BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 Rhif 3041 (Cy.286) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033041w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Tachwedd 2003 | ||
Yn dod i rym | 28 Tachwedd 2003 |
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, caiff ei drin fel "cynnyrch dynodedig" ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn dim ond -
(ch) os y'i paratowyd drwy ddefnyddio unrhyw driniaeth neu sylwedd ychwanegol, os yw'r driniaeth neu'r sylwedd wedi'u pennu yn Atodlen 4; a
(d) ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig "neithdar ffrwythau", os yw'n cynnwys yr isafswm o sudd neu biwrî a bennir yn Atodlen 5 ynghyd â'r Nodyn i'r Atodlen honno.
Ystod y Rheoliadau
3.
Yn ddarostyngedig i reoliad 5(e), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynhyrchion dynodedig a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig
4.
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label (boed y label wedi'i gysylltu i'r deunydd lapio neu i'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt) sy'n ddisgrifiad neilltuedig neu'n ddisgrifiad sy'n deillio ohono neu sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad o'r fath, neu sy'n air neu'n ddisgrifiad sylweddol o debyg iddo neu sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw air neu ddisgrifiad o'r fath oni bai -
Labelu a disgrifio cynnyrch dynodedig
5.
Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai -
bod ei labelu yn dwyn y geiriau "partially made from concentrate" neu, yn ôl y digwydd, "partially made from concentrates", bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;
(d) yn achos neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig, y mae ei labelu yn dwyn y geiriau "made with concentrate" neu, yn ôl y digwydd, "made with concentrates", a bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;
(dd) yn achos neithdar ffrwythau, mae ei labelu yn dwyn datganiad o'r isafswm o sudd ffrwythau, neu biwrî ffrwythau, neu gymysgedd o sudd ffrwythau a phiwrî ffrwythau, ei fod yn cynnwys, gyda'r geiriau "fruit content :[x] % minimum" (yn lle "[x]" mewnosoder y ffigur priodol) yn ymddangos yn yr un cylch golwg â'r disgrifiad neilltuedig; ac
(e) yn achos sudd ffrwythau dwysedig na fwriadwyd ar gyfer ei gyflenwi i'r defnyddiwr olaf, ei fod yn dwyn datganiad ar y pecyn sydd amdano, ar label sydd wedi'i gysylltu â'r pecyn sydd amdano, neu mewn dogfen sydd gydag ef, o bresenoldeb y canlynol a'r swm ohonynt sydd ynddo -
Dull marcio neu labelu
6.
Bydd rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol eu cynnwys wrth farcio neu labelu cynnyrch dynodedig fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu cynnwys wrth farcio neu labelu bwyd.
Cosbi a gorfodi
7.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
8.
Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir i brofi -
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990.
9.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Diwygio a dirymu
10.
- (1)
(2) Yn narpariaethau'r Rheoliadau a bennir ym mharagraff (3) (ym mhob achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) dileer y cofnodion sy'n ymwneud â Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Suddoedd Neithdar 1977[11].
(3) Dyma'r darpariaethau -
(4) Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) -
Darpariaethau trosiannol
11.
Mewn unrhyw achosion mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 7 bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad
26 Tachwedd 2003
Colofn 1 | Colofn 2 |
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
Yn y disgrifiadau a restrir yn eitemau 1 i 5 isod -
(b) yn ddarostyngedig i amod (c), os caiff y cynnyrch ei weithgynhyrchu o ddau fath o ffrwyth neu fwy (ac eithrio'r defnydd o naill ai sudd lemon neu sudd lemon dwysedig neu'r ddau os yw hyn yn unol â'r awdurdodiad a ddisgrifir ym mharagraff 4 o Atodlen 3 ategir y disgrifiad neilltuedig gan enwau'r ffrwythau a ddefnyddir, mewn trefn ddisgynnol o'r cyfaint (wedi'i gyfrifo fel sudd neu biwrî dwysedig) o'r sudd neu'r piwrî a gynhwysir o bob un math o ffrwyth; ac (c) os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu o dri math o ffrwyth neu fwy, yna os nad ategwyd y disgrifiad neilltuedig fel y mae'n ofynnol gan amod (b) ategir ef, ar y llaw arall, gyda'r geiriau "several fruits" neu gan eiriau tebyg, neu gan y nifer o fathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd. |
|
1.
