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd "Arrangements of Regulations", ychwanegir y llinell ganlynol at y diwedd "13. Annual fee - nurses agencies".
(3) Yn rheoliad 2(1) -
(a) ar ôl y diffiniad o "the Act" ychwanegwch -
"
"the 1957 Act" means the Nurses Agencies Act 1957";
"
"agency" means a fostering agency"
ychwanegwch y geiriau "or nurses agency";
(c) yn y diffiniad o "existing undertaking" ychwanegwch yn y man priodol -
"
(e) a nurses agency that is licensed immediately before 2 Hydref 2003 under the 1957 Act;".
(4) Ar ôl rheoliad 12 (Annual fee - fostering agencies and local authority fostering services), mewnosodwch y rheoliad canlynol -
Cofrestru
29.
Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 [9] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn -
(a) yn y diffiniad o "appropriate office of the National Assembly", mewnosodwch ar ôl is-baragraff (e) -
"
(f)
(i) if an office has been specified under regulation 2(4) of the Nurses Agencies (Wales) Regulations 2003 [10], that office;
(ii) in any other case, any office of the National Assembly."
(b) yn y diffiniad o "statement of purpose", mewnosodwch ar ôl is-baragraff (e) -
"
(f) in relation to a nurses agency, the written statement required to be compiled in relation to the nurses agency in accordance with regulation 4(1) of the Nurses Agency (Wales) Regulations 2003."
Darpariaethau trosiannol
30.
Bydd Atodlen 5 i'r rheoliadau hyn, sy'n gwneud darpariaethau trosiannol, yn effeithiol.
Llofnodwyd ar rhan Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003
ATODLEN 1Rheoliad 4
YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN
1.
Nodau ac amcanion yr asiantaeth.
2.
Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu.
3.
Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
4.
Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.
5.
Ystod cymwysterau'r nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan yr asiantaeth, a'r mathau o sefydliadau y maent yn cael eu cyflenwi i weithio ynddynt.
6.
Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 18.
ATODLEN 2Rheoliadau 7(3), 9(2) a 12(2)
YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â DARPARWYR A RHEOLWYR COFRESTREDIG ASIANTAETH A NYRSYS SY'N GYFRIFOL AM DDEWIS NYRSYS I'W CYFLENWI I DDEFNYDDWYR GWASANAETH
1.
Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.
2.
Naill ai -
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n gysylltiedig ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)[12], neu os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno[13], tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno[14].
3.
Dau dystlythyr, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para'n llai na thri mis.
4.
Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
5.
Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
6.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
7.
Mewn perthynas â nyrs y mae rheoliad 12(2) yn gymwys iddi, cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth[15], gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae enw'r nyrs wedi'i gofrestru ynddi.
8.
Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
9.
Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr "chief officer" yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol -
(a) yr oedd y person wedi'i gollfarnu o'i herwydd gan gynnwys collfarnau sydd wedi'u disbyddu o fewn ystyr "spent" yn Neddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974[16] ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975[17]); neu
(b) yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
ATODLEN 3Rheoliad 12(1)
YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â NYRSYS SYDD I'W CYFLENWI GAN ASIANTAETH
1.
Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.
2.
Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.
3.
Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.
4.
Naill ai -
(a) os yw'r swydd y mae'r nyrs yn cael ei chyflenwi i'w chyflawni yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf hono.
5.
Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr "chief officer" yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol -
(a) y caniateir eu ddatgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975[18]; neu
(b) yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
6.
Dau dystlythyr oddi wrth nyrsys neu broffesiynolion iechyd eraill, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf fel nyrs nad oedd wedi para'n llai na thri mis.
7.
Os yw'r nyrs wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y rhoes y gorau i weithio yn y swydd honno, ac eithrio os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
8.
Tystiolaeth bod y nyrs yn medru Saesneg i raddau boddhaol, os oedd cymwysterau nyrsio'r nyrs wedi'u sicrhau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
9.
Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
10.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol ac eithrio at ddibenion yr asiantaeth.
11.
Cofnod o statws imwneiddio.
12.
Cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae'r nyrs wedi'i chofrestru ynddi.
13.
Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
ATODLEN 4Rheoliad 17
Y COFNODION SYDD I'W CADW AR GYFER ARCHWILIAD
Cofnodion sy'n ymwneud â chyflenwi nyrsys
1.
Copïau o'r holl gytundebau rhwng yr asiantaeth a'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd i'w cyflenwi gan yr asiantaeth a thystiolaeth bod copi o unrhyw delerau ac amodau safonol wedi'i ddarparu gan yr asiantaeth i bob nyrs.
2.
Manylion y tâl sy'n daladwy i bob nyrs sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth a'i hamodau gwaith.
3.
