OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2676 (Cy.258)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
15 Hydref 2003 | |
|
Yn dod i rym |
16 Hydref 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac sydd yn arferadwy yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2] i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[3].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 16 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "awdurdod" ("authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "awdurdod rhagflaenol" ("predecessor authority") yw unrhyw awdurdod lleol a oedd yn bodoli yng Nghymru cyn 1 Ebrill 1996 ac nad oedd yn gyngor plwyf, yn gyngor tref nac yn gyngor cymuned;
ystyr "cyfnod cymhwyso" ("qualifying period") yw'r cyfnod amser y mae'r awdurdod yn penderfynu mai hwnnw yw'r cyfnod y mae'n rhaid i aelod fod wedi bod yn aelod etholedig o awdurdod neu awdurdod rhagflaenol yng Nghymru i gymhwyso ar gyfer dyfarndal am wasanaeth a roddwyd a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na phymtheng mlynedd erbyn 9 Mai 2003;
ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Blwydd-daliadau 1972[4];
ystyr "dyfarndal am wasanaeth a roddwyd" ("past service award") yw rhodd arian yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o Ddeddf 1972.
Dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd
3.
Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 caiff awdurdod benderfynu pa aelodau o'r awdurdod hwnnw, a'r rheini'n gynghorwyr yr awdurdod hwnnw, sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd.
Hawl i ddyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd
4.
Wrth benderfynu pa aelodau sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd yn unol â Rheoliad 3 rhaid i awdurdod -
(a) ei gwneud yn ofynnol bod aelod wedi treulio cyfnod cymhwyso;
(b) ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i aelod wneud cais ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig am ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd erbyn y dyddiad a benderfynir gan yr awdurdod a hwnnw'n ddyddiad nad yw'n hwyrach na phum wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;
(c) ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau ar gyfer etholiad cyffredin cynghorwyr awdurdodau yn 2004;
(ch) sicrhau cyn iddo dalu dyfarndal am wasanaeth a roddwyd i aelod a gyflwynodd gais yn unol â pharagraff (b) ei fod wedi'i fodloni nad yw'r aelod ar ôl hynny wedi sefyll etholiad yn etholiadau 2004 ar gyfer awdurdodau; a
(d) sicrhau nad yw'r aelod hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, T'r Cyffredin, T'r Arglwyddi neu Senedd Ewrop.
Cyfrifo'r cyfnod cymhwyso
5.
- (1) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2), gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnodau o wasanaeth blaenorol p'un a oedd y cyfnodau hynny o wasanaeth blaenorol gyda'r awdurdod, unrhyw awdurdod arall neu unrhyw awdurdod rhagflaenol.
(2) Mae'r cyfyngiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) fel a ganlyn -
(a) nid yw cyfnodau gwahardd dros dro i'w hystyried yn gyfnodau gwasanaeth;
(b) pan fydd cyfnodau o wasanaeth blaenorol gydag awdurdod rhagflaenol wedi'u treulio ar yr un pryd â mwy nag un awdurdod o'r fath, dim ond gwasanaeth gydag un gwasanaeth o'r fath sydd i'w gymryd i ystyriaeth.
(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) pan oedd y gwasanaeth yn wasanaeth gydag awdurdod rhagflaenol y daeth ei fodolaeth i ben ar 31 Mawrth 1996, bernir mai un flwyddyn o wasanaeth yw'r cyfnod o wasanaeth o Fai 1995 tan 31 Mawrth 1996 ac eithrio yn achos aelod a oedd hefyd yn aelod o awdurdod ar 1 Ebrill 1996.
Diwygio Rheoliadau
6.
Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001[5] (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir -
(a) yng ngholofn (1) ar ôl 1 -
"
1A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a"; a
(b) yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A -
"
Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);"[6].
7.
Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[7] (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir -
(a) yng ngholofn (1) ar ôl 1 -
"
1A.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a"; a
(b) yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A -
"
Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);"[8]).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y'i mewnosodwyd gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000"), yn darparu'r per i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau. Caiff y rheoliadau hynny wneud darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i benderfynu pa rai o'u haelodau sydd â hawl i arian rhodd. Mae adran 18(3A) yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae adran 13(3)(a) o Ddeddf 2000 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth bod unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol sydd wedi'i phennu mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno yn swyddogaeth nad yw gweithrediaeth i fod yn gyfrifol amdani o dan drefniadau gweithrediaeth. Mae adran 32 o Ddeddf 2000 yn caniatáu i ddiwygiadau cyffelyb gael eu gwneud yngln â chynghorau sy'n gweithredu "trefniadau amgen" gyda Bwrdd yn hytrach na gweithrediaeth.