Fruit juice |
Y cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a gafwyd o ffrwyth sy'n iach ac aeddfed, yn ffres neu wedi'i gadw drwy ei oeri, o un math neu fwy nag un math a gymysgwyd ynghyd, y mae ganddo hynodrwydd lliw, blas a chyflas nodweddiadol sudd y ffrwyth y daw ohono; y gellir adfer iddo gyflas, mwydion a chelloedd o'r sudd a wahanwyd yn ystod y prosesu yn ôl at yr un sudd; y mae'n rhaid bod y sudd, yn achos ffrwythau sitrws heblaw leimiau, yn dod o endocarp; ac yn achos leimiau, gellir cael y sudd o'r ffrwyth cyfan, drwy brosesau cynhyrchu addas y mae cyfrannedd cyfansoddol y rhan allanol o'r ffrwyth yn cael ei leihau i isafswm. |
2.
Concentrated fruit juice |
Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol gyfran benodol o'i gynnwys d r. Os bwriedir y cynnyrch ar gyfer ei yfed neu ei fwyta'n uniongyrchol rhaid tynnu o leiaf 50% o gyfran y cynnwys d r. |
3.
Fruit juice from concentrate |
Y cynnyrch a geir wrth roi yn ôl, mewn sudd ffrwythau dwysedig, dd r a echdynnwyd o'r sudd hwnnw yn ystod y broses ddwyso, a thrwy adfer y cyflasau ac, os yw hynny'n briodol, y mwydion a'r celloedd a gollwyd o'r sudd ond a adferwyd yn ystod y broses o gynhyrchu'r sudd ffrwythau o dan sylw neu'r sudd ffrwythau o'r un math; y mae'n rhaid i'r d r a ychwanegwyd ddangos y nodweddion cemegol, microbiolegol, organoleptig ac, os ydynt yn briodol, nodweddion eraill a fydd yn gwarantu ansoddau hanfodol y suddoedd; a mae'n rhaid i'r cynnyrch ddangos nodweddion organoleptig a dadansoddol sydd o leiaf yn gyfartal â'r rhai hynny mewn math arferol o sudd ffrwythau a gafwyd o ffrwythau neu ffrwythau o'r un math. |
4.
Dehydrated neu powdered fruit juice |
Y cynnyrch a geir o sudd ffrwythau o un math neu fwy drwy dynnu'n ffisegol ei holl gynnwys d r. |
5.
Fruit nectar |
Cynnyrch eplesiadwy ond na chafodd ei eplesu a geir wrth ychwanegu d r (mewn swm nad yw'n fwy na 20% o gyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig) ac unrhyw un neu fwy o'r canlynol -
(b) melysyddion, neu (c) mêl, at -
(ii) sudd ffrwythau dwysedig, neu (iii) sudd ffrwythau o ddwysfwyd, neu (iv) sudd ffrwythau dadhydradedig, neu (v) sudd ffrwythau powdr, neu (vi) piwrî ffrwythau, neu (vii) at unrhyw gymysgedd o gynhyrchion yn (i) i (vi) uchod,
ac mae'r cynnyrch hwnnw i fodloni safon isaf y gofynion ynghylch cynnwys (boed sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau, neu gymysgedd o sudd o'r fath a phiwrî) a bennir yn Atodlen 4, ac os defnyddir melysyddion mae'r defnydd ohonynt hwy hefyd i fod yn unol â gofynion Cyfarwyddeb 94/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar felysyddion ar gyfer eu defnyddio mewn bwydydd[22].