Copïau o unrhyw ddatganiad a roddwyd i ddefnyddiwr gwasanaeth ac sy'n nodi cymwysterau a phrofiad perthnasol nyrs a gyflenwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.
4.
Mynegai defnyddwyr gwasanaeth yn ôl trefn yr wyddor, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a Rhif ffôn pob un ohonynt ac unrhyw rifau cyfresol a bennwyd ar eu cyfer.
5.
Mynegai yn ôl trefn yr wyddor o'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd ar gael i'w cyflenwi gan yr asiantaeth, gan gynnwys unrhyw Rhif au cyfresol a bennwyd ar eu cyfer.
6.
Manylion pob cyflenwad nyrs i ddefnyddiwr gwasanaeth.
7.
Os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi a bod nyrs yn cael ei chyflenwi i ddarparu gofal nyrsio ym mhreswylfa breifat defnyddiwr gwasanaeth neu glaf, manylion -
(a) yr afiechyd neu'r anabledd y mae'r claf yn dioddef ganddo;
(b) enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cyffredinol y claf;
(c) y proffesiynolion iechyd eraill y mae'r claf yn cael triniaeth ganddynt;
(ch) perthynas agosaf y claf;
(d) crefydd y claf;
(dd) meddianwyr eraill yn y safle lle darperir y gwasanaeth nyrsio; ac
(e) y cynllun nyrsio a luniwyd ar gyfer y claf a chofnod manwl o'r gofal nyrsio sy'n cael ei ddarparu.
Cofnodion eraill
1.
Yr holl wybodaeth sy'n cael ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth.
2.
Manylion pob honiad o gam-drin -
(a) yn erbyn nyrs; neu
(b) gan nyrs (nad yw'n destun cwyn sydd wedi'i gwneud o dan reoliad 18),
ac sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.
ATODLEN 5Rheoliad 30
Trosglwyddo o drwyddedu o dan Ddeddf 1957 i gofrestru o dan Ddeddf 2000
1.
- (1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys (y cyfeirir ato fel "y darparydd" ("the provider") yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon) pan fydd yn cael ei drin yn unol ag is-baragraff (6) fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000 a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r asiantaeth yr oedd wedi'i drwyddedu i'w rhedeg o dan Ddeddf 1957.
(2) Bydd Deddf 1957 yn parhau mewn grym er mywn rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn.
(3) Nes y bydd is-baragraff (1) yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys, bydd darpariaethau Deddf 1957 yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r darparydd, ac ar ei gyfer, fel petai unrhyw gyfeiriad yn Neddf 1957 at yr awdurdod trwyddedu yn gyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y darparydd o dan is-baragraff (9), benderfynu pan fydd yn gweld yn dda, ar y materion a ddisgrifir yn is-baragraff (5), a chyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r darparydd.
(5) Y materion yw -
(a) yr amodau (os o gwbl) yr oedd cofrestru'r darparydd o dan Ddeddf 1957 yn ddarostyngedig iddynt;
(b) unrhyw fater arall i'r graddau y mae penderfynu ar y mater hwnnw yn angenrheidiol i alluogi'r darparydd, yn unol ag is-baragraff (6), i gael ei drin at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr asiantaeth a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
a rhaid ymdrin ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (4) at ddibenion adran 21 o Ddeddf 2000 (apelau i'r Tribiwnlys) fel petai'n benderfyniad gan y Cynulliad o dan Ran II o'r Ddeddf honno.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad yn unol ag is-baragraff (4), yna o ddyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ymlaen ('y dyddiad effeithiol') -
(a) rhaid ymdrin â'r darparydd, at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000, fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr ymgymeriad presennol a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
(b) bydd yr amodau (os o gwbl) y penderfynwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (5)(a), i'r graddau y maent yn gallu bod yn amodau y mae cofrestru at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ddarostyngedig iddynt, yn effeithiol -
(i) fel petaent yn amodau y mae'r cofrestriad at y dibenion hynny yn ddarostyngedig iddynt; a
(ii) at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf 2000, fel pe baent wedi'u cytuno yn ysgrifenedig rhwng y darparydd a'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Ar, neu cyn, y dyddiad effeithiol ar gyfer penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif i'r darparydd -
(a) y mae'n rhaid i'w chynnwys fod yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 16(1)(b) o Ddeddf 2000 am gynnwys tystysgrifau sy'n cael eu dyroddi o dan Ran II o'r Ddeddf honno; a
(b) y mae'n rhaid ei thrin fel petai'n dystysgrif ar gyfer yr ymgymeriad presennol sydd wedi'i dyroddi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(8) Bydd darpariaethau is-baragraffau (5) a (6) heb ragfarn i bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i amrywio, dileu neu osod unrhyw amod yn unol â Rhan II o Ddeddf 2000.
