BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 Rhif 2531 (Cy.246)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032531w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2531 (Cy.246)

POBL ANABL, CYMRU

Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 1 Hydref 2003 
  Yn dod i rym 8 Hydref 2003 

Drwy arfer y pwerau a freiniwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol gan adrannau 28D(1), (2), (8) a (9), a 67(3)(a), o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 8 Hydref 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Cyfwng rhagnodedig ar gyfer paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd
    
2. At ddibenion is-adrannau (1) ac (8) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, rhaid paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd.

Cyfnod rhagnodedig ar gyfer strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd
    
3. At ddibenion is-adrannau (2) a (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, tair blynedd fydd y cyfnod rhagnodedig ym mhob achos, gan gychwyn ar 1 Ebrill a bydd cyfnod y strategaeth hygyrchedd cyntaf ac (yn ddarotyngedig i reoliad 4) y cynllun hygyrchedd gyntaf yn cychwyn ar 1 Ebrill 2004.

    
4. Mewn perthynas ag ysgol sydd yn cael ei sefydlu wedi 1 Ebrill 2004, at ddibenion adran (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, bydd cyfnod rhagnodedig cynllun hygyrchedd yr ysgol honno yn cychwyn ar y dyddiad y mae'r ysgol yn cael ei sefydlu ac yn gorffen ar y dyddiad y byddai'r cynllun hygyrchedd presennol wedi gorffen pe bai'r ysgol wedi ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004, neu cyn hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Hydref 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, yn rhagnodi:


Notes:

[1] 1995, p.50; mewnosodwyd adran 28D gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 14(1).back

[2] Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 28D(17) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090789 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 8 October 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032531w.html