Os un neu fwy o fricyll neu o ffrwythau a restrir yn Rhan II a III o Atodlen 4 yw'r math o ffrwyth a ddefnyddir, gellir gweithgynhyrchu'r cynnyrch heb ychwanegu unrhyw siwgrau, melysyddion neu fêl. |
(b) wrth baratoi sudd ffrwythau o ddwysfwyd -
(c) wrth baratoi sudd ffrwythau -
5.
Mêl, sef y cynnyrch a ddiffinnir fel "honey" yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC mewn perthynas â mêl[24].
6.
Mwydion neu gelloedd, sef -
nid yw cyfanswm y siwgrau a ychwanegir felly at y naill ddiben neu'r llall i fod yn fwy na 150g y litr o sudd.
4.
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, at ddibenion rheoleiddio blas asidig, ceir ychwanegu -
(a fynegir fel asid sitrig anhydrus), nid yw cyfanswm y sudd hwnnw a ychwanegir i fod yn fwy na 3g y litr o'r cynnyrch.
5.
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu deuocsid carbon.
6.
Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl[25].
Isafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig) | |
I. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau â sudd asidig annymunol yn eu cyflwr naturiol | |
Ffrwyth y dioddefaint | 25 |
Quito naranjillos | 25 |
Cyrains duon | 25 |
Cyrains gwynion | 25 |
Cyrains cochion | 25 |
Eirin Mair | 30 |
Aeron myrafnwydd | 25 |
Eirin tagu | 30 |
Eirin | 30 |
Quetsches | 30 |
Criafol | 30 |
Egroes | 40 |
Ceirios sur | 35 |
Ceirios eraill | 40 |
Llus | 40 |
Eirin ysgaw | 50 |
Mafon | 40 |
Bricyll | 40 |
Mefus | 40 |
Mwyar Mair/mwyar duon | 40 |
Llugaeron | 30 |
Afalau cwins | 50 |
Lemonau a leimiau | 25 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 25 |
II. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n isel mewn asid, yn fwydiog neu'n annymunol iawn yn eu cyflwr naturiol | |
Mangos | 25 |
Bananas | 25 |
Gwafas | 25 |
Papaias | 25 |
Lytshis | 25 |
Azeroles (Merys Neapolitanaidd) | 25 |
Micasau sur | 25 |
Afalau cwstard | 25 |
Afalau siwgwr | 25 |
Pomgranadau | 25 |
Ffrwythau cashiw | 25 |
Eirin Sbaen | 25 |
Wmbw | 25 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | |
III. Neithdarau ffrwythau wedi'u gwneud o ffrwythau sy'n dymunol yn eu cyflwr naturiol | |
Afalau | 50 |
Gellyg | 50 |
Eirin gwlanog | 50 |
Ffrwthau sitrws heblaw lemonau a leimiau | 50 |
Pinafalau | 50 |
Ffrwythau eraill sy'n perthyn i'r categori hwn | 50 |
Mae Arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/72/EC (OJ Rhif L295, 4.11.1998, t.18).back
[5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back
[6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back
[7] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, O.S. 1998/1398, O.S. 1998/2424, O.S. 1999/747, O.S. 1999/1136, O.S. 1999/1483, O.S. 1999/1540, O.S. 2000/768, O.S. 2000/2254, O.S. 2000/3323, O.S. 2001/2294, O.S. 2001/3442, O.S. 2001/3775 ac O.S. 2002/379.back
[8] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).back
[9] O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10] O.S. 1995/3187, y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[17] O.S.1995/3187; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1787(Cy. 128), 1440 (Cy. 102).back
[22] OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 96/83/EC (OJ Rhif L48, 19.2.97, t.16).back
[23] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.back
[24] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.back
[25] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back
[26] Cyfarwyddeb y Cyngor 89/109/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L40, 11.2.1989 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18 yw'r Cyfarwyddebau.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 3 December 2003 |