(9) Cyn gwneud penderfyniad yngln â'r materion a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (5) mewn perthynas ag ymgymeriad presennol rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd yn rhoi gwybod i'r darparydd y caiff gyflwyno, cyn pen 28 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad hwnnw ddod i law, sylwadau ysgrifenedig am y penderfyniad, ac na chaiff unrhyw benderfyniad ei wneud cyn i'r 28 diwrnod hynny ddod i ben.
Trosglwyddo ceisiadau am drwyddedu o dan Ddeddf 1957 sydd heb eu penderfynu
2.
- (1) Mae is-baragraff (3) yn gymwys i gais am drwydded o dan Ddeddf 1957 i redeg asiantaeth er mwyn cyflenwi nyrsys -
(a) sydd wedi'i wneud i awdurdod cyn 2 Hydref 2003 ac nad yw wedi'i ganiatáu ar y dyddiad hwnnw; a
(b) nad yw is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais y mae'r awdurdod wedi rhoi'r canlynol mewn perthynas ag ef i'r person a wnaeth y cais -
(a) hysbysiad o dan adran 2(4) o Ddeddf 1957 o wrthod trwydded, neu roi trwydded yn ddarostyngedig i amodau a naill ai -
(i) bod y cyfnod ar gyfer apelio mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw heb ddod i ben; neu
(ii) bod y person a wnaeth y cais wedi apelio ond nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu neu wedi'i gollwng; neu
(b) y cyfle i gael gwrandawiad o dan adran 2(5) o'r Ddeddf honno mewn perthynas ag unrhyw gynnig i wrthod rhoi trwydded, oni bai -
(i) bod y person, o fewn yr amser a ganiatawyd gan yr awdurdod yn yr hysbysiad i roi cyfle iddo gael gwrandawiad, heb fanteisio ar y cyfle a gynigiwyd felly nac wedi nodi ei fod yn dymuno gwneud hynny; neu
(ii) bod yr awdurod wedi rhoi hysbysiad o wrthod trwydded.
(3) Os yw'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais rhaid i'r cais hwnnw gael ei drin fel cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(4) Os yw is-baragraff (2) yn gymwys -
(a) bydd Ddeddf 1957, yn ddarostyngedig i baragraff canlynol nesaf yr is-baragraff hwn, yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r materion canlynol -
(i) y penderfyniad i roi neu wrthod trwydded o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;
(ii) apêl yn erbyn penderfyniad o'r fath;
(b) bydd y swyddogaethau, y pwerau a'r dyletswyddau a oedd gan yr awdurdod, yn union cyn 2 Hydref 2003, o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff blaenorol yr is-baragraff hwn yn gymwys i'r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na'r awdurdod, a byddant yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) rhaid ymdrin â'r penderfyniad i fabwysiadu cynnig i ganiatáu cais o'r dyddiad y mae'n effeithiol, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf -
(i) fel petai'n benderfyniad i fabwysiadu cynnig i ganiatáu cais am gofrestriad ar gyfer asiantaeth nyrsys;
(ii) fel petai wedi dod yn effeithiol yn unol ag adran 19(5) o'r Ddeddf.
Y cyfnod tra'n aros am benderfyniad yngln â dileu
3.
Os yw'r awdurdod wedi dirymu trwydded y darparydd presennol mewn perthynas â'r ymgymeriad presennol, a naill ai -
(a) bod y cyfnod ar gyfer apelio yn erbyn y dirymiad heb ddod i ben; neu
(b) bod y darparydd presennol wedi apelio o dan adran 2(4) o Ddeddf 1957 ac nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu nac wedi'i gollwng,
rhaid peidio ag ymdrin â'r darparydd presennol, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, fel petai'r cofrestriad wedi'i ganiatáu ar gyfer yr ymgymeriad presennol hwnnw.
Y cyfnod tra'n aros am gynnig yngln â dileu
4.
- (1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y dyddiad effeithiol -
(a) y mae'r awdurdod neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn pwyso a mesur a ddylid dirymu trwydded y darparydd presennol ar gyfer yr ymgymeriad presennol;
(b) yn unol ag adran 2 (5) o Ddeddf 1957, y rhoddwyd cyfle i'r darparydd bresennol gael gwrandawiad; ac
(c) nad yw'r awdurdod na'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu ar y mater.
