BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 3223 (Cy.306)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033223w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3223 (Cy.306)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983
    
2. Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[2] (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 ("Rheoliadau 1983") ac maent yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5A o Reoliadau 1983 er mwyn darparu y caiff asiantaeth fabwysiadu estyn cyfnod swydd aelod o banel mabwysiadu sydd yn ei swydd am yr ail gyfnod olynol ac mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2003 am gyfnod pellach o ddwy flynedd.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod costau ar fusnes.


Notes:

[1] 1976 p.36. Diwygiwyd adran 9(2) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 ("Deddf 1976") gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 5(6)(a) o Atodlen 4 iddi (p.14). Mae'r pwerau yn adran 9(2) a (3) yn arferadwy gan y "Gweinidog priodol" a diffinnir ef yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adran 9(5) o Ddeddf 1976 gan adran 139(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 iddi (p.38).back

[2] O.S. 1983/1964. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 1997/649.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090832 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033223w.html