Mae Rheoliad 3 yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i benderfynu pa aelodau (sydd yn gynghorwyr) sydd â hawl i arian rhodd (a elwir "dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd" yn y Rheoliadau hyn) yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau Pensiwn 1972.
Mae Rheoliad 3 yn galluogi awdurdodau i benderfynu pa aelodau sydd â hawl i ddyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd, yn ddarostyngedig i'r meini prawf cymhwyster yn Rheoliad 4.
Mae Rheoliad 4 yn mynnu bod rhaid i awdurdodau, wrth benderfynu cymhwyster aelodau ar gyfer dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd:
- ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod wedi treulio'r cyfnod cymhwyso a benderfynir gan y cyngor sef cyfnod nad yw'n llai na 15 mlynedd o wasanaeth erbyn 9 Mai 2003;
- ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn gwneud cais ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig erbyn y dyddiad a benderfynir gan yr awdurdod a hwnnw'n ddyddiad nad yw'n hwyrach na phum wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;
- ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau ar gyfer etholiad cyffredin cynghorwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn 2004;
- sicrhau, cyn talu dyfarndal am wasanaeth a roddwyd, na wnaeth yr aelod sefyll yn etholiadau 2004 ar gyfer siroedd a bwrdeistrefi sirol ar ôl gwneud cais i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig am ddyfarndal o'r fath; a
- sicrhau nad yw'r aelod hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, T'r Cyffredin, T'r Arglwyddi neu Senedd Ewrop.
Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i awdurdod wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso gymryd i ystyriaeth unrhyw wasanaeth blaenorol (ond heb gynnwys cyfnodau atal) gan gynnwys gwasanaeth pan oedd aelod yn aelod o unrhyw awdurdod Cymreig cyn 1 Ebrill 1996 (heb gynnwys cynghorau plwyf, cynghorau tref a chynghorau cymuned). Pan fydd gan aelod gyfnodau o wasanaeth cyn 1996 gyda mwy nag un awdurdod, a'i fod wedi treulio'r cyfnodau gwasanaeth hynny ar yr un pryd, dim ond gwasanaeth gydag un o'r awdurdodau hynny y caniateir ei ddefnyddio wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso. Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso ar gyfer gwasanaeth gydag awdurdod a oedd yn bodoli cyn 1996, ac y daeth ei fodolaeth i ben ar 31 Mawrth 1996, bernir mai un flwyddyn o wasanaeth yw'r cyfnod o wasanaeth o Fai 1995 tan Fawrth 1996 oni bai yr oedd aelod hefyd yn aelod o awdurdod ar 1 Ebrill 1996.
Mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth 2001"). Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod swyddogaethau awdurdod lleol yn cael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod oni bai bod y swyddogaethau hynny wedi'u pennu'n swyddogaethau nad yw gweithrediaeth yr awdurdod i fod yn gyfrifol amdanynt. Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau mai un o swyddogaethau'r cyngor fydd y cyfrifoldeb dros benderfynu pa aelodau fydd â hawl i gael dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd, ac maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth 2001.
Mae Rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 mewn ffordd debyg i'r diwygiad sy'n cael ei wneud drwy Reoliad 6. Mae effaith Rheoliad 7 fel a ganlyn: pan fydd cyngor yn gweithredu "trefniadau amgen" yn unol â Rhan II o Ddeddf 2000, nid yw'r cyfrifoldeb dros benderfynu pa aelodau sydd â hawl i gael dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd yn un o swyddogaethau'r Bwrdd ond yn hytrach yn fater i'r cyngor.
Mae Rheoliadau 6 a 7 yn peri bod diwygiadau yn cael eu gwneud hefyd, sef diwygiadau a fydd yn golygu bod swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau a lwfansau mewn perthynas â rheoliadau a wnaed o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn swyddogaethau nad oes modd i weithrediaeth na Bwrdd cyngor (fel y bo'n briodol) ymdrin â hwy a bod rhaid iddynt fod yn fater i'r cyngor.
Notes:
[1]
p. 42. Mewnosodwyd adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 gan adran 99(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[2]
O.S. 1999/672.back
[3]
p. 22.back
[4]
p.11.back
[5]
O.S. 2001/2291 (Cy. 179).back
[6]
1989 p.42.back
[7]
O.S. 2001/2284 (Cy. 173).back
[8]
1989 p.42.back
[9]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090797 3
|