(2) Os yw is-baragraff (1) yn gymwys -
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, rhaid ymdrin â'r hysbysiad sy'n rhoi gwybod i'r darparydd presennol y mae i gael cyfle i gael gwrandawiad, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, ac er gwaethaf y ffaith nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer hysbysiad o'r fath o dan y Ddeddf, fel petai'n hysbysiad o gynnig a roddwyd o dan adran 17(4) o'r Ddeddf i ddileu'r cofrestriad o'r dyddiad effeithiol ymlaen (ac eithrio yn unol â chais o dan adran 15(1)(b)), ar gyfer ymgymeriad presennol;
(b) bydd adran 18(2) o'r Ddeddf yn effeithiol fel petai -
(i) y gair "written" wedi'i hepgor ym mharagraff (a);
(ii) y paragraff canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (c) -
"
(c) the person who is registered in respect of the agency has been given an opportunity to make oral or written representations to the National Assembly concerning the matter within a reasonable period and has failed to make them within that period."
Trosglwyddo gwybodaeth a dogfennau
5.
Rhaid i awdurdod drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(a) yr holl wybodaeth a'r dogfennau sydd yn ei feddiant ac sy'n ymwneud â thrwyddedu unrhyw asiantaeth nyrsys ar unwaith wrth i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac yr oedd yn arfer swyddogaethau'r awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf 1957 mewn perthynas â hwy yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym;
(b) cyn gynted ag y bo'n ymarferol, yr holl wybodaeth neu'r holl ddogfennau hynny sy'n dod i'w meddiant ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf"), ac maent yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau nyrsys. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu mai'r Cynulliad fydd yn gwneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg.
Yn ôl rheoliad 4, rhaid i bob asiantaeth baratoi datganiad o ddiben yngln â'r materion a nodir yn Atodlen 1 ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliad 5). Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.
Mae rheoliadau 7 i 11 yn gwneud darpariaeth yngln â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol gael ei sicrhau am y materion a bennir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer yr asiantaeth, ac mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth yngln â ffitrwydd y rheolwr. Mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol yngln ag ymddygiad priodol yr asiantaeth, a'r angen am hyfforddiant priodol.
Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth yngln ag ymddygiad asiantaethau, yn enwedig am ansawdd y gwasanaethau sydd i'w darparu gan asiantaeth. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth am ffitrwydd pob nyrs sy'n cael ei chyflenwi gan asiantaeth. Mae rheoliad 13 yn nodi'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig eu llunio a'u gweithredu os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi. Yn ychwanegol, mae darpariaeth yn cael ei gwneud yngln â staffio (rheoliad 14), darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth (rheoliad 16), cadw cofnodion (rheoliad 17 ac Atodlen 4) a chwynion (rheoliad 18). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am addasrwydd safleoedd (rheoliad 20) a'r rheolaeth ariannol ar yr asiantaeth (rheoliad 21). Mae rheoliadau 22 i 25 yn ymdrin â rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad.
Mae Rhan IV yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri rheoliadau 4 i 23 yn dramgwydd gan y person cofrestredig. Mae rheoliad 28 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol ar gyfer cofrestru asiantaethau nyrsys. Mae rheoliad 29 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 i gynnwys asiantaethau nyrsys ac mae rheoliad 30 yn ymdrin â threfniadau trosiannol.
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan "the appropriate Minister", sydd wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) (o'i darllen gyda adran 5(1)(b)), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae "prescribed" a "regulations" wedi'u diffinio yn adran 121 (1) o'r Ddeddf.back
[2]
Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back
[3]
1957 p.16.back
[4]
Gweler Deddf Dehongli 1978 (p.30), Atodlen 1. Mewnosodwyd diffiniad o "registered" mewn perthynas â nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979 (p.36), adran 23(4) ac Atodlen 7, paragraff 30, fel y'u hamnewidiwyd gan erthygl 54(3) o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253), ac Atodlen 5, paragraff 7 iddi, ar ddyddiad sydd i'w bennu.back
[5]
1990 p. 19. Gweler adran 5 o'r Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) ac adrannau 13(1) a 14 o Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8).back
[6]
Gweler adran 121(1) o'r Ddeddf i weld y diffiniad o "employment business".back
[7]
Sefydlwyd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 3 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).back
[8]
O.S. 2002/921 fel y'i diwygiwyd gan O.S.2003/237 ag O.S. 2003/781.back
[9]
O.S. 2002/919 (Cy. 107) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/237.back
[10]
O.S.back
[11]
1998 p.38.back
[12]
Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104.back
[13]
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw'n fath a bennir mewn rheoliadau ac os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau sy'n 18 oed neu drosodd, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back
[14]
Mae adran 113(3A) ac 115(6A) wedi'u hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) i'w hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back
[15]
Mae'r gofrestr yn cael ei chadw yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 2 i Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).back
[16]
1974 p.53.back
[17]
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.back
[18]
O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, 1986/2268, 2001/1192 a 2002/441.back
English version
ISBN
0 11090787